Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Anelir y canllawiau statudol hyn at gyrff llywodraethu ysgolion a phenaethiaid i’w helpu i ddatblygu, mabwysiadu, adolygu a gwerthuso polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Rhaid i ysgolion ystyried y canllawiau hyn wrth ystyried polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Mae’r canllawiau’n canolbwyntio ar:

  • sicrhau y rhoddir sylw teilwng i ofalu bod disgyblion o wahanol ryw a rhywedd, disgyblion o gefndiroedd ethnig a chrefyddol gwahanol, a disgyblion anabl yn cael eu trin yn gyfartal mewn perthynas â pholisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion
  • cost a fforddiadwyedd
  • ystyriaethau ymarferol sy'n gysylltiedig â chyflwyno neu newid polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion
  • ymgynghori â rhieni, disgyblion a’r gymuned

Adran 1: Cyflwyniad

1.1 Mae Llywodraeth Cymru yn pwyso ar bob corff llywodraethu i gael gwisg ysgol, ac i ddatblygu polisi gwisg ysgol ar ôl ymgynghori â rhieni, disgyblion a chymunedau lleol neu gymunedau ffydd perthnasol. O’i datblygu’n iawn a’i gweithredu’n briodol, gall gwisg ysgol:

  • greu ymdeimlad o hunaniaeth, cymuned a chydlyniant yn yr ysgol
  • cefnogi ymddygiad cadarnhaol a disgyblaeth yn yr ysgol
  • sicrhau bod disgyblion yn gwisgo'n briodol ar gyfer gweithgareddau dysgu
  • dileu'r pwysau ymhlith cyfoedion i wisgo dillad o ffasiwn benodol
  • sicrhau bod disgyblion o bob cefndir yn rhannu hunaniaeth gyffredin sy'n cynnwys eu gofynion penodol
  • helpu i leihau'r anghydraddoldeb rhwng disgyblion a helpu i leihau rhai ffactorau sy'n arwain at fwlio
  • bod o fudd o ran polisïau diogelu a phresenoldeb drwy helpu i adnabod triwantiaid
  • helpu i nodi dieithriaid ar safle'r ysgol
  • cefnogi a hyrwyddo ethos yr ysgol

Statws y canllawiau

1.2 Mae'r canllawiau hyn yn statudol felly rhaid i benaethiaid a chyrff llywodraethu eu hystyried wrth lunio ac adolygu eu polisïau gwisg ysgol.

1.3 Mae'r canllawiau hyn yn cymryd lle’r canllawiau anstatudol blaenorol, sef “Canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion” a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2019 (Cylchlythyr 247/2019).

Y Cyd-destun Cyfreithiol

1.4 Mae gan gorff llywodraethu ysgol gyfrifoldeb cyffredinol dros gynnal yr ysgol, ac mae'n ofynnol iddo arfer ei swyddogaethau yn hyn o beth gyda'r bwriad o ddiogelu a hyrwyddo lles disgyblion yn yr ysgol.

Adrannau 88 ac 89 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006

1.5 Mae'r corff llywodraethu yn gyfrifol am ddilyn polisïau sydd wedi'u cynllunio i hybu ymddygiad a disgyblaeth dda ar ran ei ddisgyblion. Gall hyn gynnwys, er enghraifft nodi gwisg ysgol y mae'n ofynnol i ddisgyblion ei gwisgo ynghyd â rheolau eraill sy'n ymwneud ag edrychiad disgyblion. 

1.6 Hefyd, mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu wneud (ac adolygu o bryd i'w gilydd) ddatganiad ysgrifenedig o egwyddorion cyffredinol, y mae'n rhaid i bennaeth yr ysgol roi sylw iddo wrth benderfynu ar fesurau ar gyfer yr ysgol. Rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i unrhyw ganllawiau sy'n cael eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru wrth wneud hynny, ac wrth roi gwybod i bennaeth am unrhyw faterion y mae o'r farn y dylai'r pennaeth benderfynu arnynt.

1.7 Mae penaethiaid yn gyfrifol am benderfynu ar fesurau i'w cymryd gyda'r bwriad o hyrwyddo disgyblaeth a pharch priodol i awdurdod ymhlith disgyblion, annog ymddygiad da a pharch at eraill ar ran disgyblion, ac atal pob math o fwlio ymhlith disgyblion (gan gynnwys rheolau a darpariaethau ar gyfer gorfodi'r mesurau). Wrth benderfynu ar fesurau o'r fath, mae'n ofynnol i'r pennaeth roi sylw i unrhyw faterion yr hysbyswyd amdanynt, neu ganllawiau a gyhoeddwyd, gan y corff llywodraethu. Dylai'r mesurau hyn gael eu cyhoeddi mewn dogfen ysgrifenedig a rhaid i’r ddogfen honno fod yn hysbys i bawb yn yr ysgol ac i rieni. O leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ysgol, rhaid i'r pennaeth gymryd camau i ddwyn y mesurau hyn at sylw disgyblion, eu rhieni a phawb arall a gyflogir gan yr ysgol neu sy'n gweithio yn yr ysgol mewn ffordd arall.

Adran 2: Hawliau Dynol, Cydraddoldeb, Gwahaniaethu ac ystyriaethau Gwrth-fwlio

2.1 Rhaid i gyrff llywodraethu roi sylw i'w rhwymedigaethau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Cydraddoldeb 2010 wrth ddatblygu neu adolygu eu polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion, er mwyn sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu'n anghyfreithlon ar sail rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred ac anabledd.

