Neidio i'r prif gynnwy

Alun Ffred Jones, Y Gweinidog Dros Dreftadaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Rwyf wedi bod yn defnyddio’r llyfrgell i ysgrifennu CVs. Mae’r staff wedi fy helpu a’m cefnogi ar hyd y ffordd.  Rwyf wedi bod yn ddi-waith am rai blynyddoedd ac fe fanteisiais ar y cyfle i wneud rhai cymwysterau OCN (sef  Rhwydwaith y Coleg Agored) trwy gynllun Pyrth o fewn y Lyfrgell. O ganlyniad rwyf wedi cael swydd newydd, mae fy mywyd wedi ei drawsnewid!

Dyma ddyfyniad gan ddefnyddiwr llyfrgelloedd ifanc o Flaenau Gwent sy’n tanlinellu bod llyfrgelloedd mor bwysig ag erioed i’n cymunedau ac yn arbennig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Rwy’n falch iawn heddiw o gael eich hysbysu am bapur Ymgynghorol Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli, sy’n amlinellu strategaeth ddrafft ar gyfer datblygu ein llyfrgelloedd. Mae’r ddogfen hon wedi’i seilio ar ymchwil helaeth.

Bydd rhaglen hynod lwyddiannus Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llyfrgelloedd am Oes, yn dod i ben eleni. Drwy’r rhaglen hon, gwelwyd cynnydd yn y cydweithio rhwng llyfrgelloedd academaidd a chyhoeddus i wella mynediad at eu casgliadau a’u gwasanaethau.

Darparodd Llyfrgelloedd am Oes grantiau i foderneiddio 68 o lyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Cymru mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol wedi sicrhau arian o ffynonellau eraill i adnewyddu llyfrgelloedd mewn trefi fel Caerdydd, Abertawe a Bangor. Yn sgîl y buddsoddiad sylweddol hwn, gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl oedd yn defnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus yn 2008-09 a 2009-10.

Yn y fframwaith drafft Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli, cynigir parhau i ddatblygu strategaeth llyfrgelloedd integredig sy’n cwmpasu llyfrgelloedd Addysg Bellach ac Uwch, y Llyfrgell Genedlaethol, llyfrgelloedd yn y gweithle yn ogystal â llyfrgelloedd cyhoeddus.  Dyma ddull gweithredu sy’n unigryw yn y cyd-destun Prydeinig ac yn anghyffredin mewn gwledydd eraill hefyd.  Mae gweledigaeth graidd y cynigion a amlinellir yn Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli yn un y gall holl lyfrgelloedd Cymru ei chofleidio.

Rydym yn byw mewn cyfnod economaidd anodd, a bu cryn dipyn o ddadlau gwleidyddol a sôn yn y wasg am y posibilrwydd o gau llyfrgelloedd cyhoeddus.  Mae’r setliad llywodraeth leol yng Nghymru wedi golygu bod llawer llai o gynigion ar droed i gau llyfrgelloedd yma nag yn Lloegr. Serch hynny, mae nifer fach o awdurdodau wedi rhoi cynigion gerbron i gau rhai llyfrgelloedd ac mae fy swyddogion yn CyMAL yn monitro’r sefyllfa.

Yn sgîl cyflwyno Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru gan Lywodraeth y Cynulliad yn 2002, mae llawer o awdurdodau lleol wedi gwella’u gwasanaethau a rhoi mwy o ffocws ar berfformiad a’r ddarpariaeth yn eu llyfrgelloedd. Un o brif amcanion y Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus newydd sy’n dod i rym ym mis Ebrill fydd diogelu llyfrgelloedd rhag “toriadau anghymesur mewn adnoddau”.

Un o brif themâu Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli yw datblygu modelau cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau. Yn yr un modd â gwasanaethau cyhoeddus eraill, mae angen edrych ar ffyrdd mwy effeithiol o ddarparu ein gwasanaethau.  Mae gan Gymru nifer o enghreifftiau da o gydweithio i leihau costau ac i wella cysondeb y ddarpariaeth ar draws y wlad.  Mae’r uno rhwng sefydliadau yn y sector Addysg Bellach ac Uwch yn rhoi cyfleoedd i adolygu’r ddarpariaeth llyfrgelloedd yn y sefydliadau hyn.

