Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau iechyd i fenywod a merched

Menywod a merched yw ychydig dros 50% o'r boblogaeth yng Nghymru. Er gwaethaf hyn, nid yw gwasanaethau meddygaeth a gofal iechyd o reidrwydd wedi diwallu eu hanghenion, gan arwain at wahaniaethau sylweddol mewn gofal rhwng dynion a menywod, sydd ond wedi'u gwaethygu gan y pandemig. Er bod y strategaeth 'Cymru Iachach' yn egluro ei nod o sicrhau gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ledled y wlad, mae angen addasu rhai dulliau o ddarparu gofal iechyd er mwyn sicrhau bod menywod yn gallu cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnynt mewn modd amserol, bod y gwasanaeth iechyd yn ymateb i'w dewisiadau, a bod ymchwil a datblygiad yn adlewyrchu profiadau byw menywod a merched.

Yr angen am ofal iechyd sy'n benodol i ryw

Yn aml, mae meini prawf diagnostig a thriniaeth ar gyfer cyflyrau sy'n effeithio ar y ddau ryw yn seiliedig ar brofiad gwrywaidd, yn bennaf gan nad yw canllawiau clinigol yn benodol i ryw ond yn hytrach yn seiliedig ar ddull wedi'i fodelu'n feddygol sy'n aml yn dibynnu ar dystiolaeth a gynhyrchir mewn profiad gwrywaidd 'nodweddiadol [troednodyn1]. Mae hyn yn golygu y gall adroddiadau am brofiad a symptomau byw menywod gael eu tanbrisio, eu hanwybyddu neu eu diystyru[troednodyn2}. Mae yna hefyd batrymau anghenion a chyflwyniad gwahanol ar draws ethnigrwydd, anabledd, beichiogrwydd a mamolaeth. Rhaid i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ddangos cymhwysedd ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig [troednodyn3] i ymateb i anghenion iechyd menywod a merched, yn benodol i leihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd.

Gwelir enghreifftiau o annhegwch rhwng y rhywiau mewn data a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy'n dangos y gall menywod ddisgwyl byw llai o flynyddoedd yn 'ddi-anabledd' na dynion, felly gall anghydraddoldebau iechyd effeithio'n anghymesur ar fenywod. Awgryma tystiolaeth ar drin poen, ar ôl llawdriniaeth ac mewn lleoliadau brys, fod menywod yn aros yn hirach na dynion am foddion ladd poen [troednodyn4], a bod llawer o fenywod yn dweud bod eu symptomau'n cael eu diystyru fel rhywbeth 'normal' neu'n cael eu priodoli'n anghywir i achosion seicolegol [troednodyn5]. Gall hyn gael effaith andwyol ar lesiant drwy beri oedi diagnostig sylweddol, gwaeth rhagolygon, a methiant i gynnig triniaeth effeithiol[troednodyn6].

Mae'n hollbwysig i wasanaethau byrddau iechyd adlewyrchu anghenion menywod ar draws ystod eang o gyflyrau, ac nid cyflyrau gynaecolegol yn unig - er bod angen rhoi sylw sylweddol i anhwylderau mislif, endometriosis a’r menopos. Yn aml, mae symptomau a chyflwyniadau clinigol menywod o anhwylderau cardiaidd, asthma, anymataliaeth a chyflyrau iechyd meddwl yn wahanol i ddynion, a rhaid i'w gofal ymateb drwy gydnabod y patrymau hyn, a chynnig diagnosis a thriniaeth i fenywod yn unol â'u hanghenion penodol, drwy fodel darparu gwasanaeth sy'n gymwys o ran rhyw a diwylliant. Ceir rhestr o gyflyrau yn atodiad A lle mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a'r angen am wasanaethau sy'n gymwys o ran rhywiau y gallai menywod fod eu hangen sy'n wahanol i wasanaethau a ddarperir yn hanesyddol.

