Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma ddatganiad diwygiedig y prif amcangyfrifon ar gyfer swm a gwerth y teithiau undydd domestig a wnaed gan breswylwyr Prydain yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr yn 2021. Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn yn cwmpasu'r cyfnod o ddechrau mis Ebrill tan ddiwedd mis Rhagfyr 2021. Nid oes data ar gael ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr i fis Mawrth 2021, oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws (COVID-19) ar deithio yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r adroddiad yn cynnwys amcangyfrifon a manylion teithiau undydd yng Nghymru, ac ym Mhrydain Fawr at ddibenion cymharu.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn cyflwyno adroddiad ar ddau brif fesur ar gyfer teithiau undydd.

Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy

Teithiau gan oedolion a phlant sy'n teithio gyda'r oedolion hynny a barodd 3 awr neu fwy, gan gynnwys amser teithio yw'r rhain, er mwyn gwneud un gweithgaredd hamdden cymwys neu fwy.

Teithiau twristaidd undydd

Is-set o ymweliadau hamdden undydd 3 awr neu fwy yw'r rhain ac er mwyn cymhwyso fel taith dwristaidd undydd, rhaid iddynt ddiwallu'r meini prawf ychwanegol, sef eu bod yn digwydd yn llai aml nag unwaith yr wythnos a'u bod yn cynnwys ymweliad â lle y tu allan i'r awdurdod lleol y dechreuodd y daith ynddo.

Darperir rhagor o wybodaeth yn yr adran ar ddiffiniadau.

Caiff canlyniadau manwl ar gyfer Lloegr a'r Alban eu cyhoeddi gan VisitEngland a VisitScotland.

Defnyddir yr ystadegau hyn er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser. Fodd bynnag, mae'r newidiadau i fethodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â'r tarfu a fu i'r broses o gasglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu'r canlyniadau a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol. Cyfeiriwch at yr adran ar cymharedd a chydlyniaeth.

Caiff yr ystadegau hyn eu labeli'n ‘arbrofol’ er mwyn galluogi gwaith profi ac addasu pellach i ddiwallu anghenion y defnyddiwr. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rydym yn aw.yddus i wirio bod yr ystadegau twristiaeth newydd yn diwallu anghenion y defnyddwyr ac yn eich gwahodd i roi adborth ar yr wybodaeth yn yr allbwn hwn yn: YmchwilTwristiaeth@llyw.cymru.

Mae'r amcangyfrifon hyn wedi'u diwygio oherwydd nodwyd bod nifer o deithiau unigol yn cael effaith anghymesur ar gyfanswm y teithiau a'r gwariant a amcangyfrifir ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr. Mae capiau ar gyfer swm y teithiau a'r gwariant wedi'u defnyddio bellach i liniaru effaith anghymesur y teithiau hyn ar amcangyfrifon. Mae cyflwyno'r capiau wedi lleihau ychydig ar yr amcangyfrifon drwyddi draw yn y datganiad hwn. Pan fydd data mewn tabl neu siart wedi'u diwygio, nodir hyn yn nheitl y tabl neu'r siart.

Prif bwyntiau

Teithiau Cymru

  • Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 123.3 miliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr neu fwy yng Nghymru gyda £3.16 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 30% o'r teithiau hamdden undydd yng Nghymru yn deithiau twristaidd undydd gyda 37.4 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, gyda gwariant cysylltiedig o £1.33 biliwn.
  • Roedd tua 7% o holl deithiau hamdden undydd Prydain Fawr o 3 awr neu fwy a 6% o deithiau twristiaeth undydd yn cynnwys ymweliad yng Nghymru, tra bod y gyfran o gyfanswm gwariant Prydain Fawr ychydig yn is ar 6% ar gyfer teithiau hamdden undydd o 3 awr neu fwy a 5% ar gyfer teithiau twristaidd undydd.
  • Cafwyd cynnydd graddol yn y teithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru o fis Ebrill ymlaen. Roedd swm y teithiau a'r gwariant ar eu huchaf rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.
  • Y gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd o 3 awr neu fwy oedd £26 o'i gymharu â £36 ar gyfer teithiau twristaidd undydd yng Nghymru.

