Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ganlyniadau'r arolwg gwyddonol o'r stoc ar gyfer pysgodfa gocos y Tair Afon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Rydym wedi defnyddio contractwyr allanol i gynnal asesiad stoc bob dwy flynedd o bysgodfa gocos y Tair Afon 2025 (Gwanwyn a Hydref). Dyma'r crynodeb o'r canfyddiadau a ddarparwyd gan y contractwr yn dilyn yr arolwg a gynhaliwyd ym mis Awst.

Yr arolwg

Mae'r arolwg yn:

  • darparu amcangyfrif o bwysau cocos a dwysedd cocos yn y Tair Afon
  • darparu ffigurau ar gyfer cyfanswm biomas cocos y bysgodfa gocos gyfan, a’u rhannu'n 5 gwely
  • darparu dosbarthiad gofodol pob categori oedran
  • darparu dosbarthiad maint y cocos yn ôl eu hamledd

Sut y byddwn yn defnyddio’r data

Byddwn yn defnyddio'r data i:

  • gyfrifo'r gwarged y gellir ei gynaeafu
  • hysbysu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) fel rhan o'r cynllun rheoli

Nodir hyn yn y Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024.

Dull

Mae’r arolwg yn defnyddio grid sefydlog o 192 o safleoedd samplu, wedi’u gosod bob 200m. Cymerir un sampl o bob safle gan ddefnyddio cwadrad 0.1m2. Caiff y samplau hyn eu rhidyllu gan ddefnyddio rhwyll 4mm ac chymerir unrhyw gocos byw a ddelir fel sampl. 

Ar gyfer pob safle, cofnodwyd:

  • nifer y cocos a’u pwysau mewn pedwar dosbarth oedran (blwyddyn 0, blwyddyn 1, blwyddyn 2 a blwyddyn 3+)
  • pwysau cocos â chregyn 15mm a mwy, a 21mm a mwy o hyd
  • mesuriadau hyd cocos i ddangos eu dosbarthiad yn ôl maint o fewn y pum gwely 

Canlyniadau

Cyfrifwyd bod cyfanswm o 4.20 biliwn (4.20 x109) o gocos yn yr aber yn haf 2025, cyfanswm o ran pwysau o 9,216 tunnell (Tabl1). 

Cyfrifir y gwarged y gellir ei gynaeafu ar sail amcangyfrifon o fewn y cyfwng hyder isaf o bwysau’r cocos, sef y maint glanio lleiaf, hynny ar ôl tynnu’r biomas o gocos a ddiffinnir sy’n fwyd i adar. Gwneir hynny fel ymagwedd ragofalus at amrywioldeb data’r samplau.

Tabl 1: Amcangyfrif o gyfanswm pwysau’r cocos ym mhob un o welyau’r Tair Afon
Gwely Pwysau cymedrig Gwarged cynaeafadwy (tunelli)Cyfwng hyder isaf (tunelli)Cyfwng hyder uchaf (tunelli)
Llan y Bri4,2728783,0725,856
Llansteffan2,2036641,5553,326
Glan-y-fferi 1,034566061,702
Llanismel 1,0201435791,625
Gwendraeth703404681,036
C’swm yr Aber 9,21617817,61611,328