Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n dri mis bellach ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru gan gymryd swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.  Ers hynny mae’r Bwrdd wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf yn gyhoeddus, wedi penodi cyfarwyddwyr gweithredol a thimau arwain, ac yn rhoi blaenoriaeth i integreiddio'r holl dimau yn ystod 2013/14.

Rwy'n falch iawn bod Cyfoeth Naturiol Cymru'n arddel ffordd integredig a chyson o weithio er mwyn hwyluso datblygiad cynaliadwy adnoddau naturiol Cymru. Fel y corff mwyaf a noddir yng Nghymru, dyma'r unig sefydliad yn y byd sydd â chymysgedd mor unigryw o weithgarwch o ran rheoli, diogelu a defnyddio adnoddau naturiol Cymru.

Ar hyn o bryd mae'r sefydliad yn mynd i’r afael â materion sylweddol, yn eu plith sialensiau iechyd coed, gan gynnwys lledaeniad yr afiechyd Phytophthora Ramorum y cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn ei gylch yr wythnos ddiwethaf a Chalara Fraxinea.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn sefydlu cynlluniau i ymateb i bryderon perchnogion coedwigoedd preifat a’r sector prosesu coed.

Y cam nesaf fydd sicrhau fod gennym fframwaith statudol fodern a chyson ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gweld defnydd mwy effeithiol, rhagweithiol a chynaliadwy o adnoddau naturiol i gyflawni manteision tymor hir i Gymru. Rydym yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth newydd drwy’r Bil Amgylchedd i wneud hyn, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gweithio’n agos gyda ni er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i’w harfogi ar gyfer y dyfodol.

Rwyf hefyd wedi'i gwneud yn glir i'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr bod meithrin a chreu diwylliant newydd o fewn y sefydliad newydd yn flaenoriaeth allweddol iddynt. Yn ogystal â llyfnhau'r strwythurau trefniadaeth, pwrpas sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru oedd creu math newydd o gorff a ffordd newydd o edrych ar ei rôl reoleiddio. Eglurais yn y llythyr cylch gwaith fy mod yn disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru weithio mewn ffordd gadarnhaol a rhagweithiol mewn partneriaeth er mwyn cyflawni'n gweledigaeth ar y cyd ar gyfer rheoli'n hadnoddau naturiol yn y dyfodol.

Yn ddiweddar cefais gyfarfod gyda’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr er mwyn trafod eu cynlluniau i ddatblygu’r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2014/15 i 2016/17. Er mwyn sicrhau bod pob un o’r partïon â diddordeb yn medru cyfrannu at y Cynllun, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau allanol a mewnol ar draws Cymru i drafod eu blaenoriaethau a’u ffyrdd o weithio ar gyfer y dyfodol. Bydd y trafodaethau hyn yn parhau yn ystod Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol. Yna bydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n ymgynghori’n ffurfiol ar ei gynllun corfforaethol drafft yn yr hydref.

Rwyf hefyd wedi cymeradwyo cynllun busnes cyntaf Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn ddiweddar cytunodd y Bwrdd ar fformat a threfniadau adrodd eu dangosfwrdd corfforaethol a fydd yn ffordd gyfleus o weld dangosyddion perfformiad allweddol sy’n berthnasol i’w hamcanion a’u prosesau busnes. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu adroddiad monitro perfformiad. Bydd yn cynnwys mesurau i fonitro perfformiad yn erbyn blaenoriaethau Gweinidogion Cymru fel sy’n cael eu nodi yn y llythyr cylch gwaith, yr hyn sy’n cael ei gyflawni o ran dyletswyddau statudol, a dangosyddion cynnydd mewnol y sefydliad. 

Ysgrifennais at Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddar, gan roi targedau diwygiedig iddo ar gyfer arbedion yn y dyfodol. Mae'r targedau a gytunwyd yn adlewyrchu'r wybodaeth ddiweddaraf o ran costau ac arbedion, ac yn nodi cyfanswm o £127 miliwn mewn arbedion rhyddhau arian dros y cyfnod o ddeng mlynedd. Rwy'n falch o weld fod hynny'n agos i'r amcangyfrifon yn yr achos busnes gwreiddiol.

Yn ogystal ag ysgwyddo amrywiaeth eang o gyfrifoldebau gweithredol yn llwyddiannus yn ystod y tri mis cyntaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cyflawni’r canlynol:

  • canolfan gofal cwsmer newydd sydd eisoes wedi delio â dros 10,000 o ymholiadau
  • siop un stop yn rhoi pwynt cyswllt unigol ac ymateb unigol i geisiadau cynllunio
  • dros 1,500 ymgynghoriad rheolaeth gynllunio wedi dod i law drwy’r siop un stop
  • achrediad Gwasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS) ar gyfer dadansoddiad microbioleg yn Labordy Llanelli.

Ers lansio Cyfoeth Naturiol Cymru ar 3 Ebrill rwyf wedi cyfarfod y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr yn fisol, ac rwy’n fodlon bod y Bwrdd a’r tîm o uwch swyddogion yn ymwybodol o’r materion sydd angen mynd i’r afael â nhw. Rwy’n hyderus bod y sefydliad eisoes ar y trywydd cywir i fod yn llwyddiannus.

Rwy’n gwybod y bydd holl Aelodau’r Cynulliad yn ymuno â mi wrth ddymuno pob llwyddiant i’r sefydliad newydd, cyffrous hwn yng Nghymru.