Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Cynghorwyr Arbennig yn ychwanegu dimensiwn gwleidyddol i’r cyngor a’r cymorth sydd ar gael i’r Gweinidogion, gan atgyfnerthu didueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy wahaniaethu’r ffynhonnell o gyngor a chymorth gwleidyddol. 
Fe’u penodir gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion ar faterion lle mae gwaith y Llywodraeth a gwaith plaid y Llywodraeth yn gorgyffwrdd a lle byddai’n amhriodol i weision sifil parhaol ymwneud â’r gwaith. Maent yn adnodd ychwanegol i’r Gweinidog, gan roi cymorth o safbwynt â mwy o ymrwymiad ac ymwybyddiaeth wleidyddol nag y byddai ar gael i Weinidog gan y Gwasanaeth Sifil parhaol. 
Isod ceir rhestr o’r Cynghorwyr Arbennig sydd wedi bod yn eu swyddi ers 1 Ebrill 2012.

Mae’r rhestr yn cynnwys Cynghorwyr Arbennig y daeth eu cyflogaeth i ben yn ystod y flwyddyn.

Cynghorydd Arbennig/ Dyddiadau cyflogaeth

  • Andrew Bold:  1/4/2012 - presennol
  • Jonathan Davies*:  1/4/2012 - presennol
  • Matt Greenough*:  1/4/2012 - presennol
  • Sophie Howe*:  1/4/2012 - 8.3.13 
  • Steve Jones:  1/4/2012 - presennol
  • Jo Kiernan:  1/4/2012 - present
  • Ruth Mullineux**:  20/5/2013 - presennol
  • Chris Roberts***:  1/4/2012 - presennol

  * gweithio’n rhan amser
  ** gweithio ar secondiad 18 mis ac yn cadw telerau ac amodau cyflogaeth y cyflogwr
  *** yn gweithio’n rhan amser cyn 18.2.13
Daw contractau Cynghorwyr Arbennig i ben naill ai pan fydd y Prif Weinidog yn rhoi gorau i’w rôl, neu ar ddiwedd y dydd ar ôl y diwrnod pleidleisio yn etholiad cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. O dan y trefniadau contractiol presennol, mae hawl gan Gynghorwyr Arbennig gael taliadau diswyddo mewn amgylchiadau o’r fath. Yn yr un modd, os bydd Cynghorydd Arbennig yn ymddiswyddo ar ôl cyhoeddi etholiad cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae rhwymedigaeth o dan y contract i wneud taliad diswyddo. Os caiff Cynghorydd Arbennig ei ailbenodi ar ôl yr etholiad, bydd gofyn i’r unigolyn ad-dalu unrhyw ran o’r taliad diswyddo sy’n gorgyffwrdd â’r cyfnod lle caiff ei ailgyflogi fel Cynghorydd Arbennig.

Cost y gyflogres ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2012 i 31 Mawrth 2013 oedd £438,840.49. Ni wnaed unrhyw daliadau diswyddo.

Mae strwythur cyflog y Cynghorwyr Arbennig yn seiliedig ar fandiau bras syml. Yn ystod y cyfnod uchod, roedd Cynghorwyr Arbennig yn Llywodraeth Cymru naill ai yn gyflogedig neu’n gweithio ar secondiad.

Isod ceir rhestr o’r Cynghorwyr Arbennig yn eu swydd ar 31 Mawrth 2013 a’u bandiau cyflog, ynghyd ag ystod pob band cyflog ar gyfer 2012-13.

Cynghorydd Arbennig yn y Swydd/ Yn Gyfrifol am/ Band Cyflog
  • Jo Kiernan/ Uned Gyflawni’r Prif Weinidog, Deddfwriaeth, Cysylltiadau Rhyng-lywodraeth, Cymru yn y Byd, a Rhyddid Gwybodaeth (Band 2)
  • Andrew Bold/ Yr Economi, Gwyddoniaeth, Trafnidiaeth a Thechnoleg (Band 1)
  • Chris Roberts/ Cymunedau, Plant a Threchu Tlodi, y Sefydliad Polisi Cyhoeddus, y Comisiwn Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bil Teithio Llesol (Band 1)
  • Steve Jones/ Y Cyfryngau, Cyfathrebu a Busnes y Cynulliad (Band1)
  • Matt Greenough/ Addysg, Sgiliau a’r Gymraeg, Diwylliant a Chwaraeon (Band 1)
  • Jonathan Davies/ Iechyd (Band1)

Bandiau Cyflog y Cynghorwyr Arbennig ar gyfer 2012-13

Roedd bandiau cyflog y Cynghorwyr Arbennig ar gyfer 2012-13 fel a ganlyn:

Band Cyflog 1: £40,352 – £54,121 
Band Cyflog 2: £52,215 – £69,266