Neidio i'r prif gynnwy

Mynd i'r afael ag anghenion cerddwyr a beicwyr wrth gynnal gwaith stryd a gweithgareddau cynnal a chadw.

Cyfarwyddiadau ar gyfer eu defnyddio

Mae'r ddogfen ganllaw hon yn manylu ar weithdrefnau ar gyfer nodi, dylunio a chynnal gwaith stryd a gwaith ffordd ar lwybrau teithio llesol. Dylai swyddogion sy'n rhan o'r gwaith o weinyddu, dylunio a chynnal gwaith stryd a gwaith ffordd ei darllen.

Cyflwyniad

1.1 Caiff y nodyn cyfarwyddyd hwn ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac mae'n pennu'r gweithdrefnau ar gyfer rheoli gwaith stryd, gwaith ffordd a gweithgareddau cynnal a chadw cysylltiedig pryd bynnag y gallant effeithio ar gerddwyr a beicwyr. Mae'n darparu canllawiau atodol ar gyfer 'Safety at street works and road works: a code of practice 2013' (y Llyfr Coch) er mwyn paratoi i ddiweddaru hyn yn y dyfodol. Nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu nifer y bobl sy'n cerdded a beicio ar eu teithiau arferol yn sylweddol, ac mae rheoli gwaith stryd, gwaith ffordd a gweithgareddau cynnal a chadw yn allweddol er mwyn hwyluso hyn. Bydd pobl ond yn rhoi'r gorau i deithio mewn car er mwyn cerdded neu feicio os yw'r llwybr sydd ar gael iddynt yn ddiogel, yn gyfforddus, yn glir ac yn uniongyrchol. Dylid darparu ar gyfer beicwyr a cherddwyr bob amser mewn perthynas â gwaith ffordd a gwaith stryd, ond mae llwybrau teithio llesol yn arwyddocaol am eu bod yn denu amrywiaeth ehangach o ddefnyddwyr.

1.2 Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol, sef cynghorau sir neu cynghorau bwrdeistref sirol. Mae gan awdurdodau lleol sawl swyddogaeth gan gynnwys swyddogaethau ‘awdurdod priffyrdd’ ac ‘awdurdod strydoedd’. Yn ei rôl fel awdurdod strydoedd, mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau o dan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 mewn perthynas â gwaith stryd a gynhaliwyd gan ymgymerwyr statudol (neu unigolion trwyddedig), a chaiff gwaith ffyrdd ei gynnal gan yr awdurdod priffyrdd fel rhan o'i waith o arfer swyddogaethau o dan Deddf Priffyrdd 1980. Gwnaeth Deddf Rheoli Traffig 2004 sawl newid i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 sy'n berthnasol ac y cyfeiriwyd atynt yn y ddogfen. Yn y nodyn cyfarwyddyd hwn, caiff y termau awdurdod lleol, awdurdod stryd ac awdurdod priffyrdd eu defnyddio yn unol â'r ddyletswydd sy'n gael ei chyflawni.

1.3 Daeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i rym yng Nghymru ym mis Medi 2014 ac mae'n gosod sawl dyletswydd ar awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru. Dylai'r canllawiau hyn gael eu defnyddio gan y rhai sy'n cynllunio, yn dylunio ac yn cynnal gwaith stryd a gwaith ffordd sy'n effeithio ar bob ffordd lle caniateir i bobl gerdded a beicio, gan gynnwys llwybrau teithio llesol dynodedig. Mae'n bwysig bod llwybrau teithio llesol hygyrch, diogel a chyfleus yn cael eu creu i gerddwyr a beicwyr fel rhan o waith stryd a gwaith ffordd.

1.4 Mae'r ddogfen hon yn atodol at y darpariaethau deddfwriaethol a rheoliadol a geir yn 'Safety at street works and road works: a code of practice 2013' (y Llyfr Coch) a'r canllawiau a geir ym mhennod 8 o'r 'Traffic signs manual 2009'. Mae'r darpariaethau hyn ar gael i'w defnyddio ar y rhwydwaith a byddant yn dibynnu ar asesiadau risg addas. Mae'r ddogfen hon yn darparu cyngor gweithredol i ategu canllawiau Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

1.5 Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i rwydwaith ffyrdd a rhwydwaith cefnffyrdd awdurdodau lleol, y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod priffyrdd drostynt.

Image
Llun o lôn deuol ar gyfer teithio llesol a rhoddfa

 

1.6 Gall trefniadau rheoli traffig gwael beryglu cerddwyr a beicwyr neu olygu bod llwybrau yn anaddas i bobl anabl. Hyd yn oed os yw'r camau hyn yn anfwriadol, e.e. parcio cerbyd gwaith ar droedffordd, mae'n hawdd iddynt greu rhwystr ar y llwybr sy'n golygu bod cerddwyr a beicwyr yn wynebu risg am fod rhaid iddynt fynd o amgylch y cerbyd neu safle'r gwaith stryd neu waith ffordd. Gall y rhwystr canfyddedig hwn wneud y daith gyfan yn anneiniadol i ddefnyddwyr a pheri iddynt newid i ddull teithio llai cynaliadwy. Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn yn helpu dylunwyr, cynllunwyr a gweithredwyr i gynllunio a chynnal eu gwaith heb achosi'r problemau hyn.

1.7 Ceir esboniad llawn o'r pwerau a'r dyletswyddau sydd gan awdurdodau cenedlaethol a lleol mewn perthynas â Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yng Nghanllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

1.8 Mae dwy ran i'r canllawiau hyn:

Rhan 1: Cynllunio gwaith stryd a gwaith ffordd

2. Teithio llesol

2.1 Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau mai teithio llesol yw'r opsiwn mwyaf deniadol i bobl ar gyfer teithiau byrrach, gan ddisodli teithiau car. Un agwedd bwysig yw creu rhwydweithiau lleol o lwybrau cerdded a beicio. Yr amcan yw cynyddu cyfