Neidio i'r prif gynnwy

Amcan yr ymchwil oedd nodi'r ffactorau hynny sydd wedi chwarae rôl achosol yn llwyddiant trefi llai sy'n ffynnu ac asesu'r posibiliadau ar gyfer polisïau er mwyn sicrhau'r.

Methodoleg

Ymchwil ddesg, yn cynnwys adolygiad o’r llenyddiaeth a dadansoddiad ystadegol ar sail ffynonellau data presennol, ac astudiaethau achos ar sail cyfresi cyffelyb o drefi sy'n perfformio'n wahanol.


Prif gasgliadau'r Uned Ymchwil Economaidd

  • Mae'r diffiniad o "lwyddiant" ynddo'i hun yn gallu bod yn ddadleuol. Yn y crynodeb hwn mae'r term yn cael ei ddefnyddio mewn ystyr economaidd braidd yn gul - yn ôl ffactorau mesuradwy fel twf mewn cyflogaeth.
  • Mae perfformiad trefi llai yn amrywio'n fawr. Gall amrywiaeth eang o ffactorau helpu i hyrwyddo llwyddiant, ac nid oes un ffactor sy'n rhaid ei chael. Er enghraifft, er bod perifferoldeb yn gallu bod yn anfantais, mae enghreifftiau o drefi mwy pellennig ac sydd â llai o gysylltiadau yn perfformio'n llwyddiannus, ac i'r gwrthwyneb.
  • Mae'r astudiaeth wedi cadarnhau pwysigrwydd amrywiaeth o ffactorau "diriaethol" sydd fel arfer yn cael eu nodi yn y lenyddiaeth:
    - lleoliad
    - seilwaith
    - y tir sydd ar gael
    - tai
    - maint ac ansawdd y llafur
    - strwythur diwydiannol a busnes (o leiaf yn y tymor byrrach).
  • Gall nifer o ffactorau llai diriaethol hefyd fod yn bwysig, yn enwedig ansawdd bywyd a phrydferthwch ffisegol. Gall agweddau ar y gymuned a diwylliant hefyd chwarae rôl.
  • Deunydd hanesyddol, yn nhermau prydferthwch ffisegol ac, yn hanfodol, natur y farchnad dai.
  • Gall y farchnad dai chwarae rôl hanfodol wrth ddenu neu rwydo mathau penodol o gartrefi difreintiedig mewn rhai trefi, ac mae hyn yn gysylltiedig â pherfformiad economaidd gwael.
  • Mae ansawdd y gweithlu yn ffactor gynyddol bwysig mewn llwyddiant economaidd. Mae denu a chadw gweithwyr sydd â chymwysterau da hefyd yn bwysig felly. Mae rhai arwyddion bod y cyfleoedd o ran cyflog a swyddi i bobl sydd â llai o gymwysterau yn cael eu gwella yn sgil y rhai sy'n fwy cymwys. Ac mae rhywfaint o dystiolaeth (hanesion yn bennaf hyd yma) bod mewnfudwyr yn debygol o fod yn fwy entrepreneuraidd. Ond mae yna faterion amlwg hefyd sy'n gysylltiedig â diwylliant a dymuniadau'r boblogaeth frodorol.
  • Mae tystiolaeth bod prydferthwch ffisegol trefi a'u hardaloedd yn gallu bod yn hanfodol i ddenu pobl fedrus a chyfoethog - yn ogystal ag i hyrwyddo eu hunain fel canolfannau gwasanaethau lleol a chyrchfannau twristiaid.
  • Mae perfformiad trefi a'u hardaloedd yn gydgysylltiedig. Mae trefi sy'n llwyddiannus yn economaidd yn tueddu i fod wedi'u lleoli o fewn ardaloedd ehangach lle mae twf yn y boblogaeth.
  • Er bod sefydliadau lleol (fel rhwydweithiau) wedi cael sylw mewn rhai astudiaethau cynharach, daethpwyd i'r casgliad nad oeddent yn arbennig o bwysig yn ymarferol.
  • O ran y ffactorau lle y gellir cymryd camau yn y tymor byrrach, ymddengys y byddai camau i wneud trefi'n fwy prydferth ac yn haws eu cyrraedd yn creu cyfleoedd. Mae hyd yn oed camau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth os ydynt wedi'u cynllunio'n dda. Gallai polisïau o'r fath dargedu:
    - deunydd ffisegol;
    - rheoli traffig a pharcio;
    - gwella'r cyfleusterau adwerthu i hyrwyddo'r ganolfan wasanaethau.
  • Dros y tymor hwy, mae'r canlyniadau yn awgrymu y gallai fod yn briodol rhoi sylw i brosesau'r farchnad dai, ac yn benodol i greu cyfleoedd i ddenu trigolion cyfoethocach a/neu sydd â chymwysterau da lle nad yw pobl o'r fath yn cael eu cynrychioli'n ddigonol.
  • Bydd trefi llai yn manteisio os cymerir camau tebyg yn eu hardaloedd cyfagos

Adroddiadau

Dynamic smaller towns: identification of critical success factors (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 553 KB

PDF
553 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.