Neidio i'r prif gynnwy

Diwygio yw prif nod Biliau Llywodraeth Cymru a gaiff eu cyflwyno yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth gyhoeddi ei flaenoriaethau deddfwriaethol, dywedodd y Prif Weinidog y bydd y biliau'n gwneud newid cadarnhaol i bobl Cymru.

Ymhlith y ddeddfwriaeth a gaiff ei chyflwyno yn ystod tymor nesaf y Senedd y mae:

  • Bil Bysiau i ddiwygio a gwella gwasanaethau bysiau, gan roi pobl cyn elw, er mwyn cyd-fynd ag anghenion ein cymunedau.
  • Bil Diogelwch Tomenni nas Defnyddir a fydd yn arwain y gad o ran rheoli hen domenni gwastraff. Bydd hwn yn diwygio cyfreithiau presennol ynghylch diogelwch tomenni glo ac yn rhoi rhagor o ddiogelwch i'r bobl sy'n byw yn eu cysgod.
  • Bil Addysg Gymraeg i gynyddu nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg a diogelu ein cymunedau Cymraeg eu hiaith.
  • Bil i wireddu ymrwymiad y Llywodraeth i leihau'r diffyg democrataidd yng Nghymru a datblygu system etholiadol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
  • Bil Cyllid Llywodraeth Leol i ddiwygio systemau'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig fel y byddant yn gyson â newidiadau yn amodau'r farchnad ac yn gallu ymateb yn well i'r pwysau y mae pobl a sefydliadau'n eu hwynebu.

Caiff Bil i ddiwygio'r Senedd ei gyflwyno yn yr hydref, gan ddarparu cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i greu Senedd fodern, sy'n gallu cynrychioli pobl Cymru'n well, gyda rhagor o bwerau i graffu, gwneud deddfau, a dwyn y Llywodraeth i gyfrif.

At hynny, caiff bil ei gyflwyno, gan adeiladu ar sail y darpariaethau yn y Bil i ddiwygio'r Senedd, i ddechrau defnyddio cwotâu rhywedd ar gyfer pobl sy'n ceisio cael eu hethol i'r Senedd, gyda'r nod o sicrhau bod ein Senedd yn cynrychioli'r bobl y mae'n eu gwasanaethu'n well.

Ymrwymodd y Prif Weinidog hefyd i gyflwyno deddfwriaeth bwysig i sicrhau nad oes modd gwneud elw drwy ofal plant sy'n derbyn gofal, yn ogystal â deddfwriaeth i gyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus a gwneud diwygiadau i helpu'r gweithlu i weithredu'n fwy effeithiol.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Yn ystod y flwyddyn hon i ddod, bydd pwyslais parhaus ar ddiwygio er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau pobl Cymru.

“Dyma raglen ddiwygio uchelgeisiol a radical, a fydd yn moderneiddio rhannau o'n system drethi a'n system etholiadol, yn sicrhau ein bod yn rhoi anghenion plant sy'n derbyn gofal uwchben elw, ac yn creu Senedd sy'n adlewyrchu Cymru heddiw.

“Bydd ein diwygiadau'n trawsnewid gwasanaethau bysiau, yn rhoi mwy o ddewis i bobl ynghylch sut maent yn teithio, ac yn ein helpu i symud tuag at wireddu ein huchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Y tu hwnt i'r rhaglen 12 mis a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog heddiw, bydd blaenoriaethau deddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer gweddill tymor y Senedd yn cynnwys biliau i wireddu ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru sy'n ymwneud â digartrefedd a diogelwch adeiladau, ardoll ymwelwyr, twristiaeth, treth, trafnidiaeth, yr amgylchedd a chyfiawnder.

Caiff rhagor o filiau cydgrynhoi eu cyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon hefyd er mwyn gwneud cyfreithiau Cymru'n fwy hygyrch. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn rhannu rhagor o fanylion am y cynlluniau hyn fel rhan o'i adroddiad cynnydd blynyddol ar y rhaglen hygyrchedd.