Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd y Swyddfa Genedlaethol yn helpu i wneud gofal cymdeithasol yn well i bawb yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pwy ydym ni

Tîm o fewn Llywodraeth Cymru yw'r Swyddfa Genedlaethol sy'n gyfrifol am:

  • gefnogi Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei rôl
  • datblygu gwasanaeth gofal cenedlaethol Cymru, ei roi ar waith, a’i ddarparu
  • rhoi’r fframwaith comisiynu cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth yng Nghymru ar waith a’i reoli

Beth rydym yn ei wneud

Mae'r Swyddfa Genedlaethol Ofal a Chymorth yng Nghymru yn helpu i wneud gofal cymdeithasol yn well i bawb. Ei nod yw gwella canlyniadau, mynediad at ofal a phrofiadau i ddefnyddwyr gwasanaethau.

Mae'r Swyddfa Genedlaethol yn gweithio gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru a'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol i wneud y canlynol:

  • rhoi arweinyddiaeth a chyfeiriad cenedlaethol cadarn yn unol ag ysbryd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • cefnogi blaenoriaethau a safonau cenedlaethol, yn enwedig mewn perthynas â chomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth, gan ei gwneud yn bosibl iddynt gael eu cyflawni
  • gweithio'n agos gyda'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a'u gofalwyr, y gweithlu gofal cymdeithasol, cyrff proffesiynol perthnasol, a phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol eraill

Bydd disgwyl i'r Swyddfa Genedlaethol hefyd weithredu’n gyson â gwaith traws-system perthnasol, a chyfrannu ato lle bynnag y bo hynny’n gymwys, gan gynnwys:

  • ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu
  • deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan adrodd yn flynyddol i'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol ar:
    • y ffordd y mae’n defnyddio y 5 ffordd o weithio
    • sut y mae'n cyfrannu at gyflawni'r 7 nod llesiant
    • sut y bydd ei dull gweithredu’n datblygu bob blwyddyn
  • cyflawni dyletswyddau cyfreithiol o dan Safonau’r Gymraeg. Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn datblygu'r rôl bwysig y mae'n ei chwarae yn cefnogi'r Gymraeg a diwylliant Cymru

Cysylltwch â ni

E-bost 

SwyddfaGenedlaethol@llyw.cymru

Post

Swyddfa Genedlaethol Ofal a Chymorth
Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ein mandad

Mae'r mandad yn nodi'r rôl, y ffyrdd o weithio, a'r swyddogaethau i fodloni'r disgwyliadau sydd ar y Swyddfa Genedlaethol Ofal a Chymorth, fel y'u pennwyd gan y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol.

Cydnabyddir mai blwyddyn bontio fydd 2024 i 2025 i'r Swyddfa Genedlaethol Ofal a Chymorth (y Swyddfa Genedlaethol), gyda chyfle i sefydlu'r systemau a'r ffyrdd o weithio cywir sydd eu hangen i wireddu manteision llawn y Swyddfa Genedlaethol.

Bydd rôl a swyddogaeth y Swyddfa Genedlaethol yn canolbwyntio ar 3 maes craidd i ddechrau, fel yr ymgynghorwyd arnynt fel rhan o'r ymgynghoriad y rhaglen ailgydbwyso gofal a chymorth yn 2023, sef: 

  • cefnogi Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei rôl
  • datblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol Cymru, ei roi ar waith a pharhau i'w ddarparu
  • rhoi'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth yng Nghymru ar waith a pharhau i'w reoli

Mae datganiad gwerthoedd craidd y Swyddfa Genedlaethol fel a ganlyn:

Rhoi arweiniad canolog i'r sector drwy fod yn sbardun i welliannau yn y broses o ddarparu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn genedlaethol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad defnyddwyr gwasanaethau.

Mae mandad 2024 i 2025 yn ymdrin yn benodol â cham 1 o gynllun gweithredu cychwynnol y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, yr elfennau o rôl y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol sy'n ymwneud ag ymgysylltu, a'r broses o roi'r rhaglen ailgydbwyso, sef y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth, ar waith.