Teithiau Prydain Fawr

  • Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, gwnaeth preswylwyr Prydain Fawr 1,794 miliwn o deithiau hamdden undydd a barodd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr, gyda £55.4 biliwn yn cael ei wario yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 35% o'r teithiau hamdden undydd ym Mhrydain Fawr yn deithiau twristaidd undydd gyda 623.6 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn cael eu gwneud rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, gyda gwariant cysylltiedig o £24.9 biliwn.
  • Roedd 87% o'r teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr yn cynnwys ymweliad yn Lloegr, roedd 9% yn cynnwys ymweliad yn yr Alban ac roedd 6% yn cynnwys ymweliad yng Nghymru.
  • Cafwyd cynnydd graddol yn y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr o fis Ebrill 2021 ymlaen gydag uchafbwynt o 246.7 miliwn o deithiau yn cael eu gwneud yn ystod y trydydd chwarter (mis Gorffennaf i fis Medi 2021).
  • Swm y gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy oedd £31 o gymharu â £40 ar gyfer teithiau twristaidd undydd a wnaed ym Mhrydain Fawr.

Teithiau a gwariant i wledydd Prydain Fawr, 2021

Tabl 1: Cyfanswm y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a gwariant i wledydd Prydain Fawr (mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1]
Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy Prydain Fawr Lloegr Yr Alban Cymru
Teithiau (miliynau) 1793.6 1513.5 192.8 123.3
% Teithiau Prydain Fawr 100% 84% 11% 7%
Gwariant (£miliynau) £55,398 £46,554 £5,688 £3,156
% Gwariant Prydain Fawr 100% 84% 10% 6%

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai teithiau hamdden undydd yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.

Tabl 2: Cyfanswm y teithiau twristaidd undydd a gwariant i wledydd Prydain Fawr (mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1]
Teithiau twristaidd undydd Prydain Fawr Lloegr Yr Alban Cymru
Teithiau (miliynau) 623.6 545.5 55.1 37.4
% Teithiau Prydain Fawr 100% 87% 9% 6%
Gwariant (£miliynau) £24,941 £21,188 £2,420 £1,333
% Gwariant Prydain Fawr 100% 85% 10% 5%

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai teithiau twristaidd undydd yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad

Yn y cyfnod rhwng dechrau mis Ebrill a diwedd mis Rhagfyr 2021, cafodd 1,794 miliwn o deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy eu gwneud ym Mhrydain Fawr gan breswylwyr Prydain gyda chyfanswm gwariant o £55.4 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 123.3 miliwn o deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy eu gwneud yng Nghymru gyda chyfanswm gwariant o £3.16 biliwn. Cafodd tua 7% o'r holl deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy gan breswylwyr Prydain eu gwneud yng Nghymru, o gymharu ag 84% a wnaed yn Lloegr ac 11% a wnaed yn yr Alban. Roedd cyfran cyfanswm y gwariant yng Nghymru yn is ar 6% oherwydd y gwariant cyfartalog is ar deithiau a wnaed yng Nghymru.

Cafodd 623.6 miliwn o deithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr eu gwneud gan breswylwyr Prydain o fis Ebrill i fis Rhagfyr 2021 gyda chyfanswm gwariant o £24.9 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 37.4 miliwn o deithiau twristaidd undydd eu gwneud yng Nghymru gyda gwariant o £1.33 biliwn. Roedd teithiau twristaidd undydd yn cyfrif am 30% o'r teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed yng Nghymru a 42% o'r gwariant.

Nodweddion teithiau Prydain Fawr a Chymru

Tabl 3: Gwariant cyfartalog ar gyfer teithiau undydd a gymerwyd ym Mhrydain Fawr a Chymru (mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021, diwygiedig)
Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy Prydain Fawr Cymru
Gwariant fesul taith £31 £26
Teithiau twristaidd undydd Prydain Fawr Cymru
Gwariant fesul taith £40 £36

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

Mae gwariant cyfartalog ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a theithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru yn is na Phrydain Fawr gyda gwariant cyfartalog fesul taith o £26 a £36, yn y drefn honno. Yn arbennig, ceir gwariant cyfartalog uwch ar deithiau twristaidd undydd na theithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr ac yng Nghymru.

Maint cyfartalog parti oedd 2.9 o oedolion a phlant ar deithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021 gydag 20% o deithiau'n cael eu gwneud gan deithwyr unigol, 41% gan 2 unigolyn a 39% gan bartïon teithio o 3 unigolyn neu fwy.

