Neidio i'r prif gynnwy

Julian DavenneDechreuodd Julian wirfoddoli ym maes gwaith ieuenctid cymunedol yn 1995, ac ers hynny mae naill ai’n gyfrifol am sefydlu neu wedi gweithio ar ran bron i bob clwb i blant a phobl ifanc anabl yn Nhorfaen.

Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Rheolwr Gwasanaeth Chwarae gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.  Mae’n darparu gwasanaethau sy’n medru newid bywydau plant a phobl ifanc drwy gynlluniau chwarae, celf a chrefft a gweithgareddau corfforol, ac mae hefyd yn annog pobl eraill i ddarparu gwasanaethau o’r fath. O ganlyniad, mae’n gwella bywydau miloedd o blant a phobl ifanc bob blwyddyn, yn ogystal â bywydau eu rhieni, gofalwyr, teuluoedd a’r cymunedau ehangach.

Mae Julian wedi bod yn wirfoddolwr cymunedol ers nifer o flynyddoedd. Hefyd mae’n annog ac yn helpu pobl eraill i wirfoddoli. Mae Julian yn ddyslecsig, ac mae’n darparu Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Dyslecsia ar gyfer staff Cyngor Torfaen.