Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 

Ar 7 Tachwedd fe gyhoeddais fy mod yn bwriadu comisiynu adolygiad o Wasanaethau Ambiwlans Cymru ac ymrwymais i gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig ar drefniadau’r adolygiad cyn diwedd mis Tachwedd.

Erbyn hyn rwy’n gallu cyhoeddi Cylch Gorchwyl yr adolygiad ac rwy’n amgáu copi er hwylustod.

Arweinydd yr adolygiad fydd Siobhan McClelland, Athro Polisi Iechyd ac Economeg ym Mhrifysgol Morgannwg, sy’n meddu ar y profiad a’r ddealltwriaeth briodol o GIG Cymru.

Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r adolygiad a’r gwelliannau i’r gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol ledled Cymru.