Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Pecynnu safonol ar gyfer cynnyrch tybaco

Erbyn hyn, rwyf wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ym mhob rhan o'r DU ar becynnu safonol, ochr yn ochr â'n dull ni o weithredu deddfwriaeth ym maes polisi tybaco yng Nghymru yn gyffredinol.

Credaf y gallai cyflwyno pecynnu safonol fod yn bwysig i iechyd y cyhoedd o ran ein hymdrechion i leihau niwed clefydau sy'n gysylltiedig â thybaco. Dangoswyd cefnogaeth i becynnu safonol gan yr ymatebion i'r ymgynghoriad diweddar, ac rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ymgymryd â gwaith pellach ar y mater hwn.

Ymddengys mai'r dull mwyaf priodol o weithredu fyddai cael deddfwriaeth ar gyfer y DU gyfan. Felly, rwyf wedi ysgrifennu at y Gwir Anrhydeddus Jeremy Hunt AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, yn ei annog i wneud penderfyniad i gefnogi cyflwyno pecynnu safonol cyn gynted ag y bo modd.


Yr Is-Bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012

Cafodd Rheoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012, a fyddai'n diwygio Rheoliadau 2007 er mwyn cynnig eithriadau i berfformwyr dan amgylchiadau penodol, eu gosod ar 18 Gorffennaf. Cyn iddynt gael eu trafod, cyhoeddwyd y byddai'r Pwyllgor Menter a Busnes a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn casglu tystiolaeth gan y rhai dan sylw ar y mater hwn, er mwyn cynhyrchu adroddiad terfynol ar eu casgliadau.

Mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a minnau wedi adolygu'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r is-bwyllgorau hyd yma, ac wedi dod i'r penderfyniad na fydd y Llywodraeth yn parhau â'r cynigion gwreiddiol ar hyn o bryd.  Felly, ar sail hynny, rydym wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y pwyllgorau hynny.

Hoffem ddiolch i bob un o'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y trafodaethau hyn am y dystiolaeth werthfawr a gafodd ei chasglu a'i hintegreiddio fel rhan o'ch gwaith.