Er y bydd y Swyddfa Genedlaethol yn cwmpasu swyddogaethau swyddfa bresennol y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, bydd y Swyddfa Genedlaethol yn endid cwbl ar wahân i'r timau polisi, a fydd yn parhau i ddod o dan y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol yn ei rôl fel Cyfarwyddwr polisi, yn y gyfarwyddiaeth gwasanaethau cymdeithasol ac integreiddio.

Drwy sefydlu Swyddfa Genedlaethol sy'n edrych tuag allan, bydd modd canolbwyntio ar arloesi, gwella, a thrawsnewid gwasanaethau i oedolion a phlant. Bydd yn adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi cael ei wneud i wella'r ffordd y caiff data gofal cymdeithasol eu coladu, er mwyn creu darlun mwy eglur o'r ffordd y darperir gwasanaethau, a helpu'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol i hybu llais cryfach i'r sector. 

Gan weithio fel rhan o Lywodraeth Cymru, bydd y Swyddfa Genedlaethol yn: 

  • rhoi arweinyddiaeth a chyfeiriad cenedlaethol cadarn yn unol ag ysbryd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • cefnogi blaenoriaethau a safonau cenedlaethol, yn enwedig mewn perthynas â chomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth, gan ei gwneud yn bosibl iddynt gael eu cyflawni
  • gweithio'n agos gyda'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a'u gofalwyr, y gweithlu gofal cymdeithasol, cyrff proffesiynol perthnasol, a phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol eraill
  • cyflawni dyletswyddau cyfreithiol o dan Safonau’r Gymraeg, bydd y Swyddfa Genedlaethol yn datblygu'r rôl bwysig y mae'n ei chwarae yn cefnogi'r Gymraeg a diwylliant Cymru
  • cyfrannu at y broses o gyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a helpu i'w cefnogi

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn chwarae rôl hanfodol yn y broses o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, gan weithio'n agos gyda Gweithrediaeth GIG Cymru er mwyn sicrhau bod systemau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn addas at y dyfodol ac yn gwireddu gweledigaeth Cymru iachach ar gyfer dull system gyfan o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ardderchog ledled Cymru.

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn gweithio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn ei hyrwyddo, gan wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Bydd yn:

  • hyrwyddo trefniadau gwell ar gyfer gweithio gyda phobl, cymunedau a chyda phartneriaid
  • ceisio atal problemau
  • gweithredu mewn ffordd fwy cydgysylltiedig

Mae'r Ddeddf yn cynnwys egwyddor datblygu cynaliadwy ac felly mae cynaliadwyedd gwasanaethau gofal a chymorth cymdeithasol o'r pwys pennaf. Ein bwriad yw y dylai'r Swyddfa Genedlaethol weithredu mewn ffordd sy'n ceisio sicrhau bod y gwaith o ddiwallu anghenion gofal a chymorth y genhedlaeth bresennol hefyd yn gwella rhagolygon cenedlaethau dilynol.

Bydd y Swyddfa Genedlaethol hefyd yn ymgorffori newidiadau a gwerthoedd cenedlaethol ystyrlon drwy hyrwyddo:

Manteision a wireddir 

Mae'r mandad yn amlinellu'r hyn a ddisgwylir gan y Swyddfa Genedlaethol yng nghyd-destun y fantais ychwanegol y bydd yn ei sicrhau er mwyn cyflawni yn erbyn y disgwyliadau hynny. Mae paramedrau'r manteision a nodir isod yn egluro pa fanteision y bydd y disgwyliadau yn eu sicrhau.

Adnodd canolog i'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn cynnig trosolwg o'r sector a bydd yn adnodd canolog y gall y sector droi ato er mwyn datrys anghydfodau a chael cymorth. Bydd y Swyddfa Genedlaethol hefyd yn cefnogi cyfeiriad polisi cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Amgylchedd dysgu a chymorth cynaliadwy

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn creu amgylchedd sy'n addas ar gyfer dysgu system drwy'r sector gofal cymdeithasol cyfan i'w gwneud yn bosibl i'r canlyniadau a ddymunir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 gael eu gwireddu. Bydd yn hyrwyddo arferion gorau ac yn cefnogi arloesedd lleol.

