Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 8 Tachwedd 2023, yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

  • E-bost
  • post
  • ffurflen ar-lein

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth:
Isadran
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: YmatebionYnni-EnergyResponses@llyw.cymru

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru    
Parc Cathays
CAERDYDD 
CF10 3NQ

e-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113

Cwestiynnau ymgynghori

Eich enw: 

Sefydliad (lle bo’n berthnasol):

E-bost / rhif ffôn: 

Eich cyfeiriad: 

Adran 2: Gweledigaeth ar gyfer gwres yng Nghymru

  1. Gweledigaeth: Ydych chi'n cytuno â'n gweledigaeth? (Ydw/Nac ydw) Awgrymwch welliannau os credwch y gallai fod yn gryfach. 
     
  2. Amcanion: Mae polisïau Strategaeth Gwres Cymru wedi'u rhannu'n 17 amcan o fewn chwe grŵp.  Ydych chi’n cytuno eu bod yn cwmpasu'n ddigonol y meysydd y mae angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio arnynt? (Ydw/Nac ydw) Os ydych yn meddwl bod unrhyw feysydd ar goll, esboniwch beth ydy nhw.

Adran 3: Ein fframwaith galluogi

  1. Cynllunio: Mae ein Strategaeth yn nodi bod yr hawliau datblygu presennol a ganiateir sy'n gysylltiedig â phympiau gwres yn rhwystr rhag cyflwyno pympiau gwres. Ydych chi'n cytuno? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch. 
     
  2. Cynllunio: Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn creu cynllun ynni ardal leol (LAEP).  Mae'r strategaeth hon yn cynnig y dylid defnyddio'r LAEPau i helpu i ddarparu datgarboneiddio gwres sy'n seiliedig ar leoedd. Ydych chi'n cytuno â'r dull hwn? (Ydw/Nac ydw) Rhowch dystiolaeth, lle bo hynny'n berthnasol.
     
  3. Deall ac ymgysylltu: A yw'r strategaeth yn mynd i'r afael yn briodol â'r cyngor sydd ei angen i osod gwres carbon isel? (Ydy/Nac ydy) Esboniwch pa grwpiau ddylai fod yn rhan o godi ymwybyddiaeth a darparu cyngor.
     
  4. Safonau: Ydych chi’n credu bod safonau'r fanyleb sydd ar gael (PAS) yn ddigonol i sicrhau gwaith o ansawdd uchel a dull adeilad cyfan? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch.  Sut y gellir annog a gweithredu'r safonau hyn ymhellach?
     
  5. Sgiliau: Ydych chi’n cytuno bod gan Lywodraeth Cymru rôl wrth ddeall ac yna gefnogi datblygiad y sgiliau angenrheidiol ar gyfer datgarboneiddio gwres? (Ydw/Nac ydw) Tynnwch sylw at unrhyw sgiliau/rolau sy'n dod i'r amlwg y dylem eu cefnogi.
     
  6. Costau: Ydych chi’n cytuno â'r safbwynt a nodir yn y strategaeth y dylai Llywodraeth y DU symud ardollau amgylcheddol o filiau trydan i drethiant cyffredinol? (Ydw/Nac ydw) Pa bolisïau ychwanegol y dylid eu gweithredu i sicrhau dosbarthu costau yn decach?

Adran 4: Trawsnewid ein rhwydweithiau

  1. Rhwydweithiau trydan: Ydych chi'n cytuno y bydd uwchraddio rhwydweithiau trydan Cymru ar gyfer sero net yn gofyn am arweiniad a chynlluniau clir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich rhesymu ac amlygwch unrhyw rolau pellach i Lywodraeth Cymru ar gyfer yr her hon.
     
  2. Parthau rhwydwaith gwres: Ydych chi’n cytuno bod cynlluniau ynni ardal leol (LAEPau), dan arweiniad awdurdodau lleol, yn ddull priodol o nodi ardaloedd ar gyfer rhwydweithiau gwres? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch.
     
