Neidio i'r prif gynnwy

Yn fwy diogel ar 20mya: Beth am edrych allan am ein gilydd

Ar 17 Medi 2023, mae'r rhan fwyaf o derfynau cyflymder 30mya yng Nghymru, wedi newid i 20mya.

Credwn fod 20mya yn iawn, ond rydym am sicrhau ein bod yn cael y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir.

Gwrando am 20mya

Mae Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, yn cynnal rhaglen o wrando a fydd yn cwmpasu pob rhan o Gymru i ddeall beth mae pobl ei eisiau ar y ffyrdd yn eu cymunedau. 

Bydd yn cwrdd â: 

  • dinasyddion
  • gyrwyr bysiau 
  • gwasanaethau brys 
  • yr heddlu
  • pobl ifanc
  • pobl fregus 
  • busnesau
  • cynghorwyr sir, tref a chymuned 
  • llawer o rai eraill

Byddwn yn adolygu ein canllawiau eithriadau i'w gwneud yn gliriach pa ffyrdd ddylai fod yn 20mya a pha rai ddylai fod yn 30mya, i gefnogi awdurdodau lleol i wneud y penderfyniadau hyn. 

Rydym hefyd yn annog pobl i gysylltu â'u cyngor lleol i ddweud wrthynt lle maen nhw'n credu y dylid targedu 20mya.

Yna bydd yr awdurdod lleol yn ystyried adborth cymunedol a'r canllawiau eithriadau wedi'u diweddaru cyn penderfynu ar y cyfyngiad cyflymder ar ran o'r ffordd.

Gweld goleuadau stryd? Tybiwch 20

Pan welwch oleuadau stryd, tybiwch 20mya, oni bai eich bod yn gweld arwyddion sy'n dweud fel arall.

Mae fel arfer ar strydoedd preswyl neu ardaloedd adeiledig lle mae pobl a cherbydau'n cymysgu.

Bydd arwyddion ar hyd y ffyrdd sy’n parhau i fod yn 30mya.

Os nad ydych yn gweld arwydd, tybiwch 20mya. 

Mwy o wybodaeth

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y newid i 20mya, gan gynnwys atebion i rai cwestiynau cyffredin.