2.2 Nid yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ymwneud yn benodol â gwisg ysgol nac agweddau eraill ar edrychiad disgyblion, ond mae'r gofyniad cyffredinol i beidio â gwahaniaethu wrth ymdrin â disgyblion yr un mor berthnasol yma ag y mae i agweddau eraill ar bolisi'r ysgol.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau cysylltiedig, gan gynnwys: 'yr hyn y mae cyfraith cydraddoldeb yn ei olygu i chi fel darparwr addysg yng Nghymru: ysgolion'.

2.3 Hefyd, mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000 yn gosod dyletswydd ar gyrff llywodraethu a phenaethiaid i gyflawni eu cyfrifoldebau gan ystyried yr angen i:

  • dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail hil, rhyw a rhywedd
  • hyrwyddo cyfle cyfartal a chydberthnasau da rhwng pobl o grwpiau hil gwahanol a rhwng grwpiau rhyw neu rhywedd

Gwahaniaethu ar sail hil neu gred grefyddol

2.4 Bydd cyrff llywodraethu yn ystyried eu polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion yng nghyd-destun eu polisi gwrth-hiliaeth; eu rhwymedigaeth i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng disgyblion o wahanol grwpiau ethnig lleiafrifol; a'r gofyniad i asesu effaith polisïau'r ysgol ar ddisgyblion o wahanol grwpiau ethnig lleiafrifol. Mae gwybodaeth am wahaniaethu ar sail hil ac ethnigrwydd mewn perthynas â gwallt a steil gwallt i'w gweld yn adran 3 o'r canllawiau hyn.

2.5 Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn diogelu'r hawl i “amlygu ymlyniad wrth grefydd neu gred”. Felly, mae'n bwysig bod corff llywodraethu yn ystyried sut y gallai polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion dorri hawliau'r unigolyn i ddilyn arferion cydnabyddedig yn ei grefydd neu gred. Bydd cyrff llywodraethu yn gwneud ymdrech resymol i addasu i ofynion o'r fath a dylai ystyried unrhyw gais i amrywio ei bolisi er mwyn diwallu anghenion disgyblion unigol o ran eu crefydd neu gred.

2.6 Gellir ystyried bod corff llywodraethu yn gwahaniaethu os na fydd yn ystyried anghenion crefyddol mewn perthynas â gwisg. Gall fod yn arfer grefyddol gydnabyddedig i ddisgybl wisgo dilledyn penodol.

2.7 I gydnabod hyn, gallai’r corff llywodraethu benderfynu y gallai'r disgybl wisgo’r dilledyn yn lliwiau’r wisg ysgol. Rhaid i gyrff llywodraethu fodloni'r gofynion statudol perthnasol wrth wneud penderfyniadau o'r fath.

Gwahaniaethu ar sail anabledd

2.8 Mae angen i gyrff llywodraethu sicrhau nad yw polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion yn rhoi disgyblion anabl o dan anfantais o’i gymharu â disgyblion nad ydynt yn anabl. Mae'r materion i'w hystyried yn cynnwys ymarferoldeb polisïau ac a ellir gwneud addasiadau rhesymol er mwyn bodloni gofynion disgyblion anabl.

Gwahaniaethu ar sail rhyw a hunaniaeth rhywedd

2.9 Bydd corff llywodraethu yn nodi'r hyn sy'n rhan o'i wisg ysgol ac yn sicrhau bod ganddo bolisi gwisg ysgol cynhwysol nad yw'n gwahaniaethu ar sail rhyw na hunaniaeth rhywedd. Dylai polisi gwisg ysgol restru eitemau o ddillad y caniateir iddynt gael eu gwisgo yn yr ysgol, heb nodi unrhyw ofynion o ran yr angen i eitemau o ddillad gael eu gwisgo gan fyfyrwyr o rywedd penodol yn unig.

2.10 Mae angen i ysgolion ystyried a oes angen hyblygrwydd mewn perthynas â gwisg ysgol er mwyn diwallu anghenion disgybl sy'n mynd drwy broses ailbennu rhywedd. Er mwyn cael eich diogelu rhag gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd, nid oes angen ichi fod wedi cael unrhyw driniaeth feddygol na llawdriniaeth i newid o'ch rhyw geni i'ch dewis rhywedd. Gall methiant i ganiatáu i ddisgybl wisgo gwisg ysgol sy'n adlewyrchu e hunaniaeth rhywedd olygu gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

2.11 Os yw corff llywodraethu yn pennu gwahaniaethau yn y polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion ar sail rhyw a hunaniaeth rhywedd (neu seiliau eraill) dylid cyfiawnhau’r rhain. Un sail bosibl dros gyfiawnhau gwahaniaethau o'r fath fyddai bod crefydd benodol yn pennu cod dillad a chod edrychiad gwahanol ar gyfer y ddau ryw. Gallai peidio â pharchu codau o'r fath arwain at wahaniaethu ar sail hil neu dorri hawliau dynol. Er enghraifft, os nad yw'r gwahaniaethau yn y gofynion o ran gwisg yn cael effeithiau llawer mwy andwyol ar un rhyw neu rhywedd na’r llall, mae'n annhebygol y cânt eu hystyried yn wahaniaethol, ond gallai fod yn anghyfreithlon, er enghraifft, petai gwisg ysgol y merched yn llawer drutach na gwisg ysgol y bechgyn.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

2.12 Rhaid i gyrff llywodraethu hefyd ddilyn egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae Hawliau’r Plentyn Erthyglau 2, 12, ac 13 yn arbennig o berthnasol i'r canllawiau hyn felly mae eu manylion isod er hwylustod:

Erthygl 2

  1. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau barchu'r hawliau sydd wedi eu nodi yn y Confensiwn presennol a'u sicrhau i bob plentyn o fewn eu hawdurdodaeth heb gamwahaniaethu o unrhyw fath, ni waeth beth fo hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol, ethnig neu gymdeithasol, eiddo, anabledd, genedigaeth neu statws arall y plentyn neu ei riant neu ei warcheidwad cyfreithiol.
  2. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur priodol i sicrhau bod y plentyn yn cael ei amddiffyn rhag pob ffurf ar gamwahaniaethu neu gosbi ar sail statws, gweithgareddau, barnau datganedig, neu gredoau rhieni, gwarcheidwaid cyfreithiol, neu aelodau teulu'r plentyn.