Yr effaith ar degwch yn y GIG a'r gweithlu gofal cymdeithasol

Mae'r sector iechyd a gofal yn cynnwys menywod yn bennaf, ac mae unrhyw ddull sy'n lleihau salwch y gellir ei osgoi yn y gweithlu hwn yn gyfle sylweddol i wella effeithlonrwydd GIG Cymru, yn ogystal â gofal i unigolion. Mae angen i fyrddau iechyd sicrhau bod eu staff yn cael eu cefnogi'n briodol pryd bynnag y bydd angen iddynt gael mynediad at wasanaethau, gan gynnwys drwy brofiadau o boen sy'n gysylltiedig â’r mislif, a’r menopos.

Rhaid i wasanaethau i fenywod a merched hefyd ymateb i wahanol anghenion unigolion â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys y cynllun Gwrth-Hiliaeth i Gymru, a gwasanaethau i bobl ar draws pob hunaniaeth rhywedd. Gall pobl sy'n trawsnewid rhyw neu sy'n anneuaidd hefyd wynebu materion iechyd sy'n gysylltiedig â'r rhywiau. Rhaid i fyrddau iechyd gydnabod hyn a sicrhau eu bod yn cael cynnig gofal a chymorth priodol.

Y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol a Datganiadau Ansawdd

Yn y strategaeth 'Cymru Iachach' nodwyd y byddai datganiadau ansawdd yn cael eu cyflwyno, ac fe'i disgrifiwyd yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol fel y lefel nesaf o gynllunio cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol, fel rhan o ffocws gwell ar ansawdd wrth ddarparu gofal iechyd. Bydd datganiadau ansawdd yn gosod y disgwyliadau ar gyfer y trefniadau cynllunio ac atebolrwydd ar gyfer y GIG yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd menywod yn unol â safonau proffesiynol a’r priodoleddau ansawdd a nodir isod. Caiff byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau eu cyfarwyddo, eu cefnogi a'u galluogi i ddarparu gwasanaethau gwell i fenywod a merched drwy swyddogaeth Gweithrediaeth y GIG a Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru neu ei olynydd.

Rhaid i'r Cynllun Iechyd Menywod sy'n cael ei ddatblygu gan Gydweithfa GIG Cymru geisio cyflawni uchelgeisiau'r Datganiad Ansawdd hwn.

Priodoleddau ansawdd gwasanaethau iechyd i fenywod a merched yng Nghymru

Teg

1. Bydd dull cenedlaethol o wella gwasanaethau dan arweiniad Gweithrediaeth y GIG, a fydd yn ystyried a ddylid sefydlu bwrdd rhwydwaith ar gyfer iechyd menywod.

2. Bydd byrddau iechyd yn cydweithio ar draws y gwasanaethau iechyd i gefnogi mynediad cyfartal i fenywod a merched at lwybrau gofal, cysondeb mewn safonau gofal, mynd i'r afael ag amrywiadau diangen a darparu cymorth cydfuddiannol pan fo angen.

3. Bydd gwasanaethau ar gyfer menywod a merched yn cael eu mesur a’u dwyn i gyfrif gan ddefnyddio metrigau, data clinigol, ac adolygiadau cymheiriaid sy’n adlewyrchu ansawdd gofal i gleifion a’i ganlyniadau. Bydd byrddau iechyd yn defnyddio galluoedd dadansoddi yr Adnodd Data Cenedlaethol i gefnogi gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer menywod a merched.

4. Bydd byrddau iechyd yn sicrhau bod y gweithlu iechyd menywod yn cael ei gefnogi a'i ddatblygu, er mwyn mynd i'r afael â chadw staff, cydymffurfio â safonau perthnasol gan gynnwys sgiliau gwrth-hiliaeth a gwrth-ormesol, a darparu gallu cynaliadwy i ateb y galw. Bydd hyn yn golygu y bydd nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn canolbwyntio ar ddatblygu darpariaeth gwasanaeth sy’n ymateb i fodelau gofal sy'n diwallu anghenion menywod a merched.

5. Bydd byrddau iechyd yn sicrhau lefelau priodol o gapasiti diagnostig, therapiwtig a llawfeddygol i alluogi menywod sydd angen ymyriadau ar gyfer anghenion iechyd sy'n benodol i fenywod a merched, gan gynnwys gofal mislif a ffrwythlondeb, endometriosis a menopos, i dderbyn gofal mor agos â phosibl at y cartref heb orfod aros am gyfnod helaeth.

