Bydd meithrinfeydd dydd ar gyfer plant yng Nghymru yn cael eu rhyddhau rhag talu ardrethi annomestig o fis Ebrill 2019, yn ôl cyhoeddiad gan Weinidogion heddiw
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, a'r Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies, heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu rhyddhad ardrethi o 100% i bob eiddo cofrestredig sy'n darparu gofal plant.
Amcangyfrifir y bydd y cynllun yn darparu cymorth ychwanegol gwerth £7.5 miliwn i ddarparwyr gofal plant dros dair blynedd. Bydd ei effaith yn cael adolygu.
Mae darparu gofal plant yng Nghymru yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Yn gynharach eleni, fe wnaethon ni gynyddu'r rhyddhad ardrethi i ddarparwyr gofal plant cofrestredig yng Nghymru. Gwyddom fod nifer sylweddol o fusnesau eisoes yn elwa ar hyn ond rydyn ni am wneud mwy eto.
"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd y sector gofal plant yng Nghymru yn cael ei ryddhau rhag talu ardrethi o fis Ebrill 2019 ymlaen. Bydd hyn yn helpu darparwyr gofal plant i sefydlu eu hunain yn fwy cadarn gan helpu'r sector i ffynnu a thyfu.
"Bydd hyn yn helpu i greu swyddi gofal plant newydd ac yn helpu i greu darpariaeth gofal plant o'r newydd a chynnal darpariaeth sydd eisoes ar gael ledled Cymru."
Dywedodd y Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies:
"Mae'r sector gofal plant wedi dweud wrthym y byddai cael eu rhyddhau yn llwyr rhag talu ardrethi annomestig yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i hyder eu busnes. Rydyn ni wedi gwrando ac wedi gweithredu ar hynny.
"Yn ychwanegol at y buddsoddiad mawr rydyn ni'n ei wneud ym maes gofal plant, a'r cymorth ry'n ni'n ei roi i'r sector dyfu, mae'r cyhoeddiad heddiw yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu sector gofal plant o'r safon uchaf yng Nghymru.
"Drwy wella'r cymorth sydd ar gael i'r sector gofal plant, byddwn yn ei gwneud hi'n haws eto i ddod o hyd i ddarpariaeth gofal plant gan gefnogi teuluoedd sy’n gweithio yng Nghymru, a’i gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i swyddi a'u cadw.”
Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen, yn ymrwymo Gweinidogion i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer rhieni plant tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn. Ar hyn o bryd, mae'r cynnig ar gael mewn hanner o'r awdurdodau lleol a bydd ar gael ledled y wlad erbyn 2020.
Amcangyfrifir bod y sector gofal plant yn gyfrifol am gynhyrchu tua £1.2 biliwn ar gyfer economi Cymru. Er mwyn cydnabod rôl economaidd y sector ac er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cynnig gofal plant, mae'r Gweinidogion yn blaenoriaethu buddsoddi er mwyn cefnogi twf ar draws y sector. Mae'r buddsoddiad yn cael ei ddatblygu ar ffurf cymorth pwrpasol i fusnesau ac er mwyn hybu sgiliau.
Nod Cynllun 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar a gafodd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2017, oedd proffesiynoli'r sector a chydnabod ei rôl wrth alluogi twf economaidd drwy gefnogi rhieni a gofalwyr i ddod o hyd i waith ac i gadw eu swyddi.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun newydd i roi rhyddhad ardrethi parhaol i fusnesau bach (SBRR) er mwyn helpu busnesau bach gyda'u hardrethi annomestig yn 2018; roedd hyn yn cynnwys cynyddu'r rhyddhad a oedd ar gael i ddarparwyr gofal plant cofrestredig.
Mae'r cynllun newydd ar gyfer eiddo sy'n cynnig gofal plant, sydd yn ei dro yn lleihau'r biliau ardrethi ar ddarparwyr gofal plant i sero, yn ddatblygiad pellach ar y cynllun SBRR.