Sbardun i egwyddorion a safonau cenedlaethol

Drwy arwain dolen ddysgu gadarn yn y system gofal cymdeithasol, bydd y Swyddfa Genedlaethol yn allweddol i helpu sefydliadau i hyrwyddo safonau a gwella canlyniadau mewn perthynas â'u cyfrifoldebau statudol.

Bydd y Swyddfa Genedlaethol hefyd yn goruchwylio'r gwaith o roi cod ymarfer y fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth ar waith ac yn parhau i'w reoli, gan:

  • sicrhau cydymffurfiaeth ag egwyddorion a safonau comisiynu cenedlaethol
  • cynorthwyo comisiynwyr a darparwyr drwy ddarparu pecyn cymorth

Canolfan ar gyfer casglu a chofnodi data i sbarduno gwelliant

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn ymgymryd â rôl ddatblygedig yn y broses o gasglu a chofnodi data, gan droi hyn yn ddealltwriaeth a all gael ei defnyddio i nodi risgiau ar gam cynnar yn y sector a bod yn sbardun i welliannau. Bydd hyn yn cefnogi swyddogaethau rheoleiddio Arolygiaeth Gofal Cymru a'i rôl yn deall y farchnad ac yn gweithredu ar y cyd â nhw.

Dull gweithredu cenedlaethol cryfach

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn helpu'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol i roi arweinyddiaeth genedlaethol strategol i'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ddod â'r sector ynghyd a chreu partneriaethau er mwyn sicrhau canlyniadau. Bydd ymgysylltu â dinasyddion yn chwarae rôl allweddol yn hyn o beth, gyda chynlluniau i sefydlu dull ffurfiol o barhau i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau.

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o ddatblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol Cymru sy'n mynd rhagddo. Bydd y Swyddfa Genedlaethol, yn ystod ei blwyddyn bontio, yn gyfrifol am y cynllun gweithredu cychwynnol, ac yn gweithredu ar bob un o'r tri cham ar gyfer y Gwasanaethau Gofal Cenedlaethol dros gyfnod o 10 mlynedd. 

Wrth i'r Swyddfa Genedlaethol aeddfedu, bydd ei chylch gwaith, yn anochel, yn ymaddasu i bwysau'r system ac anghenion datblygol y sector. Bydd y manteision a amlinellir, yn anochel, yn newid dros amser a chânt eu hadolygu bob blwyddyn.

Datblygu sefydliadol a diwylliant

Er mwyn cyflawni ei nodau a bodloni disgwyliadau, bydd y Swyddfa Genedlaethol yn datblygu ei phobl er mwyn sicrhau galluoedd a ffyrdd o weithio effeithiol, a thrwy hynny'n galluogi ei gweithlu i gyflawni datganiad y Swyddfa Genedlaethol o'i gwerthoedd craidd. 

Bydd cyfleoedd datblygu mewnol yn cynnwys dysgu o ymarfer effeithiol ledled Cymru, ac mewn rhannau eraill o'r DU, ac ehangu'r ddealltwriaeth yn fwy cyffredinol o ddulliau gweithredu sy'n arwain at y systemau arweinyddiaeth mwyaf effeithiol gyda phwyslais ar ansawdd, diogelwch, a pherfformiad yng nghyd-destun arweinyddiaeth dosturiol.

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n gweithio gyda'r strwythur staffio newydd yn Llywodraeth Cymru ac oddi mewn iddo:

  • adeiladu, rhannu a chydweithio ar y meysydd presennol o ymarfer da
  • datblygu iaith gyffredin a dealltwriaeth gyffredin o well ffyrdd o weithio
  • datblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer y diwylliant, y gwerthoedd a'r ymddygiadau i gyflawni ei diben

Bydd cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr polisi yn Llywodraeth Cymru yn allweddol, a bydd cydweithwyr sy'n gweithio yn y Swyddfa Genedlaethol yn cael eu hannog i feithrin cydberthnasau gwaith cadarn.

