Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod Trefniadaeth Ysgolion ('y Cod'). Yn unol â'r gofynion ymgynghori a nodir yn y Bil, mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati heddiw i lansio ymgynghoriad ynghylch drafft o'r Cod. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n para am gyfnod o 12 wythnos.  
Mae'r drafft o'r Cod yn gosod gofynion y bydd angen i gyrff perthnasol (Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu, ac eraill sy'n cyflwyno cynigion) weithredu yn unol â hwy. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ymarferol y mae'n rhaid i gyrff perthnasol dalu sylw iddynt, ac mae'n nodi'r cyd-destun polisi, yr egwyddorion cyffredinol a'r ffactorau sydd i'w cymryd i ystyriaeth gan y rhai sy'n cyflwyno cynigion i ad-drefnu darpariaeth ysgolion a chan y rhai sy'n gyfrifol am benderfynu ar gynigion. 
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn i bobl leisio barn am y drafft o'r Cod ac mae'r cyfnod ymgynghori'n dod i ben ar 16 Ionawr 2013. Ymhlith y cyrff a'r unigolion yr ydym yn ymgynghori â hwy y mae awdurdodau lleol ac awdurdodau esgobaethol, cyrff llywodraethu ysgolion, Estyn, plant a phobl ifanc, ynghyd ag eraill sydd â diddordeb yn hyn o beth. Mae'r dogfennau ymgynghori i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
A bwrw bod y darpariaethau perthnasol ym Mil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) yn cael eu pasio, ac ar ôl i ganlyniadau'r ymgynghoriad hwn gael eu hystyried, rhagwelir y bydd drafft terfynol o'r Cod yn cael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod gwanwyn 2013. Disgwylir i'r darpariaethau sydd yn y Bil, a'r gofynion gorfodol  sydd yn y Cod, ddod i rym yn ystod hydref 2013, ac y byddant yn gymwys i unrhyw gynnig yn ymwneud â threfniadaeth ysgolion a gyhoeddir ar ôl y dyddiad hwnnw.