Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi cyhoeddi cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu ei chymorth i helpu sefydliadau gwaith ieuenctid i ymateb i alw mwy am wasanaethau, costau gweithredu uwch, a newid yn y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc yn sgil yr argyfwng costau byw.

Mae sefydliadau gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i fyw bywydau sy’n dod â bodlonrwydd, gan ddarparu llefydd a chydberthnasau er mwyn iddynt allu mwynhau, teimlo’n ddiogel, a theimlo’u bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi. I lawer o bobl ifanc sy’n agored i niwed, mae’r sefydliadau hyn yn cynnig llefydd diogel sydd ag oedolion dibynadwy i wrando arnynt. Gall y cyfleoedd unigryw a gynigir gan waith ieuenctid gefnogi pobl ifanc drwy ddatblygiadau mawr yn eu bywydau a datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau.

Bydd 18 o sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin Y Rhyl a MIND Casnewydd, yn cael mwy na £1 miliwn o gyllid ychwanegol drwy’r Cynllun Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol ar gyfer 2023 i 2025, sy’n dod â’r cyfanswm a ddyrannwyd ers i’r grant ddechrau ym mis Ebrill 2022 i fwy na £2.9 miliwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu dros £13m o gyllid uniongyrchol i gefnogi gwasanaethau gwaith ieuenctid eleni, dros dair gwaith y swm cyfatebol yn 2018.

Bydd Cyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn derbyn £180,000 ychwanegol i’w galluogi i dreialu Cynllun Cymorth i Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol, gan ddarparu grantiau bach o hyd at £7,500 y sefydliad i ddiogelu’r gwasanaethau a gynigiant i bobl ifanc yn eu cymunedau.

Mae GISDA yn sefydliad sy’n cefnogi pobl ifanc agored i niwed yn y Gogledd. Maen nhw’n darparu llety i Vex, person ifanc sydd wedi gadael gofal, yn eu hostel, Hafan. Caiff Vex gefnogaeth gweithiwr allweddol a chynghorydd personol i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol, rheoli tenantiaeth a mynychu’r coleg. Mae hefyd yn elwa o gynllun peilot incwm sylfaenol Llywodraeth Cymru. Mae cymorth gan sefydliad gwaith ieuenctid wedi helpu Vex i fwynhau cymryd rhan yn y celfyddydau perfformio, ac mae wedi ymddangos ar opera sebon Rownd a Rownd. Bydd Vex hefyd yn chwarae un o brif rolau cynhyrchiad gan GISDA a grŵp theatr ieuenctid Frân Wen.

Ar ddydd Mawrth, cynhaliwyd digwyddiad Gwaith Ieuenctid Cymru i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid a dangos y camau sy'n cael eu cymryd gan y sector.

Dywedodd Jeremy Miles:

Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rôl hollbwysig wrth ddarparu amgylcheddau diogel i bobl ifanc lle cân nhw eu cefnogi i gyflawni eu potensial. Mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod angen gwasanaethau gwaith ieuenctid nawr yn fwy nag erioed. Dw i’n falch o allu darparu’r cyllid hwn i sefydliadau sydd â’r pŵer i newid bywydau pobl ifanc.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, Jane Hutt:

Ddylai cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal ddim cael eu penderfynu gan amgylchiadau eu plentyndod. Mae’n wych clywed sut mae ein cynllun peilot incwm sylfaenol yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc fel Vex sefydlu eu hannibyniaeth a chyflawni eu potensial.