Er mwyn datblygu a chefnogi unigolion a thimau, bydd dysgu a datblygu ar lefel y sefydliad, timau ac unigolion yn cael ei annog a'i gefnogi'n weithredol. Bydd rheolwyr llinell yn gweithio gyda'u timau i nodi meysydd o gryfder a datblygiad er mwyn llywio rhaglenni dysgu.

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn annog siaradwyr a dysgwyr Cymraeg i ddefnyddio eu Cymraeg, gan greu diwylliant lle mae'r Gymraeg yn ffynnu, a chaiff pob aelod o'r staff, ni waeth beth fo'u gallu, yn cael eu hannog i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gweithgareddau beunyddiol.

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn hyrwyddo arferion cynhwysol, gyda ffocws ar amrywiaeth a chydraddoldeb. Wrth wneud hynny, bydd y Swyddfa Genedlaethol yn gweithredu'n gyson â:

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn gweithredu'n unol â pholisïau pobl a lleoedd Llywodraeth Cymru. Ein model gwaith craidd fydd "gweithio'n glyfar". Mae datganiad pwyllgor gweithredol Llywodraeth Cymru isod yn adlewyrchu ystyr "gweithio'n glyfar":

Ein prif flaenoriaeth fel gwasanaeth sifil yw cyflwyno’r Rhaglen Lywodraethu er mwyn gwneud bywyd yn well i bobl a chymunedau yng Nghymru mor gyflym â phosibl. Credwn fod yr hyn a wnawn yn bwysicach na ble rydym yn gweithio. Mae angen amgylchiadau gwahanol ar gyfer mathau o waith gwahanol er mwyn i ni allu cysylltu, cydweithio a chanolbwyntio. Mae "gweithio’n glyfar" yn ymwneud â gweithio’n hyblyg er mwyn ein helpu i gyflawni ein blaenoriaethau mor effeithiol â phosibl.

Mae "gweithio'n glyfar" yn cynnwys 6 egwyddor graidd, y bydd pob un ohonynt yn ganolog i ffyrdd o weithio'r Swyddfa Genedlaethol Ofal a Chymorth.

Cynhyrchiant

Byddwn yn gweithio'n unol â chryfderau a dewisiadau unigolion, gan gydbwyso anghenion y tîm, blaenoriaethau busnes a gofynion rolau unigolion. Byddwn yn adolygu ein siarter tîm ar gyfer "gweithio'n glyfar" o leiaf unwaith y flwyddyn er mwyn cytuno ar y ffordd y byddwn yn cyflawni ein blaenoriaethau a'n hymrwymiadau fel tîm.

Lles

Byddwn yn cyfarfod fel tîm yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn er mwyn sicrhau ein bod yn glir ynglŷn â'n nodau cyffredin a'n bod yn gweithio gyda'n gilydd yn effeithiol. Bydd hyn hefyd yn gyfle i gefnogi llesiant y tîm ac unigolion. Byddwn yn annog y defnydd o'r "awr lesiant" ac yn cyfeirio unigolion at y cymorth a gynigir lle y bo'n briodol.

Cymuned

Byddwn yn parhau i gyfarfod drwy ddulliau rhithwir fel mater o drefn, yn unol â gweithio hybrid. Lle y bo hynny'n briodol ac yn ystyrlon, byddwn yn dod ynghyd fel tîm ar gyfer "diwrnodau angori" i fyfyrio, ymgysylltu ac edrych ymlaen.

Lle y bo hynny'n briodol ac yn bosibl, byddwn yn gweithio yn y gymuned ehangach a wasanaethwn, gan fynd ati'n rhagweithiol i ymgysylltu â phobl Cymru.