Tabl 4: Swm y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy a wnaed ym Mhrydain Fawr ac yng Nghymru yn ôl y prif weithgaredd a wnaed mewn miliynau (mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021, diwygiedig)
Y prif weithgaredd a wnaed Teithiau Prydain Fawr Teithiau Cymru
Ymweld â ffrindiau neu berthnasau  676.6 44.4
Bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol 230.5 15.7
Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored 192.8 14.5
Cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau 177.2 13.6
Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd  116.9 11.7
Mynd i atyniad i ymwelwyr  144.7 9.6
Mynychu digwyddiad neu ddathliad arbennig 93.3 6.8
Mynychu digwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu 64.2 2.1
Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant 29.9 1.4
Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant 22.4 1.3
Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod 45.0 2.4

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

Ffigur 1: Cyfran y teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif weithgaredd wnaed, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart fariau glystyrog yn dangos mai ymweld â ffrindiau neu berthnasau oedd y prif weithgaredd a wnaed amlaf ar deithiau hamdden undydd o 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

Roedd 36% o’r teithiau a wnaed yng Nghymru a 38% o’r teithiau a wnaed ym Mhrydain Fawr yn ymwneud ag ymweld â ffrindiau neu berthnasau. Yr ail brif weithgaredd mwyaf poblogaidd a wnaed ar deithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy ym Mhrydain Fawr a Chymru oedd bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol, gyda chymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored yn dilyn hynny.

Tabl 5: Swm y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr ac yng Nghymru yn ôl y prif weithgaredd a wnaed mewn miliynau (mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1]
Y prif weithgaredd a wnaed Teithiau Prydain Fawr Teithiau Cymru
Ymweld â ffrindiau neu berthnasau  195.6 9.7
Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd  58.6 5.8
Bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol 79.0 5.3
Mynd i atyniad i ymwelwyr  101.5 4.2
Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored 44.7 4.0
Cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau 30.2 2.8
Mynychu digwyddiad neu ddathliad arbennig 36.2 2.3
Mynychu digwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu 41.6 1.7
Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant 15.9 0.5
Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant 5.1 0.2
Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod 15.3 0.9

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

[Nodyn 1] Meintiau sylfaen isel ar gyfer ‘Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant’, ‘Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod’, a ‘Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant’ - dylid trin y data yn ofalus.

Ffigur 2: Cyfran y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif weithgaredd a wnaed, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart fariau glystyrog yn dangos mai ymweld â ffrindiau neu berthnasau oedd y prif weithgaredd a wnaed amlaf ar deithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

Roedd 26% o’r teithiau a wnaed yng Nghymru a 31% o’r teithiau a wnaed ym Mhrydain Fawr yn ymwneud ag ymweld â ffrindiau neu berthnasau. Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd oedd yr ail weithgaredd mwyaf poblogaidd a wnaed yng Nghymru, ond ymweld ag atyniad oedd yr ail weithgaredd mwyaf poblogaidd a wnaed ym Mhrydain Fawr. Y trydydd prif weithgaredd mwyaf poblogaidd a wnaed ar deithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru oedd bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol.

Bydd gweddill y datganiad hwn yn canolbwyntio ar nodweddion ymweliadau twristaidd undydd. Er mwyn cymhwyso fel ymweliad twristaidd undydd, rhaid iddo fodloni'r meini prawf ychwanegol, sef ei fod yn digwydd yn llai aml nag unwaith yr wythnos a’i fod yn cynnwys ymweliad â lle y tu allan i'r awdurdod lleol y dechreuodd y daith ynddo.

Nodweddion manwl teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru

Ffigur 3: Swm a chyfran y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif leoliad, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021 (diwygiedig) [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofnau glystyrog yn dangos mai teithiau i ddinasoedd mawr/trefi mawr oedd y gyfran fwyaf o deithiau ym Mhrydain Fawr a theithiau yng Nghymru.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

[Nodyn 1] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed i bob lleoliad mewn miliynau. Er enghraifft, rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, gwnaed 11.1 miliwn o deithiau twristaidd undydd i drefi bach yng Nghymru.

