Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel fi byddwch siŵr o fod wedi cael eich cythryblu’n arw ar ôl gweld rhaglen ddiweddar Panorama y BBC a ddangosodd oedolion agored i niwed yn cael eu cam-drin yn ddifrifol yng Nghartref Gofal Winterbourne View ger Bryste, sy’n eiddo i Castlebeck. Ni ddylai pobl agored i niwed fyth gorfod dioddef cael eu trin fel hyn.

Mae Aelodau’r Cynulliad wedi ceisio sicrwydd am y gofal a ddarperir i bobl o Gymru sydd yng ngofal Castlebeck, neu un o’i is-gwmnïau.

Ar hyn o bryd, nid oes neb o Gymru wedi’i leoli yng Nghartref Gofal Winterbourne View. Serch hynny, mae nifer fach o bobl wedi’u lleoli mewn cyfleusterau eraill o eiddo Castlebeck yn Lloegr ac rwyf wedi cael sicrwydd gan yr awdurdod lleoli bod ymweliadau monitro’n cael eu cynnal ac nad oes unrhyw bryderon am eu lles ar hyn o bryd.   

Er nad yw Castlebeck yn darparu unrhyw wasanaethau yng Nghymru, mae is-gwmni o’i eiddo, Mental Health Care UK (MHC), yn rhedeg 3 ysbyty annibynnol ac 13 o gartrefi gofal cofrestredig yn y Gogledd, yn darparu gofal i bobl ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl. Mae’r ysbytai wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac mae’r cartrefi gofal wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). 

Gofynnwyd i’r holl Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol a Gwasanaethau Iechyd Arbenigol yng Nghymru nodi’r bobl sydd wedi’u lleoli mewn ysbytai a chartrefi sy’n cael eu rhedeg gan MHC. Fe’u holwyd hefyd am y camau y maent wedi’u cymryd, ac y bwriedir eu cymryd, i sicrhau bod y bobl y maent wedi’u lleoli wedi derbyn gofal priodol, ac y byddant yn parhau i dderbyn y gofal hwnnw. Maent i gyd wedi rhoi sicrwydd bod eu trefniadau’n briodol o ran contractio gofal i oedolion agored i niwed; cynnal safonau gofal; adolygu anghenion gofal yn rheolaidd; a gweithredu trefniadau monitro i sicrhau bod unrhyw broblemau ynghylch ansawdd y gofal yn dod i’r golwg a’u bod yn ymateb yn briodol i unrhyw bryderon.     

Rwyf wedi cyfarfod ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) i drafod eu cyfrifoldebau statudol a’u hymateb i raglen Panorama. Rwy’n ffyddiog bod camau pendant yn cael eu cymryd gan AGGCC ac AGIC, yn y tymor byr ac yn y tymor hir, i sicrhau bod y rheini sy’n agored i niwed, y mae arnynt angen gofal iechyd a chymdeithasol, yn cael eu diogelu’n briodol ac y rhoddir sylw llawn i’w hanghenion gofal a thriniaeth. 

Er bod y rhaglen Panorama wedi canolbwyntio’n benodol ar gartref i bobl sydd ag anableddau dysgu, anghenion cymhleth neu ymddygiad heriol, mae yna wersi i’w dysgu ynghylch diogelu a gofalu am bawb sy’n agored i niwed yng Nghymru. Gallaf ddatgan y byddwn ni’n defnyddio pwerau deddfu newydd Llywodraeth Cymru i gyflwyno Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol sydd wedi’i seilio ar adolygiad trylwyr o’r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddio presennol. Bydd yn cynnwys darpariaethau i gryfhau trefniadau diogelu mewn perthynas â phobl agored i niwed yng Nghymru. Rhaid gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na fydd y cam-drin erchyll a ddigwyddodd i’r bobl agored i niwed yng Nghartref Gofal Winterbourne View byth yn digwydd yng Nghymru.