Cysylltu

Bydd ein siarteri "gweithio'n glyfar" yn adlewyrchu ein trefniadau gwaith unigolyn, gan ystyried anghenion unigol a threfniadau gwaith cytundebol unigol. Yn ogystal â sgyrsiau rheolaidd fel tîm, byddwn yn trefnu sgyrsiau rheolaidd â'n rheolwyr llinell er mwyn adolygu ein blaenoriaethau, cyflawni, datblygu, cryfderau, a llesiant.

Diogelwch

Byddwn bob amser yn ymwybodol o sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru a thu hwnt ac yn parhau i gydymffurfio â hynny, gan sicrhau ein bod yn gweithio'n ddiogel, lle bynnag rydym yn gweithio.

Lleihau carbon a chostau

Byddwn yn ystyried ein heffaith ar yr amgylchedd, a dim ond pan fydd hynny'n angenrheidiol ac yn ystyrlon y byddwn yn teithio. 

Byddwn yn ystyried gwerth am arian fel rhan o'n gwaith o ddydd i ddydd ac yn cefnogi'r sefydliad pan fydd yn mynd drwy bwysau ariannol.

Cyllid a chynllunio busnes

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn sicrhau ei bod yn gweithredu mor effeithiol ac effeithlon â phosibl ac yn cynnig gwerth am arian. Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn cynllunio er mwyn defnyddio'r adnoddau a ddyrennir iddi mewn ffordd fforddiadwy a chynaliadwy, ac o fewn terfynau y cytunwyd arnynt, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru. Yn ystod ei blwyddyn bontio, bydd y Swyddfa Genedlaethol yn treialu gwahanol ffyrdd o weithio er mwyn dod o hyd i'r ffordd fwyaf effeithlon ymlaen wrth i'r Swyddfa Genedlaethol aeddfedu.

Strwythur a llywodraethu

Strwythur

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn cael ei staffio gan weision sifil Llywodraeth Cymru. Bydd yn cael ei harwain gan bennaeth y Swyddfa Genedlaethol sy'n atebol i'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol.

Bydd unrhyw aelodau o'r staff sy'n cael eu recriwtio i'r Swyddfa Genedlaethol yn cael eu recriwtio yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru ac egwyddorion recriwtio comisiwn y gwasanaeth sifil.

Bydd y Swyddfa Genedlaethol yn cynnwys y timau canlynol:

  • Swyddfa'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol
  • comisiynu cenedlaethol 
  • rhaglen y gwasanaeth gofal cenedlaethol a chyflawni
  • cyflawni gweithredol y Swyddfa Genedlaethol 
  • dadansoddi data
  • talu am ofal

Llywodraethau mewnol

Bydd y Swyddfa Genedlaethol Ofal a Chymorth, a fydd yn cael ei staffio gan swyddogion (gweision sifil) Llywodraeth Cymru, yn atebol yn weithredol i Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar drwy'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, ac i weinidogion Cymru am atebolrwydd gwleidyddol.

Mae'n ofynnol i swyddogion Llywodraeth Cymru, fel gweision sifil, roi sicrwydd i'r uwch-swyddog cyfrifol o ran risg, systemau a pherfformiad.

Bydd rhaglen waith flynyddol yn cael ei phennu yn barod ar gyfer dechrau tymor blwyddyn newydd bob mis Ebrill. Bydd y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol yn cynghori gweinidogion ar hon er mwyn sicrhau eu cytundeb, yna bydd y Grŵp Cynghori Strategol allanol yn craffu arni. Bydd ymgysylltu â dinasyddion hefyd yn ffordd allweddol o herio, ymgynghori, a chyfathrebu, gyda chynlluniau i sefydlu fforwm o ddinasyddion a defnyddwyr gwasanaethau.