Roedd ychydig dros 6 o bob 10 taith dwristaidd undydd yng Nghymru i gyrchfannau trefol. Fodd bynnag, cafodd cyfran uwch o deithiau twristaidd yng Nghymru eu gwneud i ardaloedd glan môr ac arfordirol a threfi bach, ond gwnaed cyfran is i ddinasoedd a threfi mawr, o gymharu â Phrydain Fawr i gyd. Roedd y gwariant cyfartalog fesul taith gryn dipyn yn uwch ar gyfer teithiau twristaidd undydd a wnaed mewn dinasoedd a threfi mawr yng Nghymru (£51) o gymharu â chyfartaledd o £36 ym mhob math o gyrchfan yng Nghymru.

Ffigur 4: Swm a chyfran y teithiau twristaidd undydd a gwariant lle mai un o ranbarthau Cymru yw'r prif leoliad yr ymwelwyd ag ef, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021 (diwygiedig) [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart golofnau glystyrog yn dangos mai De-ddwyrain Cymru gafodd y nifer fwyaf o deithiau a'r gwariant uchaf gan breswylwyr Prydain Fawr, ymhlith rhanbarthau Cymru.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

[Nodyn 1] Maint sylfaen isel ar gyfer Canolbarth Cymru, dylid trin y data yn ofalus.

[Nodyn 2] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru mewn miliynau, a’r swm a wariwyd ar deithiau twristaidd undydd yng Nghymru mewn miliynau o bunnoedd, ar gyfer pob rhanbarth o Gymru. Er enghraifft, rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, gwnaed 2.3 miliwn o deithiau twristaidd undydd i Ganolbarth Cymru.

Mae'n bosibl y bydd teithiau twristaidd undydd yng Nghymru yn cynnwys rhanbarth o Gymru, neu ardal y tu allan i Gymru, fel prif gyrchfan y daith undydd. De-ddwyrain Cymru oedd prif gyrchfan 36% o'r teithiau twristaidd undydd yng Nghymru. De-orllewin Cymru a Gogledd Cymru oedd y prif gyrchfan ar gyfer 24% o deithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru, a Chanolbarth Cymru oedd y prif gyrchfan ar gyfer 6% o'r teithiau a wnaed. Bydd meintiau poblogaeth perthynol rhanbarthau Cymru yn dylanwadu ar y patrwm hwn. Roedd tua 11% o'r teithiau undydd yng Nghymru yn cynnwys prif leoliad yr ymwelwyd ag ef a oedd y tu allan i Gymru.

Proffil yr ymwelwyr sy'n gwneud teithiau twristaidd undydd yng Nghymru

Tabl 6: Swm y teithiau twristaidd undydd a chyfanswm gwariant yng Nghymru yn ôl gwlad breswyl ymwelwyr (mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1]
  Teithiau (miliynau) Gwariant (£miliynau) % teithiau Cymru
Lloegr 17.5 £673 47%
Yr Alban 0.3 £6 1%
Cymru 19.6 £651 52%

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

[Nodyn 1] Maint sylfaen isel ar gyfer yr Alban, dylid trin y data yn ofalus.

Preswylwyr o Gymru oedd yn gyfrifol am ychydig dros hanner yr holl deithiau twristaidd undydd yng Nghymru, a phreswylwyr o Loegr oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o weddill y teithiau. Roedd ychydig islaw hanner cyfanswm y gwariant ar deithiau twristaidd undydd yng Nghymru gan breswylwyr o Gymru.

Ffigur 5: Swm a chyfran y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl grŵp oedran, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021 (diwygiedig) [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart golofnau glystyrog yn dangos mai ymwelwyr 55 oed neu’n hŷn oedd y grŵp oedran mwyaf ymhlith ymwelwyr domestig â Phrydain Fawr, ond yng Nghymru, y grŵp oedran mwyaf oedd 25-34 oed.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

[Nodyn 1] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y teithiau twristaidd undydd a wnaed gan bob grŵp oedran mewn miliynau. Er enghraifft, rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, gwnaeth ymwelwyr 55 oed neu’n hŷn 6.5 miliwn o deithiau twristaidd undydd i Gymru.

Roedd ymwelwyr o'r grŵp oedran 55 oed neu'n hŷn yn cynrychioli cyfran uwch o ymwelwyr â Phrydain Fawr na Chymru, tra bod ymwelwyr rhwng 16 a 34 oed yn cynrychioli cyfran uwch o ymwelwyr â Chymru na Phrydain Fawr.

