Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o gyngor i ysgolion a lleoliadau wrth gadw cofnod o bresenoldeb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er bod Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi bod ar gael i awdurdodau lleol yn ystod y pandemig, yn gyffredinol rydym wedi cynghori yn erbyn eu defnyddio. Rydym bellach wedi cyrraedd pwynt lle mae modd inni ddychwelyd at y polisi blaenorol, lle y gellir eu defnyddio pan fydd popeth arall wedi methu. Rydym yn parhau i nodi'n glir mai dim ond yn yr achosion mwyaf eithriadol y dylid defnyddio dirwyon, fel rhan o amrywiaeth o opsiynau a phan fo pob ymdrech i ymgysylltu â'r teulu wedi methu a'i bod yn amlwg nad oes unrhyw resymau sylfaenol sy'n effeithio ar bresenoldeb y dysgwr yn yr ysgol. Gan ddechrau’n syth, dylai pob Awdurdod Lleol ddychwelyd at y cyngor ar y defnydd o Hysbysiadau Cosb Benodedig sydd ar gael yng nghanllawiau 2013 ar hysbysiadau cosb ar gyfer dysgwyr sy'n absennol o'r ysgol yn rheolaidd.

Ar ôl ymgynghori, mae Llywodraeth Cymru wedi diddymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 (mewn grym o 7 Awst 2020). O ganlyniad, ni fu unrhyw ofyniad statudol i ysgolion osod targedau ar gyfer blynyddoedd i ddod nac adrodd ar y rhai a osodwyd yn flaenorol ar gyfer 2019 i 2020 ac ymlaen. Bydd y trefniant hwn yn parhau ar gyfer 2022-23. Mae hyn er mwyn cydnabod y gallai fod angen hyblygrwydd a lle ar ysgolion i ddefnyddio dulliau creadigol o ail-ymgysylltu dysgwyr ac y byddwn yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o bresenoldeb a chanllawiau cynhwysiant. 

Fodd bynnag, byddwn yn ailgyflwyno'r gofyniad ar sail anstatudol ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, a gofynnwn i Awdurdodau Lleol roi cefnogaeth a her briodol i ysgolion er mwyn eu galluogi i gyrraedd targedau y cytunwyd arnynt. Byddwn yn adolygu'r dull gweithredu bob blwyddyn.

Fodd bynnag, bydd y gwaith o gasglu data presenoldeb blynyddol yn parhau.

Dylai ysgolion gofnodi presenoldeb ac absenoldeb yn unol â’r codau canlynol. Mae canllawiau ynghylch pryd y dylid eu defnyddio yn dilyn y crynodeb.

Pa god y dylid ei ddefnyddio?

Ni ddylid defnyddio'r codau penodol COVID canlynol mwyach oherwydd maent wedi cael eu dirymu o fewn MIS yr ysgolion:

Cod Ystyr Categori ystadegol
[ Dysgu o bell oherwydd COVID-19 (lle mae dysgwr yn cael ei warchod neu'n hunan-ynysu) Dim rhaid bod yn bresennol
; Salwch oherwydd COVID-19 Absenoldeb awdurdodedig

Mae’r holl godau eraill yn berthnasol yn unol â’r canllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion.