Sut mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfathrebu digidol.
Cynnwys
Dylai asiantaethau allanol sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru ddilyn y canllawiau hyn.
Ein prif egwyddorion yw:
- rhaid i bob gohebiaeth a marchnata fod yn Gymraeg ac yn Saesneg
- pan fydd gwaith yn cael ei wneud yn Gymraeg a Saesneg, ni chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg
- dylai gwybodaeth Gymraeg a Saesneg edrych yr un peth a bod ar gael ar yr un pryd
- bod gohebiaeth Gymraeg o ansawdd a safon addas
Mae'r canlynol yn berthnasol i amryw agweddau:
- gwefan gorfforaethol Llywodraeth Cymru
- gwefannau ar blatfformau Llywodraeth Cymru
- gwefannau a gyflawnir ar ran Llywodraeth Cymru neu trwy grant Llywodraeth Cymru
Dylai sefydliadau sy'n derbyn gratiau neu nawdd Llywodraeth Cymru ofyn am eu rhwymedigaethau yn unol â safonau'r Gymraeg.
Gwefannau
Bydd testun pob tudalen ar y wefan yn Gymraeg ac yn gweithio yn yr un modd â'r tudalennau Saesneg. Pan fydd tudalen newydd yn cael ei chyhoeddi, neu fod tudalennau yn cael eu haddasu, bydd y rhain ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd.
Bydd rhyngwyneb a bwydlenni pob tudalen y wefan yn Gymraeg.
Nid yw hyn yn berthnasol i ddolenni i wefannau trydydd parti neu gynnwys megis fideo, clipiau sain na dogfennau.
Mae eich sefydliad yn gyfrifol am gydymffurfio â safonau'r Gymraeg, hyd yn oed os ydym yn cynnal eich safle.
Dogfennau
Bydd pob dogfen sydd ar gael i'r cyhoedd, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd y fersiwn Saesneg yn nodi'n glir bod y ddogfen ar gael hefyd yn Gymraeg.
Cylchlythyron
Bydd cylchlythyron yn cael eu hanfon yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Yr arfer gorau yw cynhyrchu templed dwyieithog ar gyfer y bwletin neu'r cylchlythyr. Dylai dolenni o gylchlythyron i wefannau neu gynnwys trydydd parti fod yn yr iaith wreiddiol.
Cyfryngau cymdeithasol
Bydd pob proffil yn ddwyieithog neu'n Gymraeg ac yn Saesneg ar wahân. Bydd unrhyw wybodaeth wreiddiol ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Rhaid ymateb i bostiadau yn yr iaith wreiddiol. Os yw person yn cysylltu dros gyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg a bod angen ymateb, bydd yn cael ei anfon yn Gymraeg.
Ar bostiadau dwyieithog, bydd y Gymraeg wastad yn ymddangos yn gyntaf. Pan fydd trydariadau ar wahân yn Gymraeg a Saesneg ar gyfrif dwyieithog, gall y naill iaith neu'r llall ymddangos yn gyntaf.
Dylai'r cyfrif Saesneg gynnwys cyfeiriad y cyfrif Cymraeg (a'r ffordd arall hefyd). Dylai'r disgrifiad Twitter gynnwys dolen i'r wefan berthnasol ar gyfer y cyfrif hwnnw. Os ydych am gynnwys trydariad sy'n Saesneg yn unig ar gyfrif Cymraeg, rhowch ddolen iddo gyda chrynodeb yn Gymraeg. Rydym yn argymell eich bod yn meddwl yn greadigol am hashnodau dwyieithog neu Gymraeg.
Os ydych yn defnyddio hashnodau Cymraeg a Saesneg ar wahân, dylech atgoffa defnyddwyr o'r hashnod yn yr iaith arall. Dylid hyrwyddo hashnodau dwyieithog yn hafal. Bydd unrhyw drydaru'n fyw yn ddwyieithog.
Fideo ar gyfer sianeli digidol
Rhaid i chi gynhyrchu 2 fersiwn gwahanol o unrhyw fideo (1 yn Gymraeg ac 1 yn Saesneg). Dylai popeth ynghylch y fideos fod yn yr iaith briodol. Mae hyn yn cynnwys trosleisio, capsiynau ar y sgrin, graffigau a chyfweliadau.
Ni ddylid byth dybio yn yr iaith arall. Ni ddylid defnyddio isdeitlau at ddibenion cyfieithu. Bydd teitlau clipiau fideo yn yr un iaith â'r fideo.
Pan fydd fideo Cymraeg yn unig yn cael ei ddefnyddio mewn digwyddiad, ac yna'i gyhoeddi ar-lein, yna bydd trawsgrifiad Saesneg yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr ag ef.
Yn ddibynnol ar y cynnwys, ni ddylai hyd y fideo fod yn hwy na 3 munud.
Hysbysebu ar-lein
Gallwn gyrraedd siaradwyr Cymraeg ar Facebook trwy ddiddordebau a dewis iaith. Dyw hyn ddim yn cynrychioli cyfanswm y gynulleidfa sy'n siarad Cymraeg, ond mae'n ein galluogi i dargedu unigolion yn eu hiaith nhw.
Mae gan Twitter gyfyngiadau polisi iaith. Dyw hi ddim yn bosib ar hyn o bryd i hysbysebu trydariadau Cymraeg wedi eu hyrwyddo ar Twitter.
Google Display Network a YouTube True View
Rydym yn eich cynghori i ddefnyddio'r un nifer o hysbysebion yn Gymraeg a Saesneg. Fodd bynnag, fe allwch addasu'r gyfran o hysbysebion yn seiliedig ar y nifer o siaradwyr Cymraeg yng nghyfrifiad 2011.
Spotify
Bydd hysbysebion yn Gymraeg a Saesneg (mae'r platfform yn cyfyngu hysbysebion Cymraeg i gymhareb 1:10).
Negeseuon testun
Bydd unrhyw negeseuon testun yn cael eu hanfon yn Gymraeg a Saesneg gyda'r Gymraeg yn ymddangos yn gyntaf. Bydd unrhyw negeseuon llais awtomatig yn Gymraeg a Saesneg gyda'r Gymraeg yn gyntaf.