Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy natganiad llafar ar 21 Chwefror 2012, cyhoeddais y byddai adolygiad yn cael ei gynnal er mwyn ystyried y cyfleoedd i sicrhau bod ein polisi caffael cyhoeddus yn cael mwy fyth o effaith yng Nghymru.

Mae’r cynnydd yr ydym ni wedi’i wneud hyd yma drwy ein polisi caffael cyhoeddus yn fy nghalonogi. Mae’n bryd yn awr i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rwyf wedi cytuno ar Gylch Gorchwyl yr adolygiad ac fe’i nodir isod:


Adolygiad: Sicrhau bod Polisi Caffael Llywodraeth Cymru yn cael yr Effaith Fwyaf Posibl

Cylch Gorchwyl

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni mae yna ddisgwyliadau uchel o ran yr hyn y gall caffael ei gynnig i Gymru. Gwerth Cymru yw’r is-adran o fewn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cael mwy o effaith o’i wariant blynyddol o £4.3bn a gwella’r arferion a’r canlyniadau terfynol. Nid oes ganddo fandad ffurfiol, ac mae’n gweithredu gan fwyaf drwy ymgysylltu â sefydliadau’r sector cyhoeddus o fewn llywodraeth leol, y GIG, byd addysg a’r gwasanaethau brys, ynghyd â busnesau. Mae hefyd yn gwneud rhywfaint o waith sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau a chontractio uniongyrchol.  

Dyma’r amser iawn i ystyried effeithiolrwydd Caffael y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn gyffredinol, a sut y gall caffael gael yr effaith fwyaf posibl. Bydd yr Adolygiad yn ystyried a yw model gweithredu Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r adnoddau, yn briodol; a yw’r adnodd canolog yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol; a yw’r adnodd sector cyhoeddus ehangach yn ddigonol; a yw polisïau eraill Llywodraeth Cymru yn cydweddu’n briodol; ac a yw caffael y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn sicrhau gwerth am arian ac yn cael yr effaith fwyaf posibl ar dwf economaidd.  

O ganlyniad, bydd yr Adolygiad yn ystyried: 

  • Y cynlluniau cyfredol i roi’r agweddau caffael ar y  Rhaglen Lywodraethu ar waith
  • Y patrwm caffael a’r modelau gweithredu
  • Dulliau mesur
  • Data
  • Dulliau cyfathrebu
  • Cyfyngiadau ar weithredu 
  • Cyd-ddibyniaeth (o fewn portffolios Llywodraeth Cymru ac ar draws y sector cyhoeddus ehangach)
  • Pa mor hawdd y gellir cyflawni’r amcanion

Bydd yn cymharu ac yn meincnodi’r model darparu, yr adnoddau a’r canlyniadau yn erbyn Llywodraeth yr Alban ac unrhyw ffynonellau data tebyg eraill.

Bydd yn ystyried y gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddylanwadu ar strategaeth y dyfodol gan gynnwys:

  • Achos busnes amlinellol y gwasanaeth caffael cenedlaethol (caffael cydweithredol);
  • Prosiect Dyfodol cyfnewidcymru (e-gaffael);
  • Y prosiect Rhagoriaeth ym maes Caffael (caffael mewnol o fewn Llywodraeth Cymru);
  • Y newidiadau posibl yn sgil cyfarwyddebau newydd yr UE yn 2013;
  • Ymchwil i ddehongli a chymhwyso rheolau caffael yr UE / DU;
  • Ymrwymiadau polisi cyfredol (gan gynnwys cynllun gweithredu gwrthdlodi, adfywio economaidd, adroddiad microfusnesau, gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ac adolygiad Simpson);
  • Yr argymhellion ar gaffael y sector cyhoeddus yn yr Adroddiad Gorchwyl a Gorffen ar Ficrofusnesau a lansiwyd ar 18 Ionawr 
  • adborth y Paneli Sector (ee Adeiladu).

Rhoddir adroddiad ar y canfyddiadau ynghyd ag unrhyw argymhellion i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ.   

Rwyf wedi penodi John McClelland, CBE, i gynnal yr adolygiad. Mae gan John brofiad helaeth o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae wedi dal swyddi uchel yn y diwydiant electroneg o fewn IBM, DEC, Philips a 3Com. Ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Bellach ac Uwch yr Alban. Fe gwblhaodd adolygiad o gaffael cyhoeddus yn yr Alban (Adroddiad McClelland) yn 2006 a’r adolygiad o seilwaith TGCh sector cyhoeddus yr Alban yn 2011.

Bydd yr adolygiad yn dechrau ym mis Mawrth a bydd wedi dod i ben erbyn Toriad yr Haf ym mis Gorffennaf. Byddaf yn gwneud datganiad pellach wedi hynny.