Erthygl 12

  1. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau i'r plentyn sy'n gallu ffurfio ei farn ei hun hawl i leisio'r farn honno'n ddirwystr ym mhob mater sy'n effeithio arno, a bod pwys priodol yn cael ei roi ar farn y plentyn yn ôl ei oedran a'i aeddfedrwydd.
  2. At y diben hwn, rhaid rhoi cyfle i'r plentyn yn benodol i gael gwrandawiad mewn unrhyw weithdrefn farnwrol a gweinyddol sy'n effeithio arno, naill ai'n uniongyrchol, neu drwy gynrychiolydd neu gorff priodol, mewn modd sy'n gyson â rheolau gweithdrefnol y gyfraith genedlaethol.

Erthygl 13

  1. Bydd gan y plentyn hawl i ryddid mynegiant. Bydd yr hawl hon yn cynnwys rhyddid i geisio, cael a rhoi gwybodaeth a syniadau o bob math, ni waeth beth fo'r ffiniau, naill ai ar lafar, mewn ysgrifen neu mewn print, ar ffurf celfyddyd, neu drwy unrhyw gyfrwng arall a ddewisir gan y plentyn.
  2. Caiff y dull o arfer yr hawl hon fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau, ond ni fydd y rhain ond y rhai a ddarperir drwy'r gyfraith ac sy'n angenrheidiol:
    • I barchu hawliau neu enwau da personau eraill
    • I warchod diogeledd gwladol neu drefn gyhoeddus, neu iechyd neu foesau cyhoeddus.

Gwrth-fwlio

2.13 Dylai corff llywodraethu sicrhau na fydd llunio, newid na gweithredu polisi gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion yn creu sefyllfa a fydd yn arwain at fwlio. Dylid ystyried canllawiau gwrth-fwlio Llywodraeth Cymru a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Adran 3: Materion i’w hystyried wrth ddatblygu, mabwysiadu, newid neu werthuso polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion

Cost a fforddiadwyedd gwisg ysgol

3.1 Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall prynu gwisg ysgol ac eitemau eraill yn unol â pholisi gwisg ysgol fod yn faich ariannol, yn arbennig i'r rheini o deuluoedd ar incwm isel a theuluoedd mawr. O ganlyniad, wrth gyflwyno gwisg ysgol newydd neu ystyried newid gofynion y wisg ysgol, bydd cyrff llywodraethu yn rhoi blaenoriaeth uchel i ystyriaethau'n ymwneud â chost a fforddiadwyedd. Ni ddylai unrhyw wisg ysgol fod mor ddrud fel bod disgyblion neu eu teuluoedd yn teimlo na allant wneud cais am le mewn ysgol benodol neu na allant fynd i ysgol benodol. Pan fo eitemau brand yn rhan o’r wisg, ni ddylai’r rhain fod yn orfodol, a dylai ysgolion sicrhau bod ganddynt drefniadau ar waith i gaffael gwisgoedd ysgol ail-law.

3.2 Dylai cyrff llywodraethu ystyried y canlynol er mwyn ceisio cadw cost gwisg ysgol yn isel:

  • Dylai ysgolion bennu eitemau a lliwiau sylfaenol yn unig (ond nid steil), fel y gellir prynu eitemau mewn cyflenwyr manwerthu amrywiol am brisiau rhesymol ac nid gan un cyflenwr awdurdodedig yn unig
  • Osgoi eitemau cost uchel megis blasers a chapiau
  • Osgoi amrywio'r lliw a'r steil ar gyfer grwpiau blwyddyn gwahanol am fod hyn yn ddrud i rieni ac yn golygu na ellir gwerthu'r dillad yn ail-law na'u rhoi i frodyr neu chwiorydd
  • Dewis eitemau y gellir eu golchi'n rhwydd: dylid osgoi eitemau sy’n gorfod cael eu sychlanhau
  • Cyfyngu ar ba mor aml y caiff y wisg ysgol ei newid oherwydd gall hyn fod yn gostus i rieni ac mae'n cyfyngu ar eu gallu i werthu'r dillad yn ail-law neu eu rhoi i frodyr neu chwiorydd
  • Ystyried cost ac argaeledd meintiau nad ydynt yn rhai safonol
  • Os caiff y polisi gwisg ysgol ei newid, dylid cyflwyno cyfnod pontio fel y gellir gwisgo'r hen wisg ysgol am o leiaf blwyddyn neu tan y bydd y dillad wedi mynd yn rhy fach, cyn newid yn llwyr i'r wisg ysgol newydd. Dylid ystyried a ellir cadw eitemau o'r hen wisg ysgol yn y polisi newydd
  • Dylai cyrff llywodraethu ysgolion, sy’n pennu neu’n ystyried gwisg wahanol ar gyfer yr haf a’r gaeaf, ystyried a yw’n gymesur ac yn gyfiawn i wneud hynny. Dylai gwisg ysgol fod mor ddarbodus â phosibl a dim ond am fater o wythnosau y caiff gwisg ysgol ar gyfer yr haf ei gwisgo. Er enghraifft, gallai cyrff llywodraethu ystyried trowsus i'r myfyrwyr yn y gaeaf neu yn ystod cyfnodau o dywydd oer iawn, trowsus byr yn yr haf neu yn ystod cyfnodau o dywydd poeth, a chaniatáu i'r myfyrwyr beidio â gwisgo teits gwlanog yn ystod cyfnodau o dywydd poeth
  • Anogir ysgolion uwchradd i ystyried dichonoldeb cysoni eu polisi gwisg ysgol â pholisïau'r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo er mwyn galluogi'r disgyblion i barhau i ddefnyddio unrhyw eitemau gwisg ysgol craidd (er enghraifft, crysau, crysau polo, trowsusau, sgertiau a chyfarpar chwaraeon) yn yr ysgol uwchradd a lleihau cost pontio i addysg uwchradd

