Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf heddiw’n cyhoeddi Adroddiad Terfynol y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gydraddoldebau.
Mae gwaith y Grŵp wedi canolbwyntio ar y gwahaniaethau mewn perfformiad addysgol rhwng bechgyn a merched a hefyd ar y problemau economaidd-gymdeithasol ehangach sydd yn effeithio ar eu perfformiad.  

Roedd y cylch gorchwyl yn llywio gwaith y Grŵp yn erbyn tri amcan:

  • dadansoddiad manwl o’r rhesymau am y gwahaniaethau mewn perfformiad addysgol a deilliannau rhwng bechgyn a merched;
  • effaith problemau economaidd-gymdeithasol ehangach ar eu perfformiad gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, beichiogrwydd ymysg merched ifanc yn eu harddegau;
  • goblygiadau mwy hirdymor tanberfformio ar eu hyfforddiant a’u deilliannau o ran cyflogadwyedd yn y dyfodol, gan gynnwys dewisiadau ar sail stereoteipio yn y gweithle.

Mae’r adroddiad yn amlinellu cymhlethdod y materion hyn a’r berthynas rhyngddynt.
Mae’r adroddiad yn gwneud deuddeg argymhelliad. Mae cyswllt amlwg rhwng yr argymhellion hyn a’r tri nod yr wyf wedi eu pennu ar gyfer y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion:

  • gwella lefelau llythrennedd;
  • gwella lefelau rhifedd; a
  • lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.

Rydw i a’r Dirprwy Weinidog Sgiliau wedi cyfarfod â swyddogion yn fy Adran i ystyried argymhellion y Grŵp yng nghyd-destun rhaglenni gwaith a blaenoriaethau cyfredol a rhai i’r dyfodol.  

Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gydraddoldebau wedi datblygu cynigion manwl ar gyfer ymdrin â’r amcan cyntaf. Ystyriwyd y cynigion hyn, sy’n ymdrin â gwella llythrennedd ac atal tangyflawni ymysg bechgyn, yn ofalus gan y swyddogion yn fy Adran sy’n datblygu’r Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol, gan gynnwys y llinyn gwaith sy’n mynd i’r afael â thangyflawni ymysg bechgyn. Noda’r Grŵp bod cyfle i gyflawni gwelliannau mawr mewn amser cymharol fyr.

Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cydnabod bod mynd i’r afael â’r problemau economaidd-gymdeithasol yn fwy cymhleth ac y bydd angen ymagwedd mwy hirdymor ac amlasiantaethol i fynd i’r afael â’r ail a’r trydydd bwyntiau bwled. Rwyf yn cytuno gyda’r Grŵp fod gan addysg gyfraniad hanfodol i’w wneud a mae fy adran wedi ymrwymo i gyflawni’r nodau pwysig hyn.

Hoffwn ddiolch yn swyddogol i’r Cadeirydd, Bethan Guilfoyle CBE, ac i aelodau ‘r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gydraddoldebau, am y ffordd drwyadl a phroffesiynol y mae’r Grŵp wedi mynd i’r afael â’i Gylch Gorchwyl i gynhyrchu Adroddiad cynhwysfawr a chlir.

Mae’r Adroddiad ar gael yn: http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/reports/equalities/?skip=1&lang=cy a mae copi wedi ei ddodi yn y Llyfrgell.