Sut i ennill statws athro cymwysedig (SAC) i addysgu mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru.
Cynnwys
Trosolwg
I fod yn athro ac addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, mae angen ichi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC). Gwneir hynny drwy fodloni set o Safonau Proffesiynol a nodir mewn deddfwriaeth.
Nid oes un diffiniad penodol o ysgol a gynhelir, ond yn gyffredinol mae'n ysgol sy'n cael ei hariannu gan y wladwriaeth ac sy'n cael ei chynnal yn ariannol yn llwyr neu'n sylweddol gan awdurdod lleol. Mae ysgolion a gynhelir yn wahanol i ysgolion annibynnol.
Er mwyn ymgymryd â rôl addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, rhaid ichi hefyd gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg, o dan gategori athrawon ysgol. Cyngor y Gweithlu Addysg yw’r awdurdod a'r rheoleiddiwr cymwys ar gyfer y proffesiwn addysgu yng Nghymru. Maent yn gyfrifol am ddyfarnu SAC a gallant hefyd ddyfarnu SAC i athrawon o'r gwledydd canlynol:
- Lloegr
- Gogledd Iwerddon
- Yr Alban
- Unrhyw wlad y tu allan i’r DU
Cymhwyso fel Athro yng Nghymru
I hyfforddi fel athro yng Nghymru ac ennill SAC, rhaid ichi gwblhau cyfnod o Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) a bodloni’r Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth. Unwaith y byddwch wedi gorffen eich rhaglen AGA ac wedi cymhwyso, bydd eich Partneriaeth AGA yn rhoi gwybod i Gyngor y Gweithlu Addysg am eich canlyniadau. Dyfernir SAC ichi gan Gyngor y Gweithlu Addysg, a nhw fydd hefyd yn dosbarthu eich tystysgrif SAC.
Bydd angen ichi hefyd gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg i weithio mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Unwaith y byddwch wedi ennill SAC ac wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg, bydd angen ichi gwblhau cyfnod sefydlu. Ar ôl cwblhau eich cyfnod sefydlu, bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn dosbarthu eich tystysgrif sefydlu.
Athrawon a gymhwysodd yn Lloegr
Os oeddech wedi cwblhau eich AGA yn Lloegr, bydd yr Asiantaeth Rheoleiddio Addysgu, awdurdod cymwys Lloegr a rheoleiddiwr y proffesiwn addysgu, yn dyfarnu SAC ichi. Cydnabyddir hyn yng Nghymru ond bydd angen ichi gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg i weithio mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Athrawon a gymhwysodd yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban
Os oeddech wedi cwblhau eich AGA yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban, bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i Gyngor y Gweithlu Addysg am gydnabyddiaeth SAC a chofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg i addysgu mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Athrawon a gymhwysodd y tu allan i’r DU
Os oeddech wedi cwblhau eich AGA y tu allan i’r DU, bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i Gyngor y Gweithlu Addysg am gydnabyddiaeth SAC a chofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg i addysgu mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Os oeddech wedi cymhwyso y tu allan i’r DU ac wedi ennill SAC yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban, ni fydd eich dyfarniad SAC yn cael ei gydnabod yn awtomatig i addysgu yng Nghymru. Rhaid ichi wneud cais yn uniongyrchol i Gyngor y Gweithlu Addysg am gydnabyddiaeth SAC a chofrestru â nhw os ydych am weithio fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Gwybodaeth bellach
I gael gwybodaeth bellach am y broses o wneud cais am gydnabyddiaeth SAC ac i gael ffurflenni cais, ewch i Gyngor y Gweithlu Addysg
Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael hefyd am fod yn athro yng Nghymru. Ac mae gennym adran benodedig ar sianel YouTube Addysg Cymru ar gyfer ymgyrch Addysgu Cymru.