Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i ni ddechrau cyfri y 100 diwrnod i lawr tan gêm gyntaf Cwpan y Byd Cymru mewn 64 o flynyddoedd, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio cronfa gwerth £1.5 miliwn i hyrwyddo a dathlu Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y gronfa yn cefnogi amrywiol sefydliadau o ddiwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a'r cyfryngau ar gyfer gweithgareddau i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd. Gallai hyn gynnwys gweithgaredd i hyrwyddo Cymru yn fyd-eang, darparu digwyddiadau i gymryd rhan mewn chwaraeon, cysylltu â'r Cymry ar wasgar, neu helpu cefnogwyr i ddathlu'r gemau yma yng Nghymru a ledled y byd.

Mae Cronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd yn un rhan o'r gweithgareddau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynllunio i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sy'n deillio o gyfranogiad cyffrous Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA yn Qatar yn ddiweddarach eleni.

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r twrnamaint byd-eang i hyrwyddo Cymru i'r byd, gan amlygu gwerthoedd ein gwlad a sicrhau gwaddol gadarnhaol a pharhaol i Gymru a phêl-droed Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

"Wrth i ni gyrraedd y garreg filltir o 100 diwrnod, gallwch wir deimlo'r cyffro yng Nghymru. Dwi methu aros i fod yn rhan o'r Wal Goch yn Qatar!

"Dwi'n falch iawn i lansio'r gronfa £1.5 miliwn hon heddiw, a fydd yn helpu ein partneriaid i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle cyffrous hwn a rhoi hwb i broffil Cymru a sicrhau manteision gwirioneddol i Gymru.

"Mae cyfranogiad Cymru mewn digwyddiadau chwaraeon byd-eang yn un o'r cyfleoedd gorau un i hybu proffil ein gwlad a dangos i'r byd fod Cymru yn wlad agored, groesawgar ac uchelgeisiol.

"Mae tîm pêl-droed dynion Cymru yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd FIFA yn y cyfle pwysicaf i farchnata ac ar gyfer diplomyddiaeth chwaraeon a gafwyd erioed, a byddwn yn gwneud y mwyaf ohono.

"Rydym yn chwilio am syniadau cyffrous, arloesol ac effeithiol fydd yn gwneud i Gymru sefyll allan yn ystod Cwpan y Byd.

Gellir gofyn am ffurflen gais drwy e-bostio TimCymru.CwpanYByd22@llyw.cymru.