Neidio i'r prif gynnwy

Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Tha

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Heddiw, cyhoeddais y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni, sy’n amlinellu sut yr ydym eisoes wedi cyflawni llawer o’r ymrwymiadau a wnaed yn y Chwyldro Carbon Isel, y Strategaeth Tlodi Tanwydd, y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd ac Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd. Hyd yma, rydym wedi:

  • Gwella perfformiad 6,000 o aelwydydd o ran effeithlonrwydd ynni drwy’r cynllun arbed
  • Datblygu Cynllun Tlodi Tanwydd newydd i Gymru Gyfan, a fydd yn dod yn weithredol ym mis Ebrill, ac a fydd yn rhoi cymorth i hyd at 15,000 o bobl y flwyddyn
  • Galluogi 4,700 o ddeiliaid tai i brynu boeleri newydd yn lle hen foeleri aneffeithlon, drwy’r cynllun sgrapio boeleri
  • Cyflwyno’r Cod Cartrefi Cynaliadwy, sy’n disgwyl i bob tŷ newydd yng Nghymru gyflawni safonau Lefel 3 y Cod a safonnau ynni uwch
  • Sefydlu Rhaglen Grant y Newid yn yr Hinsawdd i gefnogi grwpiau sydd am fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd
    • Sefydlu Ynni’r Fro i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu ynni ar raddfa gymunedol
  • Ariannu’r Ymddiriedolaeth Garbon i gefnogi busnesau yng Nghymru i dorri ar allyriadau carbon ac elwa ar botensial technolegau carbon isel
  • Rhoi cymorth ariannol i fusnesau bach a chanolig i’w helpu i gael eu hachredu ar gyfer gosod systemau ynni adnewyddadwy, o dan y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu
  • Defnyddio ein prosiectau, er enghraifft arbed a’r Cynllun Tlodi Tanwydd newydd, i greu cyfleoedd hyfforddi a swyddi yn lleol
  • Buddsoddi mwy na £5 miliwn ym mhrosiectau’r sector cyhoeddus i leihau carbon 

Bydd y camau hyn, ynghyd â chamau eraill yn y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni yn helpu i:

  • Leihau tlodi tanwydd a helpu i wireddu ein Strategaeth Tlodi Tanwydd
  • Cwtogi ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, a helpu i wireddu ein Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd
  • Creu swyddi a chyfleoedd busnes yn un o’r chwe sector a nodwyd yn Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd, a chefnogi’r gwaith o wireddu ein Strategaeth Swyddi Gwyrdd 
  • Gwella perfformiad ynni adeiladau yng Nghymru, gan godi ansawdd ein hadeiladau a lleihau costau ynni 
  • Adfywio cymunedau yng Nghymru, drwy wella gwneuthuriad adeiladau ac, yn bwysicach oll, drwy greu swyddi a chyfleoedd busnes a fydd yn datblygu cymunedau mwy cydlynol a chynaliadwyCyflawni ein polisi ynni yn fwy cyffredinol, gan ategu cynnwys Cymru: Chwyldro Carbon Isel
  • Galluogi pobl, sefydliadau a busnesau i dorri ar yr ynni y maent yn ei ddefnyddio, ac i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon, gan ennyn eu diddordeb mewn gwneud hynny 
  • Cefnogi dosbarthu adnoddau mewn modd sy’n fwy teg ac yn fwy cyfiawn yn gymdeithasol