Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Rwy’n falch o allu adrodd ar gyfarfod diweddar Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, a gynhaliwyd ar 12 Mawrth yng Nghaerdydd, a’i gadeirio gan Peter Davies, Comisiynydd Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Roeddwn i’n bresennol yng nghyfarfod y Comisiwn a chefais y cyfle i roi’r diweddaraf i’r Comisiwn ar nifer o faterion, gan gynnwys ein cynigion i’r corff unigol reoli adnoddau naturiol Cymru.  Bydd y corff unigol newydd yn dwyn ynghyd swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.  Bydd gan y corff newydd swyddogaeth allweddol yn amddiffyn ein hadnoddau naturiol a chydweithio gyda busnesau yng Nghymru. Bydd hefyd yn darparu cyngor amgylcheddol ac yn cyfrannu at ein prosesau cynllunio ac at ddatblygu deddfwriaeth newydd. Bydd yn ein helpu ni i gynllunio trefniadau rheoleiddio newydd sy’n symleiddio prosesau rheoleiddio ac yn hybu buddsoddiad, gan gynnal amgylchedd Cymru ar yr un pryd.

Yn ychwanegol, pwysleisiais ddatganiad y Prif Weinidog ar ynni i Gymru ar 15 Mawrth, gan ddatgan amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni yng Nghymru, y camau yr ydym yn eu cymryd i alluogi hyn i ddigwydd, a  sicrhau bod y diwydiant ynni a rhanddeiliaid yn eglur ar ddyfodol ynni yng Nghymru.  Mae’r datganiad wedi cael ei ddatblygu gan gymryd i ystyriaeth ein hymrwymiad i economi cynaliadwy, carbon isel.

Rhoddais gadarnhad bod yr Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd (CCRA) wedi cael ei gyhoeddi fis Ionawr ac fy mod wedi rhoi datganiad i’r Cyfarfod Llawn ar y mater hwn. Mae’r CCRA yn cynnwys adroddiad penodol ar gyfer Cymru sy’n cyflwyno asesiad pellgyrhaeddol o’r risgiau posibl sy’n codi o newid hinsawdd ar gyfer yr wyth deg mlynedd nesaf

Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth yn y CCRA i gynyddu gwydnwch Cymru yn wyneb y newid yn yr hinsawdd drwy gynllunio ymaddasu sectorol.  Ar y cyd gyda’n partneriaid CCRA, rydym yn gweithio ar ddadansoddiad economaidd fydd yn amcangyfrif “prisio tag” o addasu’n gyffredinol ac yn amlinellu dewisiadau sy’n rhaid i ni eu haddasu ar gyfer y risgiau mwyaf dybryd.

Ar nodyn tebyg rhoddais gadarnhad hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfennau canllaw i gefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt baratoi eu  Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd. Cynhaliwyd dau weithdy hefyd i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddeall anghenion eu strategaethau lleol.

Mae gwaith arwyddocaol hefyd wedi digwydd mewn perthynas â diogelwch cronfeydd dŵr yng Nghymru.  Rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ein cynigion i ddechrau’r ddarpariaeth yn atodlen 4 o’r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr, sy’n cynnwys nifer o ddarpariaethau sy’n diwygio  Deddf Cronfeydd Dŵr 1975.

Mae cyd-weithgor llywodraeth a diwydiant wedi cyhoeddi adroddiad yn nodi atebion i wella diogelwch llifogydd cyhoeddus mewn meysydd carafannau a gwersylla. Rydym nawr yn ystyried yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn.

Fe roddais wybod i aelodau ein bod wedi cynhyrchu DVD o’r enw “Better Choices-Better Places” er mwyn annog Byrddau Gwasanaethau Lleol (BGLl) i weithredu ar leihau carbon a mesurau gwydnwch. Mae’r DVD yn cynnwys BGLlau Ceredigion, Gwynedd a Phowys, sydd oll yn gweithio tuag at leihau eu holion traed carbon, a BGLl Sir y Fflint sy’n arwain ar wella ymaddasu a gwytnwch ymysg y cyrff sy’n bartneriaid.  Yr Ymddiriedolaeth Garbon oedd ein partner wrth ddatblygu'r ffilmiau astudiaeth achos ar leihau allyriadau.

