Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Efallai yr hoffai'r aelodau gael gwybod y byddaf yn mynd ati heddiw i gyhoeddi ymateb i adroddiad Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU.

Swyddogaeth Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU (y Comisiwn) yw monitro'r cynnydd y mae Llywodraeth y DU ac eraill yn ei wneud o ran gwella symudedd cymdeithasol a lleihau tlodi yn y Deyrnas Unedig.

Y Gwir Anrhydeddus Alan Milburn sy'n arwain y Comisiwn, ac mae naw Comisiynydd yn aelodau ohono, gan gynnwys aelod o Gymru ac o'r Alban. Catriona Williams, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru, yw'r Aelod dros Gymru.

Mae'r Comisiwn yn bwriadu cyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf ar 22 Hydref 2013 neu cyn hynny. Gwnaeth y Comisiwn gais i Lywodraeth Cymru gyflwyno gwybodaeth er mwyn llywio cynnwys ei adroddiad.  

Rydym wedi cyflwyno tystiolaeth i'r Comisiwn, yn dangos sut yr ydym yn mynd i'r afael â'r materion hyn yng Nghymru. Rydym yn grediniol y dylai plant o bob cefndir gael cyfleoedd pendant i ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial. Rydym yn cydnabod bod plant o gefndiroedd difreintiedig yn llawer llai tebygol o gyflawni eu potensial yn llawn heb ymyriad a chefnogaeth effeithiol.

Yn ein hymateb i bob un o gwestiynau'r Comisiwn, rydym yn cyflwyno sylwadau cryno. Rydym yn nodi’r cynnydd a wnaed yn unol â'r dangosyddion allweddol yn ein Strategaeth Tlodi Plant. Rydym hefyd yn cynnwys dolenni at amryfal gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn cynnwys:

  • Ein hymrwymiad i wella sgiliau pobl ifanc sy'n dod o aelwydydd incwm isel; 
  • Ein hymrwymiad i leihau nifer y cartrefi lle nad oes neb yn gweithio;  
  • Ein hymrwymiad i wella cyrhaeddiad addysgol pobl o deuluoedd incwm isel; 
  • Ein hymrwymiad i sicrhau bod pobl yn cael cyfleoedd teg a chyfartal i fanteisio ar wasanaethau ni waeth lle maent yn byw.


Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati yn yr hydref i gyhoeddi adroddiad ar hynt y gwaith a wnaed hyd yma i wireddu'r amcanion yn ei Strategaeth Tlodi Plant. Bydd hynny'n bodloni gofynion Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad wedi ailymgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.