Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf eisoes wedi mynegi yn glir fy ymrwymiad i dryloywder ac atebolrwydd wrth reoli ffrydiau cyllid Ewropeaidd. Yn awr, er mwyn ei gwneud yn haws i randdeiliaid ac eraill ddeall effaith y Cronfeydd Strwythurol, rwyf yn cyhoeddi gwybodaeth a data ychwanegol am ddangosyddion allbwn y prosiectau UE a gefnogir gan raglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol 2007-2013.

Bydd y data hyn yn cydategu’r wybodaeth sydd eisoes wedi’i chyhoeddi yng nghronfa ddata’r wefan (www.wefo.cymru.gov.uk)  am brosiectau UE (e.e. manylion prif noddwyr, faint o gyllid UE sydd wedi’i ddyfarnu, dyddiad dechrau a diwedd prosiectau, amcanion prosiectau, noddwyr ar y cyd, etc). Gall unrhyw un chwilio trwy’r gronfa ddata hon, a gafodd ei lansio yn gynharach eleni.

Mae’r gwelliannau i’r gronfa ddata yn mynd ymhellach na’r gofyniad yn rheoliadau’r Comisiwn Ewropeaidd i gyhoeddi gwybodaeth sylfaenol (Erthygl 7 o Reoliad y CE 1083/2006); rhoddir rhagor o bwyslais ar lwyddiant y prosiectau ac ar atebolrwydd drwy gyhoeddi rhagolygon allbwn, e.e. nifer y swyddi a mentrau a grëir, nifer y cyfranogwyr a gynorthwyir i ennill cymwysterau neu gael hyd i swydd etc), ac yna nodir cyflawniadau gwirioneddol pob prosiect unigol unwaith y bydd wedi’i gwblhau.

Mae’r gwelliannau hyn yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni a sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio cyllid cyhoeddus/arian yr UE, a byddant yn rhoi sicrwydd bod prosiectau’r UE yn dod â manteision go iawn i bobl, busnesau a chymunedau. Maent hefyd yn dangos yr arferion gorau o ran cyhoeddi gwybodaeth dryloyw am fuddsoddiadau a chyflawniadau’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.

Yn ogystal â rhestru’r prosiectau a gymeradwywyd, mae cronfa ddata’r wefan yn nodi’r cynigion am brosiectau ym mhob cam o’r broses ymgeisio – o’r cais cyntaf ar gyfer prosiect arfaethedig i asesiad manwl o’r prosiect, yn ogystal â rhestr o’r prosiectau ‘wrth gefn’ a allai dderbyn cyllid os daw arian ar gael yn ddiweddarach yng nghyfnod y rhaglenni.

Gellir chwilio drwy’r holl wybodaeth am brosiectau yn ôl y rhaglen, y gronfa, yr ardal ranbarthol, y sector, enw’r sefydliad neu enw’r prosiect.

Bydd cyflawniadau’r rhaglenni yn parhau i gael eu cyhoeddi mewn adroddiad i Bwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan 2007-2013 ac ar wefan WEFO yn barhaus, yn unol â’r drefn bresennol.

Mae WEFO wedi lansio cyfrif Twitter newydd  (Twitter.com/wefowales neu Twitter.com/wefocymru), i rhoi negeseuon rheolaidd am y rhaglenni Ewropeaidd yng Nghymru, yn awr ac yn y dyfodol. 

O ystyried hyn oll ynghyd, ac yn dilyn ein dadl ddiweddar ynghylch y materion hyn, rwy’n gobeithio y bydd yr aelodau’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i fod yn agored, atebol a thryloyw.

Rwy’n credu y bydd hyn yn helpu i ddangos ein bod yn benderfynol o sicrhau bod ffrydiau cyllid Ewrop yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.