Adroddiad i asesu cynnydd a chynllunio polisïau i wella'r canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Monitor llesiant plant a phobl ifanc Cymru
Y nod gyda rhifyn 2015 oedd cynhyrchu fersiwn wedi'i ddiweddaru o Fonitor 2011, ond heb gomisiynu ymchwil pwrpasol a chan ganolbwyntio ar gynhyrchu crynodebau byrrach o ystadegau ac ymchwil sy'n bodoli eisoes. Mae'r rhifyn newydd yn cynnwys yr un penodau thematig â'r Monitor diwethaf. Mae hefyd yn cynnwys adran ragarweiniol a chasgliad ar ddatblygiadau diweddar o ran polisi, gwelliannau o ran mesur lles plant a chymariaethau rhyngwladol.