  3. Cysylltiadau rhwydwaith gwres: Ydych chi’n cytuno y dylai fod yn ofynnol i ddatblygiadau tai newydd ac adeiladau masnachol mawr gysylltu â rhwydweithiau gwres ardal newydd? (Ydw/Nac ydw) A ddylid cynnwys rhwydweithiau gwres ar raddfa fach, tymheredd amgylchynol, yn y rhwymedigaeth hon? (Dylid/Na ddylid)
     
  4. Cymorth rhwydwaith gwres: Ydych chi'n cytuno bod angen cyllid a chymorth pellach ar gyfer datblygu rhwydwaith gwres? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch. 
     
  5. Hydrogen ar gyfer gwres: Mae'r strategaeth yn nodi, yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd, mai pympiau gwres fydd yr ateb a hyrwyddir ar gyfer y rhan fwyaf o wres adeiladau. Bydd rôl hydrogen mewn parthau diffiniedig ar gyfer diwydiant tymheredd uchel, yn ogystal ag ar gyfer atebion sero-net ehangach sy’n cael eu blaenoriaethu gan ba mor ddefnyddiol fydd hydrogen (a elwir yn 'yr ysgol hydrogen'). Ydych chi’n cytuno bod angen datganiad clir ar rôl hydrogen wrth gyflawni uchelgeisiau datgarboneiddio gwres Cymru? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch.

Adran 4: Gwella perfformiad ynni ein cartrefi

  1. Fframwaith clir: Ydych chi’n cytuno bod angen rheoleiddio cryfach i annog y defnydd o wres carbon isel a chartrefi sy’n defnyddio ynni yn fwy effeithlon? (Ydw/Nac ydw) Pa ymyriadau eraill sy’n rhaid eu rhoi ar waith ochr yn ochr â rheoleiddio cryfach i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl?

  2. Dull cyfannol o ymdrin â thlodi tanwydd: Mae'r Rhaglen Cartrefi Cynnes wedi bod yn cynnig boeleri nwy newydd, lle bo'n briodol, i'r rhai sy'n gymwys.  Ydych chi’n cytuno bod yn rhaid i'n buddsoddiadau yn y dyfodol mewn effeithlonrwydd ynni, ble bo hynny'n bosibl, gefnogi ein llwybr datgarboneiddio gwres ar yr un pryd? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch ac ymhelaethwch ar gyfleoedd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn gyfannol.

  3. Adeiladau traddodiadol: Ydych chi'n cytuno bod angen prosiectau arddangos ar gyfer ôl-osod adeiladau hanesyddol a thraddodiadol? (Ydw/Nac ydw) A oes angen ymyriadau pellach i ddatblygu'r farchnad ar gyfer ôl-osod adeiladau traddodiadol?

  4. Mesuryddion clyfar a thariffau amrywiol: Ydych chi’n cytuno ei fod yn bwysig i roi pwyslais ar gyflwyno mesuryddion clyfar a thariffau amrywiol nawr, er mwyn lleihau biliau yn ystod y cyfnod pontio i wres carbon isel? (Ydw/Nac ydw) Beth yw’r ffordd orau i Lywodraeth Cymru gefnogi hyn, tra’n eirioli dros y rhai hynny sy’n methu bod yn hyblyg o ran ynni? 

  5. Cost pympiau gwres ymlaen llaw: Ydych chi’n cytuno bod angen pecynnau cyllid tymor hir pwrpasol i gefnogi gosod pympiau gwres? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch.

Adran 4: Datblygu ein busnesau

  1. Rheoleiddio: Ydych chi’n cytuno bod angen rheoleiddio cryfach i gael gwared ar foeleri tanwydd ffosil, ar ac oddi ar y grid, mewn eiddo masnachol? (Ydw/Nac ydw) Pa ymyriadau eraill sy'n rhaid eu gweithredu ochr yn ochr â'r rheoliad cryfach hwn i sicrhau nad yw'r trawsnewid hwn yn cael effaith andwyol ar fusnesau.
     
  2. Rhaglen cyflymydd: Ydych chi’n cytuno bod angen rhaglen cyflymydd i rannu arferion gorau a magu hyder mewn gwres carbon isel, ar draws gwahanol fathau o adeiladau masnachol? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch.
     