6. Bydd byrddau iechyd yn sicrhau y darperir mynediad at gymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer dewisiadau atgenhedlu, gan gynnwys erthyliad, IVF, geneteg glinigol a diagnosis cynenedigol, camesgoriad/colli beichiogrwydd a chymorth profedigaeth.

7. Bydd byrddau iechyd yn cefnogi menywod a merched gyda’r holl nodweddion gwarchodedig drwy gydol oes. Bydd hyn yn gofyn am gontinwwm gofal gan gynnwys iechyd y cyhoedd ac atal, sgrinio, ymyriadau diagnostig a therapiwtig drwy gydol eu hoes, er mwyn helpu menywod i fyw bywydau iach a boddhaus cyhyd ag y bo modd.

Diogel

8. Bydd byrddau iechyd yn sicrhau ffocws ar drawsnewid llwybrau yn unol â safonau gofal cydnabyddedig a chanllawiau clinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a hynny ar lefel systemau i alluogi adfer ac ailosod gwasanaethau o leiaf i lefelau a oedd yn bodoli cyn y pandemig.

9. Bydd byrddau iechyd yn sicrhau bod gwasanaethau sy'n fregus neu sy’n methu â chyrraedd safonau cydnabyddedig (e.e., canllawiau NICE neu safonau archwilio cenedlaethol) yn cael eu had-drefnu'n wasanaethau rhanbarthol, uwch-ranbarthol neu genedlaethol mwy gwydn, gan ddefnyddio modelau clwstwr Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol neu fodelau clwstwr Gofal Sylfaenol fel y bo'n briodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran darparu gwasanaethau gynaecolegol trydyddol, lle y gwyddys bod breguster.

10. Bydd byrddau iechyd yn cefnogi menywod sydd wedi dioddef canlyniadau iechyd andwyol o ganlyniad i driniaeth flaenorol. Mae enghreifftiau o hyn yn ymwneud â defnyddio tâp a rhwyll y wain, a'r defnydd o sodiwm falproad[troenodyn7].

Effeithiol

11. Bydd byrddau iechyd yn sicrhau y bydd llwybrau cenedlaethol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd menywod yn cael eu cyd-gynhyrchu, y byddant yn gynhwysfawr ac yn rhan annatod o'r gwaith o ddarparu gwasanaethau lleol.

12. Bydd byrddau iechyd yn sicrhau bod technegau llawfeddygol a therapïau llawfeddygol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gael yn ddi-oed drwy gydol y llwybr gofal. Bydd hyn yn cynnwys defnydd effeithiol o ffisiotherapi arbenigol i fenywod a Symbylu’r Nerf Sacrol wrth drin cyflyrau'r bledren a'r coluddyn.

13. Bydd byrddau iechyd yn ystyried manteision dull Hyb Iechyd y Pelfis o ymdrin â gofal gynaecolegol er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl yn achos gofal cydgysylltiedig mor gynnar â phosibl.

Effeithlon

14. Bydd byrddau iechyd yn sicrhau eu bod yn mabwysiadu ymagwedd gyfunol at ymgynghoriadau clinigol gyda'r defnydd o allu digidol ac apwyntiadau rhithwir.

15. Bydd byrddau iechyd yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu ymchwil, arloesi ac addysg ymhellach er mwyn darparu gofal clinigol o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n gymwys o ran y rhywiau ac yn ddiwylliannol gan weithlu sydd wedi'i hyfforddi'n dda.

16. Bydd dull gweithredu cenedlaethol ar waith mewn perthynas â systemau gwybodeg er mwyn darparu data diagnosteg cyflym, perthnasol, o ansawdd uchel, sydd wedi’u safoni ac sydd ar gael yn ôl rhyw ar gyfer ysgogi gwelliannau i wasanaethau.

17. Bydd byrddau iechyd yn mabwysiadu defnydd ehangach o atebion TG newydd megis Endometriosis Cymru i gefnogi diagnosis a thriniaeth gynnar.