3.3 Gall ei gwneud yn ofynnol i ddisgyblion wisgo gwisg ysgol â logo'r ysgol a nodweddion unigryw eraill arnynt, y gellir eu prynu gan gyflenwyr arbenigol yn unig, fod yn gostus. Ni ddylai gwisg brand fod yn orfodol. Defnyddir y term ‘brand’ i ddisgrifio eitem o ddillad gyda nodweddion unigryw sy'n ei gwneud yn unigryw i'r ysgol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, logo. Fel rheol gyffredinol, os na ellir prynu eitem mewn amrywiaeth o fanwerthwyr mae'n debygol o fod yn eitem brand. Mae eitemau o'r fath yn aml wedi eu dylunio'n benodol ar gyfer yr ysgol ac maent yn unigryw o ran lliw, dyluniad neu ffabrig. Er enghraifft, mae blaser gyda logo ysgol wedi'i brodio arni, logo y gellir ei wnïo ar ddillad, crys chwys gyda thrim lliw penodol, neu drowsus gyda steil unigryw sydd felly ond ar gael gan gyflenwr penodol, i gyd yn cael eu hystyried yn eitemau brand

3.4 Mae Llywodraeth Cymru yn annog cyrff llywodraethu i ystyried argaeledd gwisg ysgol. Mae cael amrywiaeth eang o gyflenwyr gwisg ysgol yn mynd i'r afael â phroblemau i'r rhieni a'r gofalwyr hynny sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gyflenwyr gwisg ysgol arbenigol ac sy'n byw mewn ardaloedd anghysbell.

3.5 Dylai cyrff llywodraethu allu dangos eu bod wedi cael y gwerth gorau am arian gan gyflenwyr. Dylai unrhyw arbedion a negodwyd â'r cyflenwyr gael eu trosglwyddo i'r rhieni lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Ni ddylai ysgolion gynnig trefniadau arian yn ôl.

3.6 Dylid osgoi contractau un cyflenwr yn unig ond, pan fo contractau o’r fath yn bodoli, dylid cynnal cystadlaethau tendro rheolaidd bob pum mlynedd o leiaf, lle y gall mwy nag un cyflenwr gystadlu am y contract. Pan fo eitem gwisg ysgol ond ar gael o un man, mae’r prisiau yn debygol o fod yn uwch nag a fyddent pe bai rhieni neu ofalwyr yn gallu prynu’r eitem o wahanol ffynonellau. Pan fo ysgolion yn parhau gyda threfniant un manwerthwr, os oes elfen o gystadleuaeth ar gyfer y farchnad ar ffurf tendro neu broses ddethol a adolygir yn rheolaidd, mae hyn yn debygol o arwain at brisiau is.

Cynlluniau Ailgylchu Gwisg Ysgol

3.7 Gall gwisgoedd ail-law fod o fudd i bob rhiant, yn enwedig i'r rhai sydd ar incwm isel. Hefyd, drwy ymestyn bywyd dilledyn, gall ysgolion annog cynaliadwyedd a'i fuddion ehangach.

3.8 Dylai ysgolion sicrhau bod trefniadau yn eu lle fel bod gwisgoedd ysgol ail-law ar gael i ddisgyblion eu caffael (er enghraifft drwy drefniadau cyfnodol neu barhaus ar gyfer gwerthiant gwisgoedd ail-law neu siopau cyfnewid). Yr ysgol fydd yn penderfynu sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni orau. Efallai y bydd ysgol yn dymuno trefnu darpariaeth neu werthu gwisgoedd ail-law eu hunain neu drwy eu Cymdeithas Rhieni ac Athrawon, neu gymryd rhan mewn cynlluniau lleol sefydledig eraill (er enghraifft cynllun cyfnewid gwisgoedd awdurdodau lleol).

3.9 Dylai gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer caffael gwisg ysgol ail-law ddatgan yn glir pan fo gwisgoedd ail-law ar gael i'w prynu a dylid eu hyrwyddo gan yr ysgol i rieni disgyblion presennol a darpar ddisgyblion, gan gynnwys ar wefan yr ysgol, mewn ffordd mor gynhwysol â phosibl.

3.10 Dylai ysgolion hyrwyddo cynaliadwyedd a manteision amgylcheddol ailgylchu eitemau gwisg ysgol wrth hysbysebu eu trefniadau gwisg ysgol ail-law.

Ystyriaethau eraill ynghylch gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion

Cotiau

3.11 Dylai cyrff llywodraethu fod yn hyblyg o ran eu gofynion ynghylch cotiau i'w gwisgo rhwng y cartref a'r ysgol. Gall pennu lliw neu steil penodol olygu y bydd yn rhaid i rieni brynu dwy got ar gyfer eu plentyn: un i'r ysgol ac un i'w gwisgo ar adegau eraill.