  3. Targedau ac olrhain sero net: Ydych chi’n cytuno y bydd datgarboneiddio gwres yn ei gwneud yn ofynnol inni feithrin diwylliant o dryloywder ac atebolrwydd i fusnesau? (Ydw/Nac ydw) Gan gyfeirio at ddatgarboneiddio gwres, beth arall ddylai Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod gwybodaeth ddibynadwy yn cael ei chyflwyno i gwsmeriaid?

Adran 5: Diogelu ein diwydiant yn y dyfodol

  1. Mapiau ffyrdd diwydiannol: Ydych chi’n cytuno y dylem greu mapiau ffyrdd datgarboneiddio ar draws cymwysiadau diwydiannol allweddol, ac os felly, pa rai sy'n hyrwyddo'r technegau gorau sydd ar gael? (Ydw/Nac ydw)  A ddylai Diwydiant Sero Net Cymru chwarae rhan yn y broses hon? Sut y gellir lledaenu'r technegau a nodwyd yn effeithiol a'u cymell ymhellach?
     
  2. Busnesau bach a chanolig (BBaChau): Fel rhan annatod o'r sector diwydiannol, pa adnoddau neu gymorth penodol sydd eu hangen i helpu busnesau bach a chanolig diwydiannol gyda datgarboneiddio gwres?
     
  3. Hydrogen diwydiannol: Ydych chi’n cytuno bod gan Lywodraeth Cymru rôl wrth ddeall a mapio'r galw am hydrogen yn y dyfodol o wres diwydiannol tymheredd uchel, er mwyn sicrhau bod yr isadeiledd ar waith i ganiatáu newid tanwydd? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch ac ymhelaethwch ar rôl Llywodraeth Cymru, os yw'n berthnasol.

Adran 6: Arwain y ffordd gyda gwasanaethau cyhoeddus

  1. Arwain y ffordd: Mae adeiladau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau hanfodol ar draws cymunedau Cymru.  Ydych chin cytuno y dylai y Strategaeth Wres hon ganolbwyntio yn y tymor agos ar wella gwydnwch, trwy barhau i ddatgysylltu ein hadeiladau cyhoeddus o danwydd ffosil a gwella eu heffeithlonrwydd ynni? (Ydw/Nac ydw) Sut y gall hyn helpu i arwain y ffordd i ddatgarboneiddio gweddill adeiladau Cymru?

  2. Cydweithio: Mae ein Strategaeth yn nodi'r angen i gyrff cyhoeddus gydweithio'n effeithiol i sicrhau trawsnewidiadau llwyddiannus a chost-effeithiol.  Beth yw’r ffordd orau i Lywodraeth Cymru gefnogi cydweithredu effeithiol a dysgu ar y cyd?

  3. Adnoddau a sgiliau: Rydym wedi nodi bod sgiliau a meithrin gallu mewn cyrff cyhoeddus yn hanfodol i gefnogi cynllunio ynni ardal leol, darparu adnoddau i awdurdodau cynllunio lleol, a chyflawni'r newid ar yr ystâd gyhoeddus.  Ydych chi’n cytuno mai'r Gwasanaeth Ynni sydd yn y sefyllfa orau i gefnogi'r uwchsgilio hwn a darparu adnoddau ychwanegol? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch.

Adran 7: Gweithredu

  1. Ein gofynion i eraill: Ydych chi'n cytuno ein bod wedi nodi prif ofynion pobl eraill? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch.

  2. Costau ac arbedion: Mae'r costau a nodir yn y strategaeth yn deillio o ddadansoddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd.  A oes tystiolaeth ychwanegol am y costau a'r arbedion posibl y dylem eu hystyried?

  3. Ein map llwybr: Ydych chi'n cytuno bod ein map llwybr polisïau yn ddigon clir? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch.

  4. Ein llwybr: Mae'r strategaeth yn seiliedig ar Lwybr Cytbwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd.  Ydych chi'n cytuno â'r dull hwn? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu gwneud yn gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, ticiwch yma. ☐