Tabl 7: Swm y teithiau twristaidd undydd a gwariant ym Mhrydain Fawr fesul chwarter yr ymweliadau (mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021, diwygiedig)
  Teithiau Prydain Fawr (miliynau) Gwariant Prydain Fawr (£miliynau)
Ebrill i Fehefin 147.3 £4,309
Gorffennaf i Fedi 246.7 £10,254
Hydref i Ragfyr 229.7 £10,379

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

Ffigur 6: Swm y teithiau twristaidd undydd mewn miliynau ym Mhrydain Fawr fesul chwarter yr ymweliadau, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart golofnau yn dangos y cafwyd cynnydd graddol yn y teithiau twristaidd undydd ym Mhrydain Fawr o fis Ebrill i fis Mehefin 2021 ymlaen, gyda swm y teithiau twristaidd undydd yn codi i'w lefel uchaf yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

Gwnaed ychydig yn llai na 250 miliwn o deithiau yn ystod y cyfnod o fis Gorffennaf i fis Medi. Roedd gwariant ar ei uchaf ar gyfer y chwarter olaf, sef mis Hydref i fis Rhagfyr 2021, gyda gwariant o £10.4 biliwn ar ymweliadau twristaidd undydd Prydain Fawr, sydd yn fwy na dwywaith lefel y gwariant ym mis Ebrill i fis Mehefin.

Tabl 8: Swm y teithiau twristaidd undydd yng Nghymru fesul chwarter yr ymweliadau 2021 (mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021, diwygiedig)
  Teithiau Cymru (miliynau) Gwariant Cymru (£miliynau)
Ebrill i Fehefin 8.3 £273
Gorffennaf i Fedi 16.3 £540
Hydref i Ragfyr 12.8 £520

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

Ffigur 7: Swm y teithiau twristaidd undydd yng Nghymru fesul chwarter yr ymweliadau 2021, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart golofnau yn dangos y cafwyd cynnydd graddol yn y teithiau twristaidd undydd a wnaed yng Nghymru o fis Ebrill i fis Mehefin ymlaen, a chafwyd y swm uchaf o deithiau rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.

Ffynhonnell: Arolwg o Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021

Gwnaed 16.3 miliwn o deithiau twristaidd undydd yn ystod y cyfnod o fis Gorffennaf i fis Medi, gan gynhyrchu £540 miliwn mewn gwariant.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diffiniadau

Defnyddir dau brif fesur ar gyfer teithiau undydd yn yr adroddiad hwn.

Teithiau hamdden undydd 3 awr neu fwy

Teithiau gan oedolion a phlant sy'n teithio gyda'r oedolion hynny a barodd 3 awr neu fwy, gan gynnwys amser teithio, er mwyn gwneud un gweithgaredd hamdden cymwys neu fwy. Ni chaiff unrhyw deithiau dros nos eu cynnwys, na theithiau dydd o leoliad llety gwyliau.

Teithiau twristaidd undydd

Is-set o ymweliadau hamdden undydd 3 awr neu fwy yw'r rhain ac er mwyn cymhwyso fel teithiau twristaidd undydd, rhaid iddynt ddiwallu'r meini prawf ychwanegol, sef eu bod yn digwydd yn llai aml nag unwaith yr wythnos a'u bod yn cynnwys ymweliad â lle y tu allan i'r awdurdod lleol y dechreuodd y daith ynddo. Mae'r gofyniad i deithio i awdurdod lleol gwahanol yn cwmpasu'r rhan fwyaf o weithgareddau ac eithrio teithiau lle mai'r prif weithgaredd yw gwylio digwyddiadau chwaraeon byw, mynd i atyniadau i ymwelwyr neu fynd i ddigwyddiadau cyhoeddus. Mae'r rhain yn gymwys fel ymweliadau twristaidd undydd hyd yn oed os cânt eu gwneud yn yr un awdurdod lleol.

Gweithgareddau Hamdden Cymwys

  • Ymweld â ffrindiau neu berthnasau.
  • Mynd i atyniad i ymwelwyr, fel tŷ hanesyddol, parc thema neu amgueddfa.
  • Cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau hamdden awyr agored.
  • Mynd i weld atyniadau ac archwilio ardaloedd.
  • Cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau.
  • Cymryd rhan mewn profiad iechyd neu lesiant.
  • Mynd i ddigwyddiad neu ddathliad arbennig (fel priodas neu ben-blwydd).
  • Mynd i ddigwyddiad cyhoeddus wedi'i drefnu (fel arddangosfa neu chwaraeon byw).
  • Mynd i brofiad celfyddydol, diwylliannol neu adloniant (fel amgueddfa).
  • Bwyd a diod, noson allan neu siopa arbenigol.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb eu crybwyll uchod.

