Neidio i'r prif gynnwy

Nod y gwaith ymchwil hwn oedd diffinio a dechrau datblygu ecosystem wybodaeth newydd sy’n cefnogi’r system ysgolion diwygiedig yng Nghymru.

Nod yr ymchwil hon oedd diffinio ecosystem data a gwybodaeth addysg newydd i Gymru sy'n gallu cefnogi tair swyddogaeth graidd rhanddeiliaid yn y system ysgolion:

  • hunanwerthuso a gwella gwasanaethau, cefnogaeth neu bolisïau ymhob haen
  • atebolrwydd a goruchwylio pob haen yn effeithiol
  • tryloywder ym mhob rhan o'r system, gan ddangos perfformiad a chynnydd i rieni a gofalwyr, cymunedau a rhanddeiliaid ehangach

Defnyddid dull iteraidd ac addasol wrth wneud yr ymchwil, gan gynnwys adolygu canfyddiadau newydd, llinellau ymholi a dulliau yn rheolaidd, ac addasu er mwyn sicrhau'r ymgysylltu gorau posibl â rhanddeiliaid.

Mae'r canfyddiadau a nodir yn yr adroddiad hwn yn denu ar ymchwil o amrywiaeth eang o randdeiliaid.

Mae'r canfyddiadau'n canolbwyntio ar y canlynol:

  • diffinio nodweddion allweddol yr ecosystem data a gwybodaeth bresennol
  • mapio anghenion rhanddeiliaid o ran data a gwybodaeth
  • asesu meysydd lle bo angen gwneud newidiadau
  • hawliau a chydraddoldeb

Mae'r adroddiad yn gorffen gydag argymhellion manwl i Lywodraeth Cymru eu hystyried.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymateb i’r adroddiad hwn a’i argymhellion.

Adroddiadau

Datblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd sy’n cefnogi’r system ysgolion ddiwygiedig yng Nghymru: canfyddiadau o astudiaeth ymchwil , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Datblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd sy’n cefnogi’r system ysgolion ddiwygiedig yng Nghymru: canfyddiadau o astudiaeth ymchwil (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 380 KB

PDF
380 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Cangen ymchwil ysgolion

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.