Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am weithio i Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru.

Mae gennym 45 o staff yn Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru. Mae’r mwyafrif o’n staff wedi’u lleoli yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd, tra bod ein harolygwyr cynllunio yn gweithio o gartref.

Arolygwyr cynllunio

Mae ein arolygywr cynllunio yn penderfynu ar apeliadau o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) a deddfwriaeth amgylcheddol arall, ac yn cynnal ymchwiliadau i ddogfennau Cynlluniau Datblygu Lleol.

Ymdrinnir ag apeliadau o dan un o dri dull: ymchwiliad cyhoeddus, gwrandawiad neu drwy sylwadau ysgrifenedig.

Rôl yr Arolygydd wrth ymdrin ag apeliadau yw cynnal ymchwiliadau a gwrandawiadau ac ymweld â safleoedd, gan ystyried tystiolaeth ysgrifenedig a llafar er mwyn gwneud penderfyniadau a resymir yn llawn.  

Wrth asesu cadernid dogfennau Cynlluniau Datblygu Lleol, rôl yr Arolygydd yw cynnal ymchwiliad o ran adnabod y materion i’w trafod ac ystyried y dystiolaeth a gyflwynir yn ysgrifenedig ac a glywir ar lafar.  

Llywodraethir rôl yr Arolygydd gan werthoedd Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru sef bod yn agored, teg a diduedd.

Lleolir ein Harolygwyr yn eu hardal eu hunain, ond gall ymchwiliadau, gwrandawiadau, ymweliadau safle ac archwiliadau cael eu gynnal yn y Dosbarth neu’r Sir lle y lleolir yr apêl. Felly mae teithio ac aros dros nos yn ofynnol weithiau. Efallai bydd gofyn hefyd i Arolygwyr ddod i’n swyddfeydd yng Nghaerdydd ar gyfer cyfarfodydd.

Yn gyffredinol, mae arolygwyr, neu ddarpar arolygwyr, wedi’u haddysgu i lefel gradd ac maent wedi meddu ar swyddi uwch yn ystod eu gyrfa. Byddant hefyd yn aelodau o gorff proffesiynol, ac yn gallu dangos dealltwriaeth neu werthfawrogiad o faterion cynllunio.

Staff gweinyddol

Mae'r rhan fwyaf o'n 26 aelod o staff gweinyddol yn gweithio yn ein swyddfa ym Mharc Cathays, Caerdydd.

Mae ein staff swyddfa gweinyddol yn ymgymryd ag ystod eang o swyddogaethau, gan gynnwys:

  • Ymdrin â’r cyhoedd, yn cydosod ffeiliau achos, cytuno ar ddyddiadau ar gyfer ymchwiliadau ac ymweliadau safle neu gyhoeddi penderfyniadau’r Arolygwyr;
  • Darparu cymorth uniongyrchol i Arolygwyr, yn enwedig mewn ymchwiliadau hir neu pan fydd angen ystyried nifer fawr o faterion;
  • Darparu swyddogaethau cymorth hanfodol yn ein meysydd 6echnoleg gwybodaeth, cyllid neu adnoddau dynol.

Mae gan ein staff gweinyddol ystod eang o sgiliau a, lle bo’n berthnasol,  rydym yn eu hannog ac yn eu cefnogi i ennill cymwysterau proffesiynol.

Swyddi gwag

Mae ein swyddi gwag presennol i'w gweld ar wefan Civil Service Jobs.

Mae Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru yn gyflogwr Cyfle Cyfartal. Croesewir ceisiadau am swyddi gan bawb sydd â’r cymwysterau addas beth bynnag fo’u rhywedd, statws priodasol, hil, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, oed, crefydd neu gredo. Mae gweithio’n rhan-amser hefyd yn cael ei ystyried.