Ail gam ymchwil ansoddol yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23 i ddeall sut mae’r diwygiadau i’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yn gweithio i ymarferwyr a dysgwyr mewn ysgolion a lleoliadau, a’r elfennau sy’n rhwystro ac yn hwyluso gweithredu llwyddiannus.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ymwchil gydag ysgolion a dysgwyr ar weithredu cynnar y Cwricwlwm i Gymru
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r ail don o ymchwil ansoddol gydag uwch arweinwyr a dysgwyr a oedd yn archwilio profiadau cynnar o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru (CiG). Mae’n dilyn adroddiad Ton 1, a gyhoeddwyd yn Ebrill 2023.
