Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 12 Gorffennaf 2011, gwnaeth Prif Weinidog ddatganiad ar Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.  Yn y datganiad hwnnw dywedodd y byddai ymgynghoriad Papur Gwyn ar gyfer Bil Rhoi Organau a Meinweoedd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2011.

Heddiw, 7 Tachwedd 2011, rwy’n cyhoeddi Papur Gwyn sy’n nodi ein cynigion ar gyfer deddfwriaeth ac yn gofyn am safbwyntiau.

Ein nod yw cyflwyno system feddal o optio allan yng Nghymru a fydd yn cynyddu nifer y rhoddwyr organau a meinweoedd, gan alluogi mwy o fywydau i gael eu harbed ac i wella ansawdd bywyd eraill.

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 31 Ionawr 2012 a byddaf yn ystyried yr ymatebion wrth benderfynu ar ffurf derfynol y ddeddfwriaeth.

Bydd Uwch Swyddogion y Llywodraeth ar gael i ddarparu briffio technegol i Aelodau’r Cynulliad ar 15 Tachwedd 2011 am 6 yr hwyr yn Ystafell Friffio’r Wasg yn y Senedd.