Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio proses gystadlu agored er mwyn creu Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru. Bwriad y broses yw denu ceisiadau gan amrywiaeth eang o gyrff sydd â diddordeb, gan gynnwys melinau trafod, sefydliadau ymchwil a sefydliadau Addysg Uwch, fel y gall y Llywodraeth ystyried amryw o fodelau posibl. 

Gwahoddir darpar ymgeiswyr i gynhadledd cyn-tendro ym mis Medi, a gwahoddir ceisiadau pendant erbyn mis Tachwedd. Y Prif Weinidog fydd yn dethol, ar sail cyngor panel o arbenigwyr dan gadeiryddiaeth unigolyn annibynnol profiadol sy’n aelod o Fwrdd melin drafod neu sefydliad ymchwil blaenllaw, neu’n meddu ar brofiad cyfatebol.

Caiff y Sefydliad ei greu am gyfnod o dair blynedd i ddechrau, yn amodol ar broses o werthuso ac adolygu. Bydd oddeutu £250-£450,000 y flwyddyn yn cael ei neilltuo ar gyfer y Sefydliad.   

Mae’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus yn un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. Hybu gwell canlyniadau i bobl Cymru fydd ei ddiben, drwy gryfhau’r cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a ffynonellau annibynnol o gyngor arbenigol ym maes polisi. Bydd hynny, yn ei dro, yn gwneud y broses o lunio a chyflwyno polisïau yng Nghymru yn fwy effeithiol.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.