Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nod y safonau hyn yw diogelu pridd. Mae’r manteision amgylcheddol a ddaw o gynnal cynefinoedd a bioamrywiaeth yn fater o bwys cenedlaethol.

Mae’r fferm a natur yn elwa o gael amrywiaeth dda ac iach o lystyfiant ac mae adeiladwaith a chyflwr y pridd ar eu mantais hefyd. Mae gwaith llosgi o bryd i’w gilydd, o’i gynllunio a’i reoli’n dda, yn llesol i’r fferm, adar hela, cadwraeth natur a’r amgylchedd ehangach. Gall llosgi diofal ar y llaw arall niweidio tir pori, cynefinoedd a nodweddion hanesyddol gwerthfawr yn ogystal ag effeithio ar ansawdd dŵr a phridd.

Rhaid cynnal arfarniad o dan Reoliadau Asesu’r Effaith Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017 (EIA) ar dir led-naturiol cyn cynnal unrhyw brosiectau i droi tir yn dir ffermio dwys neu ble y mae prosiect ar gyfer ailstrwythuro daliadau tir gwledig yn cael ei gynllunio (gan gynnwys Tir Comin). Byddwch yn torri’r rheoliad trwy fwrw ymlaen â phrosiect o’r fath heb gael caniatâd llawn EIA neu heb gynnal arfarniad sy’n dangos na chaiff eich prosiect effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd.

Y prif ofynion

Llosgi Grug, Porfa a Gweddillion Cnydau

  • peidiwch â llosgi gweddillion cnydau ar dir amaethyddol, heblaw i ddifa plaon. Rhaid cael caniatâd Llywodraeth Cymru. Cofiwch gadw tystiolaeth o’r ddau
  • rhaid paratoi cynllun rheoli ar gyfer llosgi grug a phorfa a rhaid i’r gwaith llosgi gydymffurfio â’r cynllun hwnnw
  • cyn dechrau llosgi, a gydol y gwaith llosgi, cymerwch bob cam rhesymol i ddiogelu eiddo cyffiniol rhag difrod a niwed. Peidiwch â pheryglu defnyddwyr y ffyrdd na’r cyhoedd
  • gofalwch fod digon o bobl ac offer gennych i reoli’r tân tan y bydd yn diffodd
  • llosgwch y grug a’r borfa o fewn y cyfnod a ganiateir, a dim ond yn ystod y dydd. Y cyfnodau yw:
    • 1 Hydref – 31 Mawrth ar dir uchel (sef yr Ardaloedd tan Anfantais Fawr).
    • 1 Tachwedd – 15 Mawrth bobman arall.
  • cydymffurfiwch â gofynion a chyfyngiadau cyfreithiol cenedlaethol ar gyfer llosgi grug a phorfa, ac ag unrhyw is-ddeddfau

Rheoliadau Asesu’r Effaith Amgylcheddol (EIA) (Amaethyddiaeth)

  • gofynnwch i Lywodraeth Cymru am ganiatâd (penderfyniad sgrinio) i wella’r tir. Mae’r tir yn cael ei ystyried yn lled-naturiol os ydy’r gyfran o rywogaethau sydd wedi’u gwella fel rhygwellt/ meillion gwyn yn llai na 25%
  • gwnewch gais am sgrinio EIA gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau ail-strwythuro ar ddaliadau tir gwledig. Mae hyn yn cynnwys prosiectau ar bob tir amaethyddol (a phrosiectau sy’n cael eu cynnal ar Dir Comin)
  • cydymffurfiwch â phenderfyniadau sgrinio a chaniatadau’r EIA
  • cydymffurfiwch â hysbysiadau

Rheoliadau Asesu’r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999

  • peidiwch â chynnal gwaith coedwigo ar dir amaethyddol neu brosiect datgoedwigo ar goetir heb ganiatâd Cyfoeth Naturiol Cymru
  • ufuddhewch i rybuddion atal, caniatáu, gorfodi ac adfer gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Archwiliadau maes

  • i sicrhau bod gweddillion cnydau âr yn cael eu llosgi er lles iechyd planhigion, am resymau addysgol ac ymchwil (gyda chaniatâd Llywodraeth Cymru) neu i gael gwared ar bentyrrau gwellt neu fêls wedi torri
  • i sicrhau bod gennych Gynllun Rheoli ar gyfer llosgi grug a phorfa
  • i sicrhau’ch bod yn llosgi’r grug a phorfa yn y cyfnod a ganiateir
  • gwirio bod penderfyniad neu gydsyniad sgrinio Asesiad Effaith ar yr Amgylchedd wedi ei gael ar gyfer gwaith gwelliant amaethyddol, ar dir lled-naturiol neu ail-strwythuro daliadau tir gwledig
  • i sicrhau y cedwir at rybuddion atal, caniatáu, gorfodi ac adfer

Arfer Da: llosgi grug, porfa a gweddillion cnydau

  • lluniwch raglen ar gyfer y gwaith llosgi hanfodol a’i drefnu ar sail cylchdro – dylech ei chynnwys yn y Cynllun Rheoli Llosgi
  • rhowch wybod i’ch cymdogion am eich bwriad i losgi ac i’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Rhowch wybod iddynt pan fydd y tân wedi diffodd
  • peidiwch â llosgi os ydy’r tywydd yn anaddas ichi allu llosgi’n ddiogel, gan gynnwys adeg tywydd sych. Peidiwch â llosgi os ydy’r gwynt yn rhy gryf neu os ydy cyfeiriad y gwynt yn gyfnewidiol. Os ydy’r amodau’n gwaethygu, dylech ei ddiffodd ar unwaith
  • anelwch at gael‘tân oer’sy’n llosgi canopi llwyni bach ond sy’n gadael cyfran o’r pren ar ôl, heb losgi’r mwsogl na dinoethi’r pridd
  • rheolwch ochrau’r tân gan gadw’r lled a ddymunir, gan adael i ben blaen y tân losgi i’r cyfeiriad cywir a rheoli o leiaf un ochr â rhwystr tân. Dewiswch fylchau naturiol yn y llystyfiant lle medrwch, neu os nad oes bylchau o’r fath, crëwch fylchau 2½ gwaith hyd disgwyliedig y fflamau i rwystro’r tân rhag lledaenu
  • peidiwch â llosgi ar safleoedd cadwraeth (e.e. SoDdGA) neu Henebion heb ganiatâd yr awdurdod priodol

Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA)

  • os nad ydych yn siŵr a yw Rheoliadau Asesu’r Effaith Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) yn effeithio ar eich prosiect/gweithgarwch, yna holwch naill ai Llywodraeth Cymru neu ewch i llyw.cymru/asesu effaith amgylcheddol yn y maes amaethyddol. Os nad ydych yn siŵr a yw Reoliadau Asesu’r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999 yn effeithio ar eich prosiect/ gweithgaredd, yna holwch Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2024) o fewn y pecyn hwn.