Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Hysbyswyd yr aelodau yn fy natganiad dyddiedig 27 Mawrth 2012 ynghylch Strategaeth Pysgodfeydd Cymru fod y trafodaethau yn mynd rhagddynt yn dda i ddiwygio Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Yn ystod oriau mân 13 Mehefin cytunodd Gweinidogion Cyngor Pysgodfeydd yr UE ar gynigion allweddol ar gyfer diwygio Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.  
Bydd y cytundeb hwn yn sail i’r drafodaeth bellach a gaiff ei chynnal yn Senedd Ewrop. Mae’n gam pwysig ymlaen yn y broses o gyflwyno Polisi Pysgodfeydd Cyffredin diwygiedig a fydd yn cynnwys mesurau arloesol i sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy o fewn yr UE. 
Rwyf wedi mynd ati’n ddyfal dros y flwyddyn ddiwethaf i geisio sicrhau bod ein polisïau ynghylch pysgodfeydd yn fwy allblyg a’u bod yn adlewyrchu ein rôl allweddol o fewn yr UE ehangach. Y rôl hon yw rheoli ein stociau pysgod mewn modd mwy cynaliadwy a datganoli’r broses o wneud penderfyniadau o’r Comisiwn Ewropeaidd er mwyn rhoi llais i bysgotwyr unigol ynghylch cynaliadwyedd eu pysgodfeydd.  
Roeddwn yn bresennol yn y trafodaethau yn Lwcsembwrg a mynegais y safbwyntiau hyn yn ogystal â safbwyntiau pysgotwyr Cymru. Rwyf wedi canolbwyntio’n benodol ar geisio sicrhau bod y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin diwygiedig yn adlewyrchu gwahanol anghenion ein fflyd pysgota. Nid oedd y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin blaenorol yn cydnabod y ffaith bod gan Gymru fflyd arfordirol gymharol fach. 
Rwy’n falch bod y cynigion y cytunwyd arnynt yn y Cyngor Pysgodfeydd yn gosod y fframwaith Aelod-Wladwriaethau allu rheoli eu pysgodfeydd ar sail ecosystem. Rwy’n falch hefyd i’r cytundeb wrthod cynigion y Comisiwn ar gyfer gorfodi trefn masnachu cwotâu fel ffordd o brynu gorgapasati llongau pysgota mwy. Yn hytrach, caiff y penderfyniad i gyflwyno consesiynau pysgota trosglwyddadwy ei adael yn nwylo’r Aelod-Wladwriaethau.  Fy mhryder i yw y gallai trefn fasnachu o’r fath arwain at weld dyrnaid bach o sefydliadau’n prynu ac yn dod yn berchen ar y capasiti pysgota, sy’n dod â budd i’r cyhoedd, a hwythau heb gysylltiad â’n cymunedau arfordirol. 
Rwy’n croesawu egwyddor sylfaenol y diwygio i ofalu bod pysgodfeydd yn sicrhau eu Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf o 2015 ac erbyn 2020 fan hwyraf – fel cam at reoli pysgodfeydd ar sail ecosystem.  Erfyn pwysig ar gyfer mynd â’r maen i’r wal yn hyn o beth fydd defnyddio cynlluniau aml-flynyddol i bennu a chyflwyno mesurau cadwraeth ar gyfer pysgodfeydd. 
Mae’r camau mawr a gymerwyd yn y Cyngor hwn yn cydnabod y gwahaniaethau rhanbarthol rhwng pysgodfeydd.  Mae’r cynigion yn creu rhai cyfryngau i Aelod-Wladwriaethau allu gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu cynlluniau rheoli i sicrhau cynaliadwyedd ac atebion rheoli penodedig ac i gynnal arferion pysgota lleol.  Rwy’n croesawu’r trywydd gwleidyddol hwn o du’r Aelod-Wladwriaethau a’r Comisiwn i geisio datblygu hyn i’r graddau pellaf sy’n bosibl o dan gyfyngiadau’r Cytundeb. 
Mae llawer o drafod wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf ymhlith y cyhoedd ynghylch y pysgod marw sy’n cael eu taflu yn ôl i’r môr (y discards fel y’u gelwir).  Adlewyrchwyd hyn yn y trafodaethau anodd a gafwyd am y pwnc hwn yn y Cyngor.  Rwy’n croesawu’r cytundeb a gafwyd trwy fwyafrif a fydd yn gam cyntaf at ddatrys y broblem taflu pysgod marw.  Bydd hyn yn dechrau yn 2014 ar gyfer stociau pelagig ac rwy’n credu y gallwn gefnogi awgrym y Llywyddiaeth i gyflwyno’r ymrwymiadau ynghylch glanio stociau pysgod gwyn cymysg fesul cam dros gyfnod o dair blynedd.  Yr argymhelliad cychwynnol yw y dylai hyn ddechrau mewn cysylltiad â rhywogaethau allweddol mewn pysgodfa o 2015.  Mae’r amserlen yn realistig ac yn adlewyrchu’r anawsterau ymarferol sydd ynghlwm â hi.  Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod, er mwyn i hyn allu digwydd, bod llawer o waith eto i’w wneud i wella’r modd y mae data glanio’n cael eu casglu a’u monitro a helpu’r diwydiant i wynebu’r her.  
Mae’r cytundeb a wnaed yr wythnos hon yn hwb mawr i’m hawydd i ddelio ag agwedd “yr un ateb i bawb” y mae’r CFP yn ei harddel trwy fynnu mwy o ranbartholi a bod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar lefel yr Aelod-Wladwriaeth.  A thrwy daclo’r arfer gwastraffus o daflu pysgod marw a gofalu bod pysgodfeydd yn sicrhau eu cynnyrch cynaliadwy uchaf, rydym yn symud gam yn nês at reoli pysgodfeydd ar sail ecosystem. 
Hoffwn gofnodi fy niolch i swyddogion Llywodraeth Cymru a Gweinidog Pysgodfeydd y DU, Richard Benyon, am eu help a’u cefnogaeth wrth ddod â’r buddiannau hyn i ddiwydiant pysgota Cymru.