Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Diwydiannau Creadigol yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiwylliant ac economi Cymru, gyda throsiant o £2.2 biliwn a gweithlu o 56,000 o bobl cyn COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i Weinidog yr Economi amlinellu ei weledigaeth i symud economi Cymru yn ei blaen, mewn ffordd sy’n anelu at greu economi lle mae rhagor o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus ynghylch aros yng Nghymru yn y dyfodol, mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden yn amlinellu gwerth y sector creadigol fel sector sy'n ffynnu a dewis hygyrch a boddhaus ar gyfer gyrfa.

Yn ddiweddar mae Cymru wedi gweld ei chyfnod prysuraf erioed o ran cynhyrchu rhaglenni teledu a ffilmiau, gyda dros 24 o gynyrchiadau’n cael eu ffilmio ledled Cymru rhwng mis Mai a mis Hydref. 

Mae'r cynnydd hwn mewn gweithgareddau cynhyrchu wedi gweld galw digynsail am weithlu medrus.  Mae Cymru Greadigol wedi bod yn gweithio gyda'r sector i helpu i fynd i'r afael â’r angen uniongyrchol am bobl fedrus a sicrhau bod gan ein gweithlu'r sgiliau cywir ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau y gall Cymru barhau i ddarparu criwiau o ansawdd uchel ar gyfer cynyrchiadau gan gwmnïau lleol a'r rhai sy'n dymuno ffilmio yma.

Mae Cymru Greadigol wedi gweithio gyda chynyrchiadau a ariennir i sicrhau ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i hyfforddeion ar ffurf lleoliadau gwaith â thâl. 

Bydd y lleoliadau gwaith hyn yn cael eu monitro i helpu i sicrhau llwybrau gyrfa i bob hyfforddai yn y dyfodol. Mae mwy na 120 o hyfforddeion wedi elwa ar leoliadau gwaith â thâl ar gynyrchiadau sydd wedi derbyn cymorth gan Gymru Greadigol yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys y ddrama Netflix Havoc, gyda Tom Hardy a Forest Whitaker, His Dark Materials Cyfres 3 ar gyfer BBC1 a'r cynhyrchiad newydd sbon gan Lucasfilm, Willow, a fydd yn darlledu ar Disney Plus.

Yn ddiweddar, ymwelodd y Dirprwy Weinidog â set His Dark Materials 3 yn Wolf Studios Wales, lle y cyfarfu â hyfforddeion y rhaglen a grëwyd gan Gynghrair Sgrin Cymru. Dywedodd:

"Mae’r sector hwn yn tyfu ac mae'r rhaglenni hyfforddi yn ffordd o sicrhau ein bod yn meithrin y dalent a'r sgiliau a fydd eu hangen arno yn y dyfodol. Yr hyfforddeion sydd gweithio ar y cynhyrchiad His Dark Materials 3 heddiw fydd cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr a chreadigwyr y BBC, S4C, Sky, HBO, Netflix, Amazon a Disney am flynyddoedd i ddod.

Astudiodd Hester Haslett-Venus yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a chael gradd mewn Dylunio ar gyfer Perfformio.  Mae hi bellach ar gyfnod hyfforddi Cynghrair Sgrin Cymru ar His Dark Materials 3 yn Bad Wolf, sydd wedi ei galluogi i aros yng Nghymru. Mae hi yn hyfforddi mewn Creature FX ac mae'n gweithio tuag at ddod yn wneuthurwr model medrus, o fewn animeiddiad Stop Frame. Dywedodd Hester:

"Mae cyfleoedd fel hyn a gefnogir gan Cymru Greadigol yn helpu pobl i symud ymlaen ar ôl mynd i'r brifysgol ac agor drysau ac i wybod bod y cyfleoedd creadigol hyn yn bodoli mewn ffilm a theledu ac mae hynny'n beth cadarnhaol i Gymru a phobl ifanc greadigol.

Ar ôl graddio, teithiodd Amelia Beer o Gaerdydd, gweithio mewn ysgolion a lletygarwch ac fel achubwr bywyd. Ar hyn o bryd mae'n ôl yng Nghymru ac mae'n Hyfforddai Iechyd a Diogelwch ac yn cwblhau ei chymhwyster NEBOSH. Mae'n cynorthwyo gydag asesiadau risg, archwiliadau swyddfa a stiwdio a gweinyddiaeth COVID-19, meddai:

"Mae'r cynlluniau hyn yn wych am gael pobl i ddechrau yn y diwydiant. Efallai y bydd pobl yn aml yn teimlo bod angen profiad arnynt neu'n adnabod rhywun er mwyn dechrau yn y diwydiant, ond gyda chymorth y cynlluniau hyn bydd pobl yn fwy tebygol o fynd i mewn i'r diwydiant ac yna dysgu wrth iddynt fynd yn eu blaen, ac mae hynny'n ffordd wych o helpu pobl i ddatblygu wrth dyfu diwydiant ffilm a theledu Cymru.

Mae Cymru Greadigol wedi gweithio gyda’n holl bartneriaid yng Nghymru ac ar lefel y DU i gefnogi prosiectau ar draws y sectorau creadigol.  Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys:

  • cyswllt Diwylliant Cymru, prosiect peilot 12 mis sydd â’r nod o gynyddu cyfleoedd ar gyfer cymunedau amrywiol yn y sector ffilm a theledu yng Nghymru
  • partneriaeth â Phrifysgol De Cymru i gynnal Arolwg Sgrin Cymru 2021, sy’n mapio’r sector ffilm a theledu, ei weithlu a’i ddarpariaeth ar gyfer hyfforddiant ledled Cymru
  • gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i fapio’r sector cerddoriaeth yng Nghymru

Mae’r galw am sgiliau creadigol yn cyd-fynd ag ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i gyflawni'r Warant i Bobl Ifanc. Mae Cymru Greadigol hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr ym maes sgiliau yn y sector Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes i gyflwyno Criw, model newydd ar gyfer prentisiaethau cynhyrchu sydd newydd gael ei lansio yng Ngogledd Cymru, yn dilyn dwy flynedd lwyddiannus iawn yn Ne Cymru.

Daeth y Dirprwy Weinidog i'r casgliad:

"Rwy'n frwd dros sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn ystyried y diwydiannau creadigol yn ddewis hygyrch a boddhaus ar gyfer gyrfa, gan roi cyfleoedd cyflogaeth i'n pobl ifanc yng Nghymru yn y dyfodol, a hynny mewn sector sy'n darparu cynnwys gwerthfawr, yn gwasanaethu pob cynulleidfa, ac yn allweddol i gefnogi ein twf economaidd yn y dyfodol.