Diffiniadau eraill a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn

Swm

Amcangyfrif o beth fyddai nifer gros y teithiau undydd a wneir gan y boblogaeth petai sampl yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr. Mae swm y teithiau a adroddir yn amcangyfrif o deithiau gan unigolion, felly byddai parti teithio o ddau o bobl yn cyfrif fel dwy daith unigol.

Gwerth

Amcangyfrif o beth fyddai cyfanswm y gwariant ar deithiau undydd gan y boblogaeth petai sampl yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr.

Mae'r diffiniadau hyn a'r meini prawf cymhwyso cysylltiedig wedi'u diwygio fel rhan o arolwg cyfunol newydd Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr/Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr er mwyn bod yn gyson â'r safonau rhyngwladol y cytunwyd arnynt. Mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar y gallu i gymharu amcangyfrifon o'r teithiau domestig undydd a gyhoeddwyd ar gyfer 2021 â'r rhai a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Methodoleg

Yn 2019, cynhaliodd Croeso Cymru, VisitScotland a VisitEngland adolygiad o'r gofynion a'r dulliau ar gyfer cynhyrchu ystadegau twristaidd domestig swyddogol Prydain Fawr, er mwyn sicrhau bod y dulliau casglu data yn addas ar gyfer y dyfodol, ond gan gynnal dibynadwyedd a chadernid yr wybodaeth a gyflwynir. O ganlyniad, cyflwynwyd newidiadau sylweddol fel rhan o arolwg ar-lein cyfunol newydd a oedd yn casglu data ar deithiau dros nos domestig, yn ogystal â theithiau dydd domestig.

Mae'r sampl ar gyfer yr arolwg ar-lein cyfunol newydd wedi'i dylunio heb ystyried tebygolrwydd ac fe'i darparwyd gan 4 darparwr panel ar-lein a achredwyd gan ESOMAR. Mae'n cynnwys cwotâu ar gyfer newidynnau demograffig allweddol er mwyn sicrhau bod y sampl gyffredinol yn cynrychioli poblogaeth Prydain Fawr cystal â phosibl. Maint y sampl flynyddol darged ar gyfer yr arolwg o ymwelwyr dros nos yw 35,000 o gyfweliadau wedi'u cwblhau. Dechreuodd y gwaith maes ar gyfer yr arolwg newydd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill 2021 a nifer y cyfweliadau a gyflawnwyd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021 yw 29,226 o gyfweliadau ar gyfer preswylwyr Prydain Fawr, gan gynnwys 4,343 o gyfweliadau â phreswylwyr Cymru. Ni fydd pob unigolyn y cyfwelir ag ef wedi gwneud taith undydd gymwys ac felly mae'r meintiau sylfaen a ddefnyddiwyd ar gyfer amcangyfrif teithiau yn is na nifer y cyfweliadau. Caiff y meintiau sylfaen eu cyhoeddi yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2021 GBDVS.

Fel rhan o'r newidiadau i'r arolwg, cyflwynwyd cynllun pwysoliad diwygiedig i wella effeithlonrwydd, ac i wneud y canlyniadau mor gynrychioliadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae'r defnydd o sampl ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd yn cyfyngu ar y graddau y mae ymatebion yr arolwg yn cynrychioli poblogaeth lawn Prydain Fawr, cyfyngiad sy'n gyffredin i arolygon sampl ar-lein tebyg. Mae'r cynllun pwysoliad newydd yn defnyddio Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol yr Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sydd wedi'i fapio i raddau cymdeithasol bras at ddiben cwotâu a phwysoliadau mewn perthynas â phoblogaeth Prydain Fawr. Bydd y newid i ddefnyddio NS-SEC fel ffynhonnell ystadegau'r boblogaeth yn effeithio ar y broses o amcangyfrif a chyflwyno adroddiadau ar deithiau o gymharu â'r dull adrodd graddau cymdeithasol blaenorol a ddefnyddiwyd ar gyfer Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn 2019 a blynyddoedd blaenorol. Rydym yn bwriadu cyflwyno cwestiwn newydd yn yr arolwg yn ystod 2023 sy'n cofnodi incwm aelwydydd a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ac adrodd ar deithiau a gymerwyd gan fandiau incwm aelwydydd gwahanol o 2023 ymlaen.