Er enghraifft, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cymryd yr awenau yn y gwaith o gaffael gwasanaeth papurau newydd ar-lein ar ran llyfrgelloedd Cymru.  Mae hyn wedi esgor ar arbedion ariannol sylweddol ac wedi gwella mynediad, gan gynnwys mynediad o’r cartref i aelodau llyfrgelloedd.

Mae’n bwysig ein bod yn dysgu o’r datblygiadau hyn ac yn edrych am gyfleoedd i wneud y defnydd gorau o’n harian ac i wella’r modd y caiff ein gwasanaethau eu darparu.

Yn ôl yr ymchwil sydd gennym, mae cefnogaeth gref i ddal ati gyda’r rhaglen i foderneiddio llyfrgelloedd cyhoeddus, fel rhan o Lyfrgelloedd yn Ysbrydoli.  Mae’r grantiau moderneiddio hyn wedi arwain at fwy o ymwelwyr i lyfrgelloedd, gan greu lleoliadau deniadol ar gyfer darparu gwasanaethau cymunedol eraill.

Yn ystod fy ymweliad â Llyfrgell y Rhyl yn ddiweddar, cefais weld sut mae Sir Ddinbych yn cydweithio gyda:

  • Coleg Llandrillo i ddarparu cyrsiau i ddatblygu sgiliau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu y bobl leol. Mae’r llyfrgell hefyd yn darparu sesiynau cyflwyno Technoleg Gwybodaeth yn rhad ac am ddim fel rhan o ymgyrch Clic Cyntaf y BBC.
  • Mae’r Sir hefyd yn cydweithio â’r cynllun Cychwyn Cadarn er mwyn annog rhieni i rannu eu cariad at lyfrau gyda’u plant.

Yn Llyfrgell Llynfi, Maesteg, cefais weld sut mae Gwasanaeth Llyfrgell Pen-y-bont yn gweithio gyda’r Ganolfan Waith i helpu pobl i ddychwelyd i fyd gwaith.

Mae’r esiamplau hyn yn tanlinellu cyfraniad llyfrgelloedd i’n blaenoriaethau trawsbynciol ni fel Llywodraeth.

Mae’n amlwg fod gan lyfrgelloedd rôl i’w chwarae mewn gwella safonau llythrennedd yng Nghymru, pwnc sydd wedi cael cryn sylw yn ddiweddar yn y Siambr hon.

Menter allweddol arall a amlinellir yn y fframwaith Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli yw’r gefnogaeth a ddarperir i gynllun Cymru gyfan, dan arweiniad Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd, er mwyn gwella sgiliau bobl i drin gwybodaeth. Heddiw, yn fwy nag erioed, mae pobl yn cael eu boddi mewn tomen o wybodaeth ac mae’n hollbwysig fod gan bawb y sgiliau i ddelio ac elwa o’r chwyldro gwybodaeth ddigidol. Er mwyn cyflawni hyn,  bydd llyfrgelloedd cyhoeddus, ysgolion, Addysg Bellach ac Uwch oll yn cydweithio â’i gilydd i gynorthwyo pobl o bob oed.

Mae angen i ni barhau gyda’r ymgyrch lwyddiannus i wella ymwybyddiaeth pawb o’r dewis eang o adnoddau sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd modern, gan gynnwys mynediad am ddim i gyfrifiaduron a’r We. Cadw a datblygu’r gynulleidfa yw un o brif themâu Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli.

Mae angen i lyfrgelloedd gofleidio’r cyfleoedd a gynigir gan ddatblygiadau newydd megis Twitter, Facebook ac e-lyfrau, wrth i arferion cyfathrebu a darllen pobl newid yn gyson a chyflym.

Yn anad dim, mae ein hymchwil wedi amlygu pwysigrwydd cael staff brwdfrydig ac ymroddedig ar gyfer cynorthwyo defnyddwyr i gael y gorau allan o’r gwasanaeth llyfrgell.  Rydym yn bwriadu parhau i gefnogi datblygiad proffesiynol staff ein llyfrgelloedd wrth i’w gwaith fynd yn fwyfwy cymhleth.

Mae cyfnod anodd yn wynebu ein llyfrgelloedd cyhoeddus, ond mae'n gyfnod anos byth i’r bobl sy’n edrych am waith neu’n ceisio datblygu eu sgiliau. Os ydym am i lyfrgelloedd barhau i fod yn ganolbwynt ein cymunedau, hoffwn erfyn arnoch i ymateb i’r ymgynghoriad hwn, sy’n dod i ben cyn bo hir ar ddiwrnod olaf mis Mawrth.