Teithio rhwng y cartref a'r ysgol

3.12 Dylai cyrff llywodraethu annog plant i gerdded neu seiclo i'r ysgol a dylent ystyried hyn wrth bennu cynllun a steil y wisg ysgol. Mae gwisg ysgol yn aml yn dywyll sy'n ei gwneud hi'n anodd i blant gael eu gweld gan yrwyr, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Dylai cyrff llywodraethu ystyried manteision cynnwys lliwiau golau a/neu ddefnyddiau adlewyrchol neu welededd uchel, megis stribedi adlewyrchol y gellir eu tynnu ymaith fel rhan o'u polisi gwisg ysgol, er mwyn sicrhau y gall plant gerdded a seiclo'n ddiogel i'r ysgol.

Addysg gorfforol

3.13 Dylai pob disgybl deimlo'n gyfforddus ynghylch ei ddillad addysg gorfforol. Dylai ysgolion ddewis gwisg addysg gorfforol sy'n ymarferol, yn gyfforddus, yn briodol i'r gweithgareddau dan sylw, ac yn fforddiadwy. Gall y dillad y mae'n ofynnol i ddisgyblion eu gwisgo gael effaith andwyol ar gyfranogiad disgyblion mewn gwersi addysg gorfforol. Dylai cyrff llywodraethu fod yn sensitif ac yn hyblyg gan ystyried y materion yn ymwneud â chydraddoldeb a amlinellir yn y canllawiau hyn. Dylai ysgolion ystyried cost dillad addysg gorfforol, yn enwedig pan fo angen cyfarpar arbenigol. Yn benodol, dylai cyrff llywodraethu roi sylw i’r canllawiau ar ddefnyddio eitemau brand yng nghyd-destun penderfyniadau ynghylch gwisg addysg gorfforol.

Iechyd a diogelwch

3.14 Mae materion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch yn hynod bwysig, ac mae angen eu hystyried yn barhaus, yn enwedig pan fydd disgyblion yn cymryd rhan mewn gwersi addysg gorfforol, gwyddoniaeth a thechnoleg. Wrth lunio neu addasu polisïau gwisg ysgol neu edrychiad disgyblion, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i gyrff llywodraethu gydbwyso dyheadau a hawliau disgyblion unigol â gofynion iechyd a diogelwch neu warchodaeth. Er enghraifft, mae gan gyrff llywodraethu yr hawl i ddisgwyl i ddisgyblion â gwallt hir neu sgarffiau pen eu clymu'n ôl yn ddiogel ar gyfer gweithgareddau addysg gorfforol ac wrth weithio mewn labordai gwyddoniaeth neu weithdai technoleg, pan fyddai hynny fel arall yn peri risg i'r disgybl ei hun neu ddisgyblion eraill a'r hyn sydd o'u cwmpas.

Gemwaith, gwallt a cholur

3.15 Mae'n bosibl y bydd cyrff llywodraethu am ystyried gemwaith fel rhan o'r polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion a phennu eitemau o emwaith y caniateir i ddisgyblion eu gwisgo. Mae'n bosibl y bydd cyrff llywodraethu hefyd am ystyried colur a steil neu lliw gwallt fel rhan o'u polisïau. Wrth wneud hynny, dylent ystyried a allai’r polisi dorri hawl unigolyn i ddilyn arfer gydnabyddedig o'i grefydd neu ei gred, ac a allai'r polisi fod yn wahaniaethol. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi canllawiau ar 'Atal gwahaniaethu ar sail gwallt mewn ysgolion'.

Materion meddygol

3.16 Bydd angen i gyrff llywodraethu ystyried yn ofalus geisiadau i amrywio'r polisïau er mwyn diwallu anghenion disgyblion rhai plant a phobl ifanc, yn enwedig plant anabl a all fod ag anghenion penodol. Er enghraifft, efallai na fydd disgyblion â rhai cyflyrau ar y croen neu anghenion synhwyraidd yn gallu gwisgo ffabrigau neu eitemau penodol, ac na fydd disgyblion ag anafiadau i'w troed neu eu coes yn gallu gwisgo esgidiau ysgol. Mae’n bwysig bod polisïau gwisg ysgol yn gynhwysol ac nad ydynt yn cyfyngu ar gyfranogiad unrhyw blentyn neu berson ifanc.

Amodau tywydd eithafol

3.17 O ran fforddiadwyedd ac ymarferoldeb, rhaid i gyrff llywodraethu fod yn synhwyrol ac yn hyblyg wrth ymdrin â gofynion gwisg ysgol sylfaenol yn ystod cyfnodau o dywydd poeth neu oer iawn, fel llacio'r polisïau dros dro er mwyn sicrhau bod disgyblion yn gyfforddus yn eu hamgylchedd dysgu. Er enghraifft, caniatáu i ddisgyblion wisgo eu gwisg addysg gorfforol neu drowsus byr yn ystod cyfnodau o dywydd poeth iawn neu ganiatáu iddynt wisgo trowsus yn lle sgert yn ystod cyfnodau o dywydd oer iawn.

3.18 Dylai cyrff llywodraethu fod yn eglur ynghylch eu hyblygrwydd o ran eitemau gwisg ysgol ar gyfer amodau tywydd eithafol wrth osod eu polisi gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion, gan gynnwys sut y caiff unrhyw newidiadau eu cyfathrebu.

Adran 4: Gwybodaeth, ymgynghori a chwynion

Prosbectysau ysgolion

4.1 Dylai'r gofynion ynghylch gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion gael eu cynnwys ym mhrosbectws yr ysgol. Dylai prosbectws yr ysgol gael ei ddiweddaru bob blwyddyn a dylid sicrhau ei fod ar gael i rieni pob disgybl presennol a darpar ddisgybl ar gais. Gellid hefyd gynnwys y polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion ar wefan yr ysgol a'u rhannu â'r rhieni drwy'r cyfryngau cymdeithasol ac yn electronig. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pob rhiant yn ymwybodol o bolisïau’r ysgol ar wisg ysgol ac edrychiad disgyblion cyn penderfynu anfon ei blentyn i'r ysgol.