Mae rhagor o fanylion am y newidiadau i ddull yr arolwg, dylunio'r sampl,r dulliau amcangyfrif ac effeithiau’r capiau a ddefnyddir ar gael yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2021 GBDVS.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae ystadegau ar gyfer teithiau undydd Prydain Fawr wedi cael eu casglu mewn ffordd gymharol debyg ers 2011. Fodd bynnag, mae'r newidiadau i fethodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â'r tarfu a fu i'r broses o gasglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu'r canlyniadau a gyhoeddwyd o fis Ebrill 2021 ymlaen yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Roedd yr amcangyfrifon o symiau ar gyfer 2021 yn cynnwys teithiau gan oedolion Prydain Fawr a phlant a oedd yn teithio gyda nhw, ond teithiau gan oedolion yn unig oedd yn cael eu hamcangyfrif gan y symiau teithiau undydd a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Fel rhan o'r arolwg, gofynnwyd i ymatebwyr am unrhyw deithiau undydd a wnaed ganddynt yn ystod y 7 diwrnod cyn dyddiad eu cyfweliad (cyfnod cyfeirio). Cyflwynir amcangyfrifon teithiau a gwariant ar gyfer misoedd calendr unigol, yn ogystal ag ar gyfer cyfnodau chwarterol a blynyddol. Gan nad yw cyfnodau cyfeirio cyfweliadau yn cyfateb yn union â misoedd calendr, caiff addasiad ei wneud gan ddefnyddio ‘ffactor lliniaru tymhorol’ i wella'r cymariaethau misol o fewn blynyddoedd a rhyngddynt. Mae'r amcangyfrifon misol yn destun cyfyngiadau o ran maint y sampl ac amrywiadau tymhorol yn y teithiau a wneir drwy gydol y flwyddyn. Bydd unrhyw gyfyngiadau yn sgil COVID-19 hefyd wedi dylanwadu ar batrwm misol yr ymweliadau yn 2021 a wnaeth gyfyngu ar deithio ar adegau gwahanol o'r flwyddyn, yn ogystal â hyder y cyhoedd i ymgymryd â gweithgareddau hamdden gwahanol. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o'r cyfyngiadau hyn wrth wneud cymariaethau misol neu chwarterol.

Cywirdeb

Cafodd yr ystadegau a gynhyrchwyd o Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn 2019 a blynyddoedd blaenorol eu dynodi'n ystadegau swyddogol, sy'n rhoi tawelwch meddwl i ddefnyddwyr y caiff yr ystadegau eu cynhyrchu i'r safonau proffesiynol uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth, a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Swyddfa Ystadegau Gwladol) Oherwydd y newidiadau mewn methodoleg ac effaith pandemig COVID-19, cafodd canlyniadau'r arolwg ar gyfer 2021 eu labelu fel ystadegau arbrofol’ (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae'r arolwg a'r ystadegau newydd wedi bod yn destun rhaglen gynhwysfawr o waith sicrhau ansawdd, sy'n cynnwys treialu'r arolwg, dadansoddi newidiadau i ddiffiniadau o deithiau, profi effaith y cynllun pwysoli newydd ac adolygiad o derfynau a rheolau priodoli. Mae newidiadau i fethodoleg a dulliau amcangyfrif yr arolwg wedi ystyried adolygiad a chyngor a roddwyd gan Wasanaeth Ymgynghori ar Fethodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gan fod yr ystadegau wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio dull arolwg ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd, maent yn destun cyfyngiadau a ffynonellau tuedd a gwallau posibl sy'n gysylltiedig ag arolygon o'r fath. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwall o ran cyrhaeddiad gan nad oes gan ran o boblogaeth Prydain Fawr fynediad i'r we
  • gwall samplu gan fod sampl yn cael ei defnyddio i fesur ymddygiad poblogaeth lawn Prydain Fawr
  • tuedd samplu drwy gynnwys y gwahaniaethau rhwng pobl â mynediad ar-lein ac sy'n aelodau o banel ar-lein o gymharu â phobl nad ydynt
  • gwall mesur wrth i ymatebwyr gofnodi gwerthoedd anghywir
  • gwall dim ymateb gan gynnwys pobl yn gwrthod llenwi'r arolwg a phobl yn tynnu allan a'r opsiynau ‘ddim yn gwybod’ a ‘gwell gennyf beidio â dweud’ a oedd ar gael

