Mae Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan, sydd wedi bod ar waith ers 17 Hydref 2022, bellach wedi cael ei ddirymu.
Dogfennau

Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan wedi cael ei ddirymu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 134 KB
Manylion
Cafodd y Parth Atal Ffliw Adar ei ddirymu ar 4 Gorffennaf 2023, ac nid yw bellach ar waith.
Mae ceidwaid adar yn cael eu cynghori i barhau i gwblhau’r rhestr wirio hunan-asesu bioddiogelwch. Bioddiogelwch digyfaddawd yw’r ffordd fwyaf effeithiol o reoli’r clefyd. Er bod y risg i adar caeth wedi gostwng, dylai pob ceidwad adar ddilyn mesurau bioddiogelwch llym ar bob adeg i atal y risg o’r clefyd yn dychwelyd yn y dyfodol.