Ymgynghori â rhieni, cynghorau ysgol, disgyblion a grwpiau eraill

4.2 Wrth ystyried cyflwyno polisïau newydd ar wisg ysgol ac edrychiad disgyblion neu newid y polisïau presennol, dylai cyrff llywodraethu ymgynghori â'r disgyblion a'r rhieni neu gofalwyr presennol yn ogystal â darpar ddisgyblion a rhieni neu gofalwyr, yn enwedig gan y gallai eu newid arwain at gostau ychwanegol. Dylai'r broses ymgynghori hefyd gynnwys cynrychiolwyr o grwpiau gwahanol o ddisgyblion yn y gymuned ehangach, gan sicrhau bod arweinwyr cymunedol sy'n cynrychioli grwpiau ethnig lleiafrifol a grwpiau crefyddol yn cael eu nodi yn ogystal â grwpiau sy'n cynrychioli disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, anableddau neu faterion yn ymwneud â hunaniaeth rhywedd. Dylai cyrff llywodraethu ymgysylltu â disgyblion, gan gynnwys disgyblion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, yn ogystal â'r cyngor ysgol wrth ddatblygu polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion drwy eu hannog i gymryd perchenogaeth dros y gwaith o lunio eu polisi gwisg ysgol yn unol â'r egwyddorion a nodir yn y canllawiau hyn.

4.3 Mae polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn Hawliau Plant yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn pennu saith nod sylfaenol ac yn nodi bod gan bob person ifanc yng Nghymru yr hawl i gael ei gynnwys mewn proses ymgynghori, i fod yn rhan o benderfyniadau, ac i leisio ei farn am faterion sy'n ymwneud ag ef neu sy'n effeithio ar ei fywyd.

4.4 Dylid ymgynghori â disgyblion, a dylent allu dylanwadu ar benderfyniadau sy'n cael effaith arnynt. Er mwyn cefnogi disgyblion ac ysgolion, mae Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol gynradd (ac eithrio ysgolion meithrin ac ysgolion babanod), ysgol uwchradd ac ysgol arbennig a gynhelir yng Nghymru sefydlu cyngor ysgol. Mae 'Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 42/2006': Canllawiau i Gyrff Llywodraethu ar Sefydlu a Gweithredu Cynghorau Ysgol, yn cynghori y gallai gwisg ysgol fod yn un o'r materion y dylid gofyn i gyngor ysgol ei ystyried yn ei gyfarfodydd, ac mewn ymgynghoriad â disgyblion yr ysgol.

4.5 Dylai cyrff llywodraethu gofnodi'r broses ymgynghori a ddefnyddiwyd, y pwyntiau a wnaed gan yr ymatebwyr a'r penderfyniadau a wnaed wrth bwyso a mesur safbwyntiau croes. Byddai'n ddefnyddiol petai cyrff llywodraethu yn rhoi rhesymau i'r ymatebwyr dros y penderfyniadau a wnaed, yn enwedig os aethpwyd i'r afael â mater dadleuol yn ystod yr ymgynghoriad. Mewn achosion lle y caiff penderfyniad ei wneud ar sail barn y mwyafrif, dylai cyrff llywodraethu fod yn ofalus iawn er mwyn sicrhau nad yw barn y mwyafrif yn gwahaniaethu yn erbyn nodweddion gwarchodedig na grŵp penodol.

4.6 Anogir cyrff llywodraethu i adolygu eu polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion o bryd i'w gilydd (a dylent bob amser ystyried gwneud hynny pan gyflwynir sylwadau) ac i ymgynghori â rhieni, disgyblion a grwpiau eraill er mwyn casglu eu barn. Dylai ysgolion roi digon o rybudd cyn cynnal ymgynghoriad am bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion a'i gyhoeddi'n eang er mwyn annog y nifer mwyaf o ymatebion. Os gwneir newidiadau i bolisïau gwisg ysgol o ganlyniad i'r ymgynghoriad, dylai ysgolion sicrhau bod trefniadau pontio ar waith a darparu cyfnod cyflwyno hir ar gyfer unrhyw newidiadau.

Cwynion

4.7 Dylid cyflwyno cwynion neu bryderon am bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion, gan gynnwys cwynion a phryderon am argaeledd y wisg ysgol a chost ei phrynu gan gyflenwr penodol, i gorff llywodraethu'r ysgol, a ddylai ddelio â nhw yn unol â gweithdrefn gwyno'r corff llywodraethu. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff llywodraethu roi gweithdrefn ar waith ar gyfer delio â chwynion gan rieni, disgyblion, aelodau o'r staff, llywodraethwyr, aelodau o'r gymuned leol ac eraill sy'n ymwneud â materion y mae gan y corff llywodraethu gyfrifoldeb statudol amdanynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau ar weithdrefnau cwyno ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion.

4.8 Dylid cyhoeddi'r broses ar gyfer cwyno am bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion, er enghraifft, ar wefan yr ysgol neu mewn deunydd cyfathrebu penodol i rieni am bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion.

Peidio â chydymffurfio â pholisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion

4.9 Pan fydd y corff llywodraethu wedi cyflwyno polisi gwisg ysgol a/neu reolau ynghylch edrychiad, cyfrifoldeb penaethiaid fydd gorfodi'r rhain fel rhan o'u cyfrifoldeb cyffredinol am y gwaith o redeg yr ysgol o ddydd i ddydd a chynnal disgyblaeth.

