Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Erbyn diwedd mis Rhagfyr, bydd bron i 100,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol wedi'u darparu ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, £120 miliwn i helpu i fynd i'r afael ag amseroedd aros. Mae'r cyllid hwn wedi arwain at ddarparu degau o filoedd o apwyntiadau ychwanegol, gan gynnwys slotiau ar y penwythnos, i gleifion ledled y wlad.

Mae'r cyllid hefyd yn helpu i ddarparu 20,000 yn fwy o lawdriniaethau cataract erbyn mis Mawrth 2026.

Mae ffigurau perfformiad y GIG heddiw yn dangos bod 6 bwrdd iechyd wedi gweld cyfanswm nifer y bobl sy'n aros am driniaeth yn gostwng ym mis Hydref.

Nid oes gan Fae Abertawe unrhyw gleifion yn aros blwyddyn neu fwy am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf, tra mai dim ond 1 a 6 sydd gan Bowys a Hywel Dda yn y drefn honno.

Roedd gostyngiad o 7.1% ym mis Hydref o'i gymharu â mis Medi yn nifer y bobl sy'n aros yn hirach na'r amser targed ar gyfer gwasanaethau diagnosteg.

Ym mis Hydref hefyd, cafodd 14,533 o gleifion y newyddion da nad oedd ganddyn nhw ganser.

Gostyngodd yr amser cyffredinol y bu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn aros i drosglwyddo pobl i staff adran achosion brys yr ysbyty bron i draean ym mis Tachwedd o'i gymharu â'r un mis y llynedd. Roedd oedi o dros awr hefyd i lawr 30% o'i gymharu â mis Tachwedd 2024.

Nid yw'r ffigurau diweddaraf ar gyfer gofal a gynlluniwyd yn cynnwys ystadegau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r adolygiad sy'n archwilio prosesau casglu data, sicrhau ansawdd ac adrodd Betsi Cadwaladr yn gwneud cynnydd da, ac mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi dweud ei fod am weld trefniadau adrodd cywir yn ôl ar waith cyn gynted â phosibl. Mae disgwyl i ffigurau perfformiad llawn y GIG gael eu hadfer o fis Ionawr ymlaen.

Daw'r ystadegau heddiw wrth i wasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng ledled Cymru weld galw mawr.

Gyda bron i 89,700 o dderbyniadau, mis Tachwedd 2025 a welodd y derbyniadau uchaf i'r holl adrannau achosion brys ar gyfer unrhyw fis Tachwedd ar gofnod.

Mae pobl yn cael eu hannog i ffonio 999 ar gyfer argyfyngau gwirioneddol yn unig ac i feddwl yn ofalus am ble i gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Pan fydd angen gofal brys, mae GIG 111 Cymru ar gael ar-lein neu dros y ffôn 24 awr y dydd, bob dydd, gan helpu i gynghori a chyfeirio pobl at y gwasanaeth cywir.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:

Mae darparu bron i 100,000 o apwyntiadau ychwanegol yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld yn gynt – dyna beth mae'r cyhoedd ei eisiau a'r hyn rydyn ni'n gweithio i'w gyflawni.

Rwyf hefyd yn falch ein bod ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o lawdriniaethau cataract erbyn mis Mawrth 2026. Ym mis Medi, fe wnes i ymweld â'r uned cataract yn Ysbyty Llandochau ac mae ymroddiad y staff i gyflawni hyn yn glir.

Rydyn ni'n gwybod bod y gaeaf yn rhoi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd, ac mae'n hanfodol bod pawb yn ystyried yn ofalus pa wasanaeth sy'n iawn iddyn nhw. Mae GIG 111 yno 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i helpu, ac mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae wrth gefnogi ein gwasanaethau iechyd.

Bydd staff iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio drwy gydol cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, fel bob amser, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymrwymiad parhaus i ddarparu'r gofal gorau posibl.