Canolbwyntio ar yr unigolyn

18. Bydd byrddau iechyd yn mabwysiadu dull cydweithredol a theg o ymdrin â gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd wedi ymwreiddio'n ddiwylliannol, sy'n wrth-hiliol ac yn wrth-ormesol.

19. Bydd byrddau iechyd yn mabwysiadu llwybrau gofal a gefnogir gan ddull cyffredin o atgyfeirio, uwchgyfeirio gofal, gwaith dilynol ac adsefydlu.

20. Bydd byrddau iechyd yn sicrhau bod menywod a merched yn cael gofal priodol ar sail rhyw, gan gymryd i ystyriaeth y gwahaniaethau sy'n bodoli wrth gyflwyno symptomau a diagnosis.

21. Bydd byrddau iechyd yn sicrhau bod eu cynlluniau gofal yn cael eu cyd-gynhyrchu a'u bod yn gyson â chanllawiau NICE ar wneud penderfyniadau ar y cyd er mwyn sicrhau bod menywod a merched yn cyflawni'r canlyniadau iechyd sy'n bwysig iddynt.

Amserol

22. Bydd byrddau iechyd yn sicrhau mynediad amserol at yr holl wasanaethau priodol i fenywod, nid gwasanaethau gynaecoleg yn unig, yn unol ag anghenion cleifion gan gynnwys cydnabyddiaeth ac ymyrraeth gynnar i gleifion y mae eu cyflwr mewn perygl o ddirywio.

23. Bydd byrddau iechyd yn darparu llwybrau gofal sy'n lleihau oedi o ran triniaeth, yn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cydgysylltu i'r eithaf, yn pwysleisio cyfathrebu da rhwng gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaethau, ac yn gwneud i bob cyswllt gyfrif.

Atodiad A: Cyflyrau lle mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a'r angen am wasanaethau sy'n gymwys o ran rhywiau y gallai fod eu hangen ar fenywod mewn ffordd wahanol i ddynion (nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol)

Asthma

Awtistiaeth

Cyflyrau awto-imiwn

Anaesthesia

Anhwylderau ymddygiadol

Iechyd yr esgyrn ac osteoporosis

Sgrinio am ganser a diagnosis

Llesiant gofalwyr

Syndrom twnnel y carpws

Syndrom Blinder Cronig/ME

Ymataliaeth - problemau rheoli'r coluddyn a'r bledren, a heintiau

Dementia ac eiddilwch

Gofal Deintyddol

Endometriosis

Rheoli ffrwythlondeb, erthyliad ac atal cenhedlu

Ffibromyalgia

Clefyd y galon a Strôc

Hypersymudedd

Syndrom coluddyn llidus

Gwasanaethau mamolaeth

Iechyd mislif a'r menopos

Llesiant meddwl, gorbryder ac iselder

Meigryn

Gordewdra

Prolaps ac anhwylderau gynaecolegol

Cynnwys Ymchwil a Datblygu

Sgrinio ac atal

Clefydau'r thyroid

Trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Atodiad B: Manylebau gwasanaeth

Bydd Gweithrediaeth y GIG yn datblygu manylebau gwasanaethau ar gyfer gwasanaethau iechyd menywod i lywio trafodaethau am atebolrwydd. Bydd y rhain yn cael eu cynnwys pan fyddant ar gael.

Troednodiadau

[1] Caroline Criado Perez ‘Invisible women – exposing data bias in a world designed for men’ Chatto and Windus 2019

[2] Cleghorn, Elinor ‘Unwell Women: Misdiagnosis and Myth in a Man-Made World’, Dutton, June 2021

[3] Deddf Cydraddoldeb 2010

[4] Robertson, J. (2014) Waiting Time at the Emergency Department from a Gender Equality Perspective 

[5] Floyd, B. (1997) Problems of accurate medica diagnosis of depression in female patients 

[6] Kiesel, L. (2017) Women and Pain

[7] First do no harm Astudiaeth Annibynnol o Feddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol, a gyhoeddwyd gan y Farwnes Cumberlege.2021