4.10 Dylai penaethiaid benderfynu pa gamau i'w cymryd pan fydd disgyblion yn torri'r rheolau o ran gwisg ysgol neu edrychiad disgyblion. Gall penaethiaid ddisgyblu disgyblion am dorri polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion, ond cyn gwneud hynny, mae'n bwysig iawn eu bod yn ceisio canfod pam nad yw disgyblion yn cydymffurfio â'r polisi. Os mai'r rheswm dros hynny yw am fod teuluoedd yn wynebu anawsterau ariannol, dylai ysgolion ganiatáu cyfnod penodol o amser iddynt brynu'r eitemau gofynnol a chynnig gwybodaeth am unrhyw gymorth y gall yr awdurdod lleol neu'r ysgol ei gynnig. Dylai ysgolion sicrhau eu bod yn rhoi gwybod am gyllid grant Llywodraeth Cymru, fel cymorth i gael gwisg ysgol drwy'r Grant Hanfodion Ysgol, ynghyd â'r meini prawf cymhwyso.

4.11 Efallai fod rhesymau eraill pam nad yw disgybl yn cydymffurfio â'r polisi gwisg ysgol neu edrychiad disgyblion, ar wahân i drafferthion ariannol neu awydd i herio'r drefn. Er enghraifft, efallai fod disgybl wedi colli ei wisg ysgol, ei bod wedi cael ei dwyn neu ei difrodi, neu ei bod wedi'i baeddu'n ddamweiniol i'r graddau na ellir ei gwisgo, ac efallai nad yw'n bosibl golchi a sychu rhai eitemau o ddillad dros nos. Ni fyddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl i benaethiaid anfon plant adref o dan amgylchiadau o'r fath. Gallai rhesymau eraill gynnwys nad yw'r wisg ysgol ar gael ym maint y disgybl, neu gallai fod rhesymau crefyddol na chawsant eu nodi'n flaenorol.

4.12 Gall penaethiaid ofyn i ddisgyblion fynd adref i newid eu dillad os yw hynny'n briodol. Ni ddylai hyn gymryd mwy o amser nag sydd ei angen arnynt i newid eu dillad a dim ond lle y gellid gwneud hynny'n gyflym ac yn ddidrafferth y byddai hyn yn briodol. Ni ddylai penaethiaid anfon disgybl adref am gyfnod amhenodol neu am gyfnod hwy nag sydd ei angen arno i newid ei ddillad neu ei edrychiad (er enghraifft, drwy dorri ei wallt), oherwydd gallai hyn gael ei ystyried yn waharddiad answyddogol. Dylid defnyddio’r mesur hwn yn gymesur. Pan fydd penaethiaid neu uwch-aelodau o'r staff yn anfon disgybl adref, dylent ystyried oedran y plentyn ac i ba raddau y mae'n agored i niwed, a dylent gysylltu â'r rhieni neu ofalwyr. Byddai disgwyl i'r disgybl ddychwelyd i'r ysgol yn syth ar ôl newid ei ddillad. Gallai peidio â gwneud hynny gael ei ystyried yn absenoldeb heb awdurdod.

Gwahardd ac absenoldeb

4.13 Nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod gwahardd, o dan amgylchiadau arferol, yn ymateb priodol i achosion o dorri polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion.

4.14 Mae angen i gyrff llywodraethu sicrhau nad yw absenoldeb yn digwydd oherwydd anallu teuluoedd i ddarparu gwisg ysgol i'w plant. Os bydd hynny'n digwydd, dylai'r awdurdod lleol neu'r ysgol roi gwybodaeth a chymorth priodol arall i'r teuluoedd.

Adran 5: Cymorth ariannol

Grant Hanfodion Ysgol

5.1 Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod rhai rhieni yn wynebu caledi ariannol oherwydd costau prynu gwisg ysgol i'w plant. Cred Llywodraeth Cymru hefyd na ddylai’r cymorth ariannol y mae rhieni yn ei gael tuag at gost gwisg ysgol fod yn rhwystr i ddysgu.

5.2 Lansiwyd y Grant Hanfodion Ysgol (a elwid gynt yn Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad) yn 2018. Diben y grant yw darparu cymorth ariannol i deuluoedd ar incwm isel i brynu:

  • Gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
  • Cit chwaraeon ysgol, gan gynnwys esgidiau chwaraeon
  • Offer TG: gliniadur a thabledi yn unig (dim ond mewn sefyllfa gyfyngedig y dylid defnyddio’r Grant Hanfodion Ysgol, lle nad oes modd i’r ysgol fenthyg offer i'r teulu)
  • Gwisg ar gyfer grwpiau cyfoethogi, gan gynnwys, ymhlith eraill, sgowtiaid; geids; cadetiaid; crefft ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawnsio
  • Cyfarpar, er enghraifft, bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu
  • Cyfarpar arbenigol ar gyfer gweithgareddau'r cwricwlwm newydd, er enghraifft, dylunio a thechnoleg
  • Cyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol neu dysgu yn yr awyr agored, er enghraifft, dillad sy'n dal dŵr

5.3 Nid yw'r rhestr hon yn cwmpasu pob elfen, a bydd angen disgresiwn a gwybodaeth leol, gan gofio hyd a lled egwyddorion y Cynllun, yn enwedig mewn perthynas â gweithgareddau cyfoethogi; cyfarpar arbenigol a chyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol.

5.4 Gweinyddir y cynllun grant gan awdurdodau lleol ar ran Llywodraeth Cymru. Dylai ysgolion ddarparu gwybodaeth i rieni am y Grant Hanfodion Ysgol a'u cynghori y dylai ceisiadau am y grant hwn gael eu cyflwyno i'r awdurdod lleol.

5.5 Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am y Grant Hanfodion Ysgol, ac am gymhwystra, i'w gweld ar dudalen we y Grant Hanfodion Ysgol.

