Neidio i'r prif gynnwy

Data yn ôl gweithgaredd, cymhwyster a gafwyd a lleoliad ar gyfer Medi 2016 i Awst 2017.

Mae’r arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch yn holi graddedigion sy’n ymadael â sefydliadau addysg uwch beth yw eu hanes chwe mis ar ôl graddio.

Yn sgil adolygiad mawr, mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn rhagweld mai hon fydd y flwyddyn olaf y byddant cyhoeddi allbynnau Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch. Mae arolwg newydd ar Hynt Graddedigion wrthi'n cael ei roi ar waith, a bydd yn cael ei gynnal ymhlith graddedigion oddeutu 15 mis ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau. Disgwylir y bydd y set gyntaf o ddata Hynt Graddedigion yn cael ei chyhoeddi yn ystod gwanwyn 2020.

Prif bwyntiau

Yn 2016/17, roedd 860 o bobl yn addysgu yng Nghymru 6 mis ar ôl iddynt ennill statws athro cymwysedig ac a raddiodd o sefydliad addysg uwch yn y DU.

O'r bobl hyn:

  • 470 (54%) yn addysgu ar lefel ysgol gynradd ac 340 (40%) uwchradd
  • roedd 665 (77%) yn fyfyrwyr Tystysgrif Addysg i Raddedigion a 195 (23%) wedi astudio graddau eraill
  • daeth 94% o Gymru ac aeth 81% i sefydliad addysg uwch yng Nghymru.

Yn 2016/17, o’r 825 o bobl a enillodd statws athro cymwysedig o sefydliad addysg uwch yng Nghymru, roedd eu sefyllfa 6 mis ar ôl graddio yn hysbys. 

O'r bobl hyn:

  • roedd 85% (700) ohonynt yn addysgu yng Nghymru, sydd wedi cynyddu ychydig o 80% yn 2015/16
  • roedd 380 yn addysgu yng Nghymru ar lefel ysgolion cynradd ac roedd 285 yn addysgu yng Nghymru ar lefel ysgolion uwchradd.

Cyfraddau ymateb

Mae oddeutu pedwar o bob pump myfyrwyr sy’n enillodd statws athro cymwysedig o sefydliadau addysg uwch yn y DU yn cwblhau’r arolwg.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.