Hefyd rhoddais y diweddaraf i’r Comisiwn ar ddatblygiadau yn y rhaglen Arbed. Rydym nawr wedi gallu ymrwymo £6.6 miliwn ychwanegol fel estyniad i Gyfnod 1 Arbed. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys y £3 miliwn ychwanegol danlinellwyd fis Rhagfyr y llynedd a ddaeth o’r £38.9 miliwn o gyllid o ganlyniad i rewi treth y cyngor yn Llundain.  

Yn ychwanegol at y £6.6 miliwn hwn, rydym wedi ail-fuddsoddi tua £3 miliwn a ryddhawyd o’r ad-daliad o’r cyllid a ddarparwyd ar gyfer prosiectau paneli solar ffotofoltaig.  Rydym yn disgwyl i’r cyllid ychwanegol hwn ar gyfer Cyfnod 1 Arbed gynyddu’r cyfanswm o dai sydd wedi eu gwella o 6,000 i 7,500.

Hefyd, rhoddais gadarnhad bod Nest yn ei ddeg mis cyntaf wedi cytuno ar becynnau gwella ynni ar gyfer dros 3,500 o dai oedd i’w cwblhau erbyn diwedd Mawrth 2012. Mae disgwyl i’r pecynnau hyn sicrhau buddion o £470 y flwyddyn ar gyfartaledd i bob tŷ yn seiliedig ar waith modelu cyfredol. Yn ychwanegol, mae dros 11,500 o gwsmeriaid wedi derbyn ystod o gyngor gan gynnwys defnyddio ynni'n effeithlon, rheolaeth ariannol a dyled.

Roedd yr aelodau’n falch o glywed bod rhwydwaith Siarter Datblygu Cynaliadwy Cymru yn mynd o nerth i nerth, gyda 123 o sefydliadau wedi ymuno ar hyn o bryd. Ymysg y cwmnïau diweddaraf i ymuno mae BT a Tata Steel, gan ddangos ymrwymiad gan fusnesau Cymreig i fabwysiadu arferion mwy cynaliadwy.

Yn olaf, rhoddais y diweddaraf ar ein hymchwil ar newid hinsawdd ac ymddygiadau cynaliadwy.

Rydym wedi datblygu ymchwil i fodel segmentu cynulleidfaoedd sydd â chwe grŵp cynulleidfa sy’n wahanol o ran eu gwerthoedd ac agweddau tuag at newid hinsawdd ac ymddygiadau cynaliadwy. Profwyd y model hwn mewn digwyddiad Rhwydwaith Ymarferwyr Dyfodol Cynaliadwy fis Rhagfyr. Rydym nawr yn cwblhau ac yn profi’r model gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd yn ystod grwpiau ffocws ar gyfer y prosiect naratif ac yn paratoi gwaith ar gyfer ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus yn y dyfodol ar newid hinsawdd.

Trafododd y Comisiwn ddatblygiad ei bapur sefyllfa Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth. Y papur hwn yw’r datganiad sefyllfa cyntaf a gynhyrchwyd gan y Comisiwn, gan roi asesiad ac argymhellion ar drafnidiaeth a newid hinsawdd i lywio gwaith y Comisiwn a Llywodraeth Cymru, a chynghori rhanddeiliaid a’r cyhoedd ar faterion allweddol. Wrth ddatblygu’r papur, comisiynodd Is-Grŵp Trafnidiaeth y Comisiwn ymchwil, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn adeiladu ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ac adlewyrchu’r arbenigedd a phrofiadau’r rheini sydd ynghlwm a gwneud  penderfyniadau a darparu ym maes newid hinsawdd a thrafnidiaeth yng Nghymru.

Trafododd yr aelodau hefyd waith y grŵp i’r dyfodol, a chymryd rhan mewn digwyddiad Rhestr Werdd Cymru.

Mae Rhestr Werdd Cymru yn dwyn unigolion ynghyd o bob sector a phob math o gefndir sy’n arwain mewn ymdrin â heriau cynaliadwyedd y mae dinasoedd a chymunedau yn eu hwynebu, gan greu newid.

Seremoni wobrwyo oedd y digwyddiad i ddewis prosiectau ledled Cymru sy’n cefnogi unigolion a grwpiau i ddarganfod dulliau newydd ac arloesol o ymgysylltu â phobl i sicrhau newid cynaliadwy go iawn yn eu bywydau, ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.

Cafodd y Comisiwn hefyd gyflwyniadau ar yr Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd a chyflwyniad ar yr adolygiad cynllunio gan John Davies sy’n cadeirio’r grŵp Cynghorol Annibynnol sydd â’r dasg o wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd fis Mehefin 2012.