Cymorth grant awdurdodau lleol

5.6 Mae adran 518 o Ddeddf Addysg 1996, a Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Talu Treuliau Ysgolion) 1999 a wnaed o dan yr adran honno, yn rhoi pwerau disgresiwn i awdurdodau lleol wneud taliadau i leddfu caledi ariannol er mwyn galluogi disgybl i fanteisio ar unrhyw weithgaredd addysgol neu gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd yn yr ysgol. Byddai hynny'n cynnwys cymorth ariannol i dalu cost dillad ysgol lle maent yn fodlon y dylai taliad gael ei wneud i atal caledi ariannol neu i leddfu caledi o’r fath, ond rhaid i gymorth ariannol o’r fath fod yn gysylltiedig â modd y rhieni.

5.7 Mae rhai awdurdodau lleol ledled Cymru yn cynnig cymorth ariannol tuag at gost gwisg ysgol.

Cyfrifoldeb awdurdodau lleol fel rhieni corfforaethol

5.8 Wrth gyflawni eu rôl fel rhieni corfforaethol, disgwylir i awdurdodau lleol roi blaenoriaeth i addysg plant sy'n derbyn gofal a gweithredu fel eiriolwyr ar eu rhan yn yr un modd ag y mae rhieni'n eirioli dros eu plant eu hunain. Felly, dylai awdurdodau lleol wneud trefniadau i sicrhau y gall y plentyn neu'r person ifanc gydymffurfio â'r polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion ac nad yw o dan anfantais.

Mathau eraill o gymorth ar gyfer teuluoedd ar incwm isel

5.9 Mae rhai ffynonellau cyfyngedig posibl eraill o gymorth ariannol ar gael:

  • Mae'n bosibl y gall rhieni sy'n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Credyd Pensiwn neu dâl ar gyfrif un o’r budd-daliadau neu’r hawliadau hyn am o leiaf 6 mis, wneud cais am fenthyciad cyllidebu cronfa gymdeithasol o dan y categori dillad ac esgidiau gan y Ganolfan Byd Gwaith. Gall hawlwyr sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd wneud cais am Flaenswm Cyllidebu
  • Mae'n bosibl y bydd cymorth ar gael gan gyrff llywodraethu neu gymdeithasau rhieni ysgolion. Gall hyn fod ar ffurf cymorth ariannol o gronfa caledi, cynllun cynilo neu drwy roi dillad ail-law

Undebau Credyd

5.10 Cwmnïau ariannol cydweithredol sy'n canolbwyntio ar y gymuned yw Undebau Credyd. Cânt eu rhedeg gan bobl leol er budd y bobl leol, ac maent yn cynnig cyfrifon cynilo a benthyciadau moesegol.

5.11 Gall pawb sy'n byw neu'n gweithio yn ardal yr Undeb Credyd ymuno, yn ogystal ag unrhyw aelod o'u teulu sy'n byw gyda nhw. Mae Undebau Credyd hefyd yn croesawu aelodau iau i gynilo gyda nhw. Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl o bob oed i ymuno ag Undebau Credyd ac yn annog ysgolion i sefydlu mannau casglu i gynilwyr ifanc a'u teuluoedd.

5.12 Mae Undebau Credyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys benthyciadau fforddiadwy a chyfrifon cynilo, a gallant hefyd roi cyngor ar gyllidebu a rheoli a dyledion. Yn bwysig ddigon, maent yn cynnig benthyciadau llai ar gyfradd fforddiadwy. Drwy berthyn i Undeb Credyd gall rhieni gynilo ychydig yn rheolaidd tuag at gost prynu gwisg ysgol, neu wneud cais am fenthyciad bach a fydd yn eu galluogi i rannu cost prynu gwisg ysgol yn daliadau llai ar hyd y flwyddyn.

Arferion da gan ysgolion

5.13 Dyma enghreifftiau o arferion da gan ysgolion mewn perthynas â chymorth ariannol tuag at gost prynu gwisg ysgol:

  • rhoi cyhoeddusrwydd i gymorth gwisg ysgol Llywodraeth Cymru a chymorth arall drwy'r Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad
  • rhoi cyhoeddusrwydd i gynlluniau grant dewisol awdurdodau lleol lle y bo'n berthnasol
  • cronfeydd caledi dewisol ysgolion
  • hyrwyddo ac annog yr arfer o drefnu stondinau i werthu gwisg ysgol ail-law o ansawdd da mewn nosweithiau rhieni neu ddigwyddiadau eraill
  • rhoi benthyg eitemau ail-law i ddisgyblion a chreu ystafell adnoddau mewn man nad yw’n rhy amlwg lle y gall disgyblion gael gafael ar yr eitemau hyn heb deimlo stigma
  • swmpbrynu eitemau i'w gwerthu i rieni am bris gostyngol, o bosibl ar y cyd â chynllun taliadau hawdd
  • os mai dim ond am ran o'r flwyddyn ysgol y bydd angen eitem o wisg addysg gorfforol, nodi hyn yn y rhestr o wisg addysg gorfforol er mwyn sicrhau na fydd y plentyn yn tyfu allan o'r eitem cyn y bydd ei hangen arno ac fel y gall rhieni gyllidebu ar ei chyfer drwy ledaenu'r gost
  • mae gan Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych gynllun ailddefnyddio gwisg ysgol sy'n galluogi rhieni i gael gafael ar wisg ysgol fforddiadwy o ansawdd uchel yn eu cymuned. Caiff gwisgoedd ysgol a roddir i'r cynllun eu casglu o ysgolion cyn diwedd tymor yr haf fel y gellir eu hailddefnyddio a'u cynnig i deuluoedd eraill am ddim neu am rodd mewn siop ailgylchu (mae rhoddion yn helpu i dalu cost golchi'r wisg ysgol)