Bydd adroddiad blynyddol, yn y mis Mawrth dilynol bob blwyddyn, yn cael ei baratoi gan bennaeth y Swyddfa Genedlaethol i'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, er mwyn amlinellu: 

  • gweithgareddau blynyddol a chynnydd o ran ffrydiau gwaith yn y Swyddfa Genedlaethol
  • sut mae'r Swyddfa Genedlaethol yn gweithredu'n gyson â gwaith traws-system perthnasol, ac yn cyfrannu ato lle bynnag y bo'n gymwys
  • adolygiad o baramedrau manteision

Llywodraethau allanol

Bydd Grŵp Cynghori Strategol allanol yn cael ei sefydlu yn barod ar gyfer lansiad ffurfiol y Swyddfa Genedlaethol ar Ebrill 2024 er mwyn sicrhau trefniadau llywodraethu cadarn. 

Prif rôl Grŵp Cynghori Strategol y Swyddfa Genedlaethol Ofal a Chymorth fydd helpu Swyddfa Genedlaethol Ofal a Chymorth fewnol Llywodraeth Cymru, drwy helpu Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru i gyflawni swyddogaethau ar ran gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Bydd aelodau'r Grŵp Cynghori Strategol yn cynnig cyngor strategol a her adeiladol i'r Swyddfa Genedlaethol Ofal a Chymorth. Ni fydd gan y Grŵp unrhyw awdurdod i wneud penderfyniadau.

Rôl Grŵp Cynghori Strategol y Swyddfa Genedlaethol Ofal a Chymorth, a fydd yn atebol i'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, fydd:

  • hyrwyddo cynigion sy'n helpu i gyflawni blaenoriaethau'r Swyddfa Genedlaethol, gan roi negeseuon cyson sy'n helpu'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol i gyflawni swyddogaethau a chyfrifoldebau'r Swyddfa Genedlaethol
  • helpu'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol i graffu ar raglen waith flynyddol y Swyddfa Genedlaethol a gwneud penderfyniadau strategol ar sail gwybodaeth
  • cefnogi'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol drwy fod yn llais hyddysg i'r sector a thu hwnt, a chefnogi ymgysylltu â rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau ym mhob rhan o'r sector
  • bod yn bwynt uwchgyfeirio a datrys o ran y risgiau a'r problemau sylweddol a all effeithio ar y gallu i gyflawni swyddogaethau a chyfrifoldebau allweddol y Swyddfa Genedlaethol, bydd y grŵp rhanddeiliaid strategol hefyd yn helpu i nodi risgiau ar gam cynnar a'u rheoli
  • sicrhau y cydymffurfir â pholisïau, strategaethau, a safonau corfforaethol y cytunwyd arnynt, gan gynnwys rhannu gwybodaeth â'r sector cyfan gyda'r nod o wella perfformiad a hyrwyddo trefniadau llywodraethu da
  • gwneud argymhellion i'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol ar yr aelodaeth o'r Grŵp Cynghori Strategol er mwyn sicrhau llais amrywiol a hyddysg i'r sector a chyfraniad defnyddwyr gwasanaethau mewn trafodaethau
  • ystyried gweithgarwch blaengynllunio sy'n cyd-fynd â gwaith ehangach sy'n mynd rhagddo fel rhan o'r ymrwymiadau perthnasol yn y Rhaglen Lywodraethu sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol ac integreiddio, gan sicrhau bod trafodaethau a phenderfyniadau yn digwydd o fewn y terfyn amser priodol
  • sicrhau ymwybyddiaeth o weithgareddau byrddau rhaglenni strategol perthnasol eraill Llywodraeth Cymru, ffrydiau gwaith perthnasol o dan Cymru iachach ac ymrwymiadau statudol, a gweithredu'n gyson â nhw, a fydd hyn yn helpu i sicrhau bod gweithgareddau ehangach yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cysoni, gan osgoi dyblygu diangen

Bydd y Grŵp yn cynnig arweinwyr ffrydiau gwaith fel y bo'n briodol, i gydgysylltu â grwpiau gorchwyl a gorffen a byrddau rhaglenni penodol a benodir a'u helpu i gyflawni eu gwaith. Yn 2024 i 2025, bydd hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar fwrdd rhaglen i roi'r Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yng Nghymru ar waith.