Canllawiau
Polisi cyhoeddi Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru
Yr hyn y mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn ei gyhoeddi mewn perthynas â cheisiadau ac apeliadau cynllunio.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 90 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
- Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) yn bodoli i ddarparu gwasanaeth cynllunio ac apeliadau cenedlaethol rhagorol y mae Gweinidogion, y cyhoedd a’r holl randdeiliaid yn ffyddiog ynddo ac yn ei barchu. Ceisiwn ddarparu’r gwasanaeth hwn yn unol â’n gwerthoedd, sef tegwch, bod yn agored, didueddrwydd ac amseroldeb. Mae’r gwerthoedd hyn yn ganolog i bopeth a wnawn, ac felly hefyd ymrwymiad i’n cwsmeriaid.
- Wrth gyflawni ein dyletswyddau, bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn cyhoeddi dogfennau a dderbynnir i borth y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio.
Cwmpas
- Mae’r polisi hwn yn amlinellu sut y bydd gwaith achos yn cael ei gyhoeddi a sut byddwn yn sicrhau, wrth wneud hynny, ein bod yn bodloni ein rhwymedigaethau fel proseswyr data o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, ac o fis Mai 2018, o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae’n esbonio:
- y broses,
- y sail resymegol y tu ôl i’r broses hon, a
- beth y dylai ein cwsmeriaid ddisgwyl ei weld.
Y Polisi
- Wrth gyhoeddi dogfennau ar y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio, byddwn yn ystyried disgwyliadau pobl ynglŷn â sut bydd eu data personol yn cael eu defnyddio. Gwnawn hyn drwy ddilyn canllawiau PARSOL sy’n helpu PCAC i gyhoeddi gwybodaeth mewn modd cyson ac mewn ffordd sy’n cydymffurfio â deddfau diogelu data perthnasol. Fel mater o drefn, byddwn yn golygu’r canlynol yn ddiogel:
• Llofnodion,
• Rhifau ffôn personol (tirlinell neu symudol),
• Cyfeiriadau e-bost personol,
• Lluniau o blant.
- Mae’r holl staff wedi cael hyfforddiant ar sut i ystyried priodoldeb cyhoeddi dogfen. Os oes unrhyw amheuaeth, ni fyddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth a bydd hysbysiad yn cael ei
lanlwytho yn ei lle. Bydd yr hysbysiad hwn yn esbonio:
- pam nad yw’r wybodaeth wedi’i chyhoeddi
- ei bod yn cael ei dal er mwyn ei hystyried wrth benderfynu ar yr apêl
- gallai copi gael ei weld ar gais yn ein swyddfa.
- Mae’n bwysig nodi nad oes rhaid i ddogfen gael ei chyhoeddi ar y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio er mwyn iddi fod ar gael yn gyhoeddus. Mae dogfennau ar gael i’w gweld ar gais (trwy drefnu apwyntiad o flaen llaw) yn swyddfeydd PCAC, yn ogystal ag
yn yr awdurdod lleol/perthnasol.
- Dylai gwrthrychau data a chwsmeriaid ddisgwyl i ddogfen a welir ar y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio gynnwys y wybodaeth honno sy’n berthnasol i’r apêl yn unig. Os bydd unrhyw achos posibl o dorri’r polisi hwn yn digwydd, byddwn yn cymryd camau ar
unwaith i ddileu’r wybodaeth.