Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Aberhonddu, Llanbedr Pont Steffan, Llandrindod, Llandysul, y Drenewydd a Thregaron i gyd yn elwa ar fuddsoddiad newydd gan Lywodraeth Cymru. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi cyllid o £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cronfa newydd gwerth £2.14 miliwn, sef y Gronfa Buddsoddi mewn Eiddo yng Nghanol Trefi, ar draws cynghorau Powys a Cheredigion. Bydd y gronfa yn adfer safleoedd masnachol, preswyl a manwerthu gwag ar draws y 6 thref hyn yn y canolbarth.

Dywedodd Hannah Blythyn: 

Rwyf eisiau cefnogi busnesau lleol, datblygu ein canol trefi gwych a chreu swyddi yn y canolbarth. Bydd creu mwy o safleoedd masnachol a manwerthu o safon yn helpu i gyflawni hyn, yn ogystal â chreu cartrefi yn ein canol trefi er mwyn bobl allu byw a gweithio'n ganolog a chyfrannu at yr economi leol. 

Bydd y gronfa hon yn fodd i greu cyfleoedd drwy ddefnyddio eiddo gwag ac yn denu mwy o bobl i'n canol trefi. Edrychaf ymlaen at weld gwaith adnewyddu cyffrous a gweld busnesau'n tyfu ac yn ffynnu mewn trefi ar draws Ceredigion a Phowys o ganlyniad.

Bydd y gronfa yn becyn o gymorth sy'n cynnwys benthyciadau, buddsoddiad preifat a grantiau, a bydd y rheini sy'n gwneud cais am gymorth yn gorfod dangos eu bod wedi rhoi ystyriaeth briodol i'r opsiynau eraill sydd eisoes yn bodoli ar gyfer grantiau a benthyciadau cyn dilyn y llwybr hwn. 

Bydd Cyngor Sir Powys yn rheoli'r broses o weinyddu'r rhaglen.  

Dywedodd y Cynghorydd Martin Weale, yr Aelod Cabinet dros Adfywio yng Nghyngor Sir Powys: 

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein canol trefi yn lleoedd atyniadol a bywiog i bobl fyw, gweithio ac ymweld â nhw. Bydd y cyhoeddiad heddiw yn hwb mawr i'r trefi unigol ac yn cefnogi eu busnesau lleol.

Bydd y cyllid hefyd ein cefnogi ein dyheadau ehangach i gryfhau'r economi gyfan drwy ysgogi gwaith adfywio ac adeiladu ar y prosiectau buddsoddi mawr sydd ar waith gan y cyngor ar hyn o bryd ac yn yr arfaeth. Mae tîm adfywio'r cyngor yn gweithio'n galed ar y prosiectau hyn ac yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio yng Nghyngor Sir Ceredigion:

Mae Llandysul, Tregaron a Llanbedr Pont Steffan yn llawer mwy na briciau a morter. Maent yn gartrefi i gymunedau bywiog sy'n frwdfrydig iawn am eu rhan nhw o Geredigion. Mae angen i ni wyrdroi'r dirywiad yn ein canol trefi er mwyn i'r cymunedau hyn allu ffynnu yn y dyfodol. Mae'r Gronfa Buddsoddi mewn Eiddo yng Nghanol Trefi yn help mawr i gyflawni hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cael effaith wirioneddol.

Mae'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'r rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio, sy'n darparu £100 miliwn o gyllid cyfalaf ar draws y wlad dros dair blynedd er mwyn cefnogi prosiectau adfywio mewn canol trefi ac ardaloedd cyfagos. 

Caiff y cyllid hwn ei ategu gan fuddsoddiad pellach o tua £60 miliwn o leiaf gan sefydliadau a busnesau eraill, gan ddarparu hwb cyffredinol o £160 miliwn i gymunedau ar draws Cymru.