Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

‘Busnes Pawb’ (2001) yw ein strategaeth ar gyfer helpu plant a phobl ifanc sydd ag anghenion lles emosiynol ac iechyd meddwl. Yn 2010, cyhoeddwyd ‘Chwalu’r Rhwystrau: Ateb y Sialensau’, sef cynllun gweithredu sy’n disgrifio sut y byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i gyrraedd y nodau strategol yn ‘Busnes Pawb’.  Mae’n amlinellu ystod o ymrwymiadau a’r camau penodol y mae angen eu cymryd i gyflawni ‘Busnes Pawb’, gan gynnwys ymrwymiad i baratoi adroddiad blynyddol ar gyfer y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n nodi’r camau a gymerwyd i roi’r Cynllun Gweithredu ar waith. 

Mae’r grŵp aml-asiantaeth, a gafodd y dasg o oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Gweithredu, bellach wedi cwblhau ei adroddiad cynhwysfawr cyntaf, ac mae’n dda gennyf ei dderbyn. Rwyf wedi penderfynu sicrhau ei fod ar gael i’r cyhoedd trwy ei gyhoeddi ar dudalennau iechyd meddwl gwefan Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad yn rhoi golwg gyffredinol ar ddatblygiadau’r 18 mis diwethaf, gan ddweud bod gwasanaethau wedi gwella a bod llawer o gamau cadarnhaol yn cael eu datblygu, yn ogystal â nodi’r gwaith mewn partneriaeth sydd wedi digwydd ar draws y sectorau. Rwy’n cymeradwyo’r adroddiad i Aelodau’r Cynulliad, a hoffwn annog pob un ohonoch i ddarllen am y camau a gymerir i wella gwasanaethau i lawer o’n pobl sy’n agored i niwed.

Fodd bynnag, mae llawer o waith eto i’w wneud yn y dyfodol, ac mae llawer o feysydd yr ydym nawr yn awyddus i ganolbwyntio arnynt, er enghraifft cymorth pontio i bobl ifanc sy’n symud o wasanaethau glasoed i wasanaethau oedolion. Bydd mabwysiadu Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn ein helpu i roi sylw i hyn, er bod digwyddiadau trasig yn y flwyddyn ddiwethaf wedi pwysleisio’r angen inni weithio’n galetach i ddiwallu anghenion pobl ifanc wrth iddyn nhw ddechrau ar eu bywyd fel oedolion. Mae hwn yn gyfnod anodd ym mywyd unrhyw berson ifanc, gyda llu o bwysau yn gysylltiedig ag arholiadau, gyrfaoedd a pherthynas â phobl eraill, ac mae mwy o bwysau fyth ar y rheini sydd eisoes â phroblemau iechyd a lles emosiynol. 

Mae’n ddeng mlynedd ers inni gyhoeddi ‘Busnes Pawb’ a’r strategaeth gyfatebol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ‘Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yng Nghymru: Tegwch, Grymuso, Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd’. Mae’r ddwy strategaeth yn gynnyrch eu hamser, ac maent yn adlewyrchu anghenion Cymru fel yr oeddent ar ddechrau’r ganrif hon. Mae bellach yn amser newid a rhoi dull gweithredu newydd ar waith. Dyna pam rwyf wedi penderfynu cynhyrchu strategaeth iechyd meddwl a lles emosiynol  ar gyfer pob oedran.

Bydd hynny’n adeiladu ar y gwaith da yr ydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn ar draws y gwasanaethau i blant ac oedolion. Bydd yn cydnabod y gallai unrhyw un ohonom, ar unrhyw adeg, gael problemau sy’n golygu bod angen cymorth ein gwasanaethau iechyd a’u partneriaid arnom. Trwy sicrhau bod y cymorth priodol ar gael i adnabod problemau ac ymdrin â nhw, a hynny o’r blynyddoedd cynharaf ymlaen, gallwn greu sail i helpu unigolion i gael bywyd llwyddiannus fel plentyn, person ifanc ac oedolyn. Cydnabyddir hefyd fod gan bobl hŷn anghenion ychwanegol, ac rydym yn datblygu ein gwaith ym maes dementia a meysydd eraill. O ddechrau ein bywydau hyd at y diwedd, bydd y bylchau yn y ddarpariaeth yn cael eu cau fel nad yw pobl yn mynd ar goll yn y system. 

Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo, ac, ar y cyd â’n partneriaid, y bwriad yw rhoi’r dull gweithredu hwn ar waith yn 2012.