Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2014-15.

Mae cynigion y Gyllideb Ddrafft, dogfen ysgrifenedig y Gyllideb Ddrafft a’r tablau manwl sy’n cyd-fynd â’r gyllideb ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru.  

Wrth gyflwyno Cyllideb Ddrafft 2014-15, mae cynigion Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar warchod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ysgolion, ar hybu twf economaidd a chreu swyddi, ac ar drechu tlodi ac amddiffyn pobl agored i niwed.