Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r tocynnau am ddim ar gael i rai o'r llefydd mwyaf eiconig ledled y wlad ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi eleni, ond dim ond ychydig gannoedd sydd yn dal ar gael erbyn hyn.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

O gestyll arbennig i dyrau enfawr, bydd 10,000 o docynnau y gellir eu harchebu ymlaen llaw i 17 o leoedd hanesyddol sydd o dan ofal Cadw ar gael yn rhad ac am ddim Ddydd Gŵyl Dewi.

Fodd bynnag, oherwydd galw eithriadol, mae tocynnau ar gyfer y safleoedd canlynol eisoes wedi gwerthu allan: Baddondy Rhufeinig Caerllion, Castell Biwmares, Castell Caerffili, Castell Caernarfon, Castell Coch, Castell Conwy, Castell Cas-gwent Abaty Tyndyrn a Chastell Rhaglan.

Mae tocynnau cyfyngedig ar gael o hyd ar gyfer: Plas Mawr, Gwaith Haearn Blaenafon, Castell Cricieth, Castell Harlech, Castell Dinbych, Castell Cydweli, Llys yr Esgob, Tyddewi a Chastell a Llys Tretŵr.

Atgoffir ymwelwyr â Baddondy Rhufeinig Caerllion, Castell Coch, a Phlas Mawr mai dim ond ar yr amser a nodir ar eu tocyn y gallant fynd i mewn i'r safle, oherwydd eu capasiti.

Mae Cadw yn annog pobl i beidio ag ymweld â'r safleoedd hyn heb docyn wedi'i archebu ymlaen llaw neu aelodaeth Cadw, gan na fydd mynediad yn cael ei ganiatáu. Mae lleoedd parcio yn Castell Raglan yn gyfyngedig.

Yn hytrach na thalu i gael mynediad, mae Cadw yn gofyn i ymwelwyr ystyried rhodd wirfoddol i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r elusen sy'n gwasanaethu Cymru gyfan yn darparu gofal critigol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i'r rhai sydd angen cymorth brys. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i gyfrannu, er y bydd gwirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru ar y safle os yw ymwelwyr yn dymuno gwneud hynny.

Dywedodd Dr Kathryn Roberts, Prif Weithredwr Cadw:

Rydym wrth ein boddau bod cymaint o bobl wedi dewis sicrhau tocyn am ddim ac ymweld ag un o safleoedd gwych Cadw ar Ddydd Gŵyl Dewi i ddathlu ein nawddsant.

Er bod nifer cyfyngedig o docynnau ar gael ar gyfer rhai safleoedd o hyd, hoffem atgoffa pobl bod yn rhaid archebu ymlaen llaw neu fod ag aelodaeth Cadw ar gyfer dydd Sul yma.

Sut i hawlio eich tocynnau am ddim:

  1. Ewch i dudalen I ble hoffech chi fynd? Cadw a dewiswch y lle hanesyddol yr hoffech ymweld ag ef
  2. Cliciwch Archebu Tocynnau a dewiswch y math o docyn (er enghraifft, oedolyn, teulu, neu berson hŷn)
  3. Dewiswch Dydd Sul 1 Mawrth a slot amser
  4. Ychwanegwch eich tocynnau am ddim i'r fasged ac ewch i'r ddesg dalu
  5. Bydd eich tocynnau am ddim yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad e-bost rydych chi'n ei nodi wrth y ddesg dalu

Dewch â phrawf eich bod wedi archebu tocynnau ar ddiwrnod eich ymweliad.