Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy Mhapur Gwyn ar gyfer Tai cyflwynais raglen ddeddfwriaethol ac anneddfwriaethol feiddgar ynghyd ag amryw o gynigion perthnasol. Bydd yn arwain at fwy o gartrefi, at welliannau i gartrefi presennol, at dai gwell, ac at well gwasanaethau sy'n gysylltiedig â thai.
I ategu hyn, yn gynharach eleni gosodais darged uchelgeisiol i greu 7,500 yn rhagor o dai fforddiadwy yng Nghymru yn ystod tymor ein Llywodraeth.  
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod yr awdurdodau lleol wedi datgan bod 2,489 yn rhagor o dai fforddiadwy wedi cael eu creu ledled Cymru yn ystod 2011-12. Dyma ddechrau arbennig o dda tuag at gyrraedd ein targed, ac mae'n dangos yr ymrwymiad yr ydym wedi'i wneud i gyrraedd y targedau hyn yn ogystal ag ymrwymiad y sector tai i'w cyflenwi.
Cafodd y mwyafrif (62 y cant) o'r unedau tai fforddiadwy ychwanegol a gafodd eu creu yn ystod 2011-12 eu hariannu gyda grantiau cyfalaf, a’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, o hyd, sy’n gwneud y cyfraniad mwyaf i dai fforddiadwy ychwanegol yng Nghymru. Mae'r tai newydd hyn yn arwydd clir o'n hymrwymiad parhaus i dai ac o'n bwriad i arloesi a chydweithio er mwyn darparu tai sy'n fforddiadwy, sydd o safon dda ac sy'n diwallu'r anghenion gwahanol sydd gan bobl.