Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

SO dan Adran 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae’n rhaid i Weinidogion Cymru lunio cynllun sy’n amlinellu sut maent yn bwriadu cynnal a hyrwyddo llywodraeth leol yng Nghymru, wrth arfer eu swyddogaethau. Mae gofyn i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ynghylch sut y cafodd y cynigion yn y cynllun eu gweithredu yn y flwyddyn ariannol flaenorol, a gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rwy’n falch o gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2010-11 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw.

Adroddiad sy’n ymdrin â blwyddyn ariannol 2010-11 yw hwn, felly nid yw’n ceisio ymdrin â datblygiadau diweddar o ran diwygio’r gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y rheini sydd wedi’u cyflwyno ers etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 2011.

Fodd bynnag, mae’n tynnu sylw at nifer o’r meysydd lle mae gwasanaethau cyhoeddus eisoes yn cydweithio’n llwyddiannus, drwy fentrau dan arweiniad y Byrddau Gwasanaethau Lleol, er enghraifft.  

Yr her yn awr yw i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid barhau i gydweithio er mwyn cyflawni mwy ond gyda llai. Mae’r Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd ym mis Medi yn amlinellu’r agenda ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n cydnabod na all Llywodraeth Cymru sicrhau’r gwelliannau ar ei phen ei hun, ond y bydd angen cefnogaeth ei holl bartneriaid arni. Drwy’r Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol, y Cyngor Partneriaeth a Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus, bydd Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn parhau i gydweithio er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.