Caiff data'r Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr eu pwysoli i gywiro unrhyw amherffeithrwydd yn y sampl a gyflawnwyd a allai arwain at duedd ac i unioni unrhyw wahaniaethau rhwng y sampl a phoblogaeth darged Prydain Fawr. Mae'r arolwg yn defnyddio cymysgedd o baneli ar-lein achrededig er mwyn lliniaru ar gyfer tueddiadau penodol posibl o ran paneli, ac mae'r cymysgedd o baneli yn parhau'n gyson dros amser. Defnyddir cwotâu demograffig i gysoni'r sampl â phoblogaeth Prydain Fawr. Mae sgript yr arolwg a'r trefniadau prosesu data yn cynnwys gwiriadau wedi'u teilwra er mwyn dilysu cywirdeb yr ymatebion. Defnyddir dulliau priodoli i ymdrin â data coll a defnyddir terfynau i leihau effaith y gwerthoedd eithafol a gofnodir. Defnyddiwyd capiau pellach ar gyfer y datganiad diwygiedig hwn, er mwyn lliniaru effaith teithiau unigol a nodwyd fel rhai sy'n cael effaith anghymesur ar swm amcangyfrifedig y teithiau a’r gwariant. Nid oes modd mesur gwallau sampl safonol gan mai sampl nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd a ddefnyddir, ond caiff meintiau sylfaen eu nodi ar gyfer teithwyr cymwys a chynghorir defnyddwyr i ystyried y meintiau sylfaen bach ac i fod yn ofalus, yn enwedig ar gyfer data misol a daearyddiaeth lefel is, wrth iddynt lunio casgliadau o'r ystadegau.

Darperir rhagor o fanylion am sicrhau ansawdd a meintiau sylfaen teithiau yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2021 GBDVS.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn yn Llywodraeth Cymru a'r tu allan iddi er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser. Bydd yr amcangyfrifon ar gyfer 2021 yn rhoi gwybodaeth am effaith COVID-19 ar lefelau ymwelwyr ac yn darparu llinell sylfaen ar gyfer mesur perfformiad ar draws blynyddoedd dilynol.

Cyn belled â phosibl, mae arolwg cyfunol newydd Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr yn darparu cysondeb â'r wybodaeth flaenorol a gasglwyd, ond mae cwestiynau newydd yn cofnodi gwybodaeth well am y gweithgareddau a gyflawnir a phroffiliau ymatebwyr gan gynnwys nodweddion gwarchodedig. Rhagwelir y bydd yr wybodaeth ychwanegol hon o werth i ddefnyddwyr amrywiol yr arolwg. Caiff yr holiadur presennol ei gynnwys yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2021 GBDVS.

Mae noddwyr yr arolwg yn bwriadu ymgysylltu â defnyddwyr blaenoriaeth yr ystadegau er mwyn cadarnhau bod yr wybodaeth o'r arolwg newydd yn diwallu eu hanghenion ac rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i roi adborth ar y data a'r allbwn hwn yn ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r holl allbynnau yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer drwy gyhoeddi dyddiad y cyhoeddiad ymlaen llaw drwy'r calendr o ddigwyddiadau i ddod. At hynny, os bydd angen gohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn y datganiad ar ddiwygiadau, gwallau a gohiriadau. Anelwn at gyhoeddi data cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod amser ymchwil perthnasol. Mae'r tarfu a fu ar arolwg cyfunol newydd Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr oherwydd COVID-19 a'r profion cynhwysfawr a'r dulliau sicrhau ansawdd a roddwyd ar waith ar gyfer yr ystadegau newydd wedi arwain at gyflwyno adroddiad ar ystadegau 2021 yn hwyrach na'r arfer. Rhagwelir y bydd canlyniadau Cymru yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi'n chwarterol er mwyn sicrhau y caiff yr amcangyfrifon eu cefnogi gan feintiau sylfaen teithiau cadarn. Bydd amseroedd cyhoeddi penodol yn cael eu nodi ar wefan Llywodraeth Cymru, ond y nod yw cyhoeddi ystadegau chwarterol i Gymru ryw 9 i 10 wythnos ar ôl diwedd pob chwarter.

Rhagor o wybodaeth

Manylion cyswllt

Ystadegydd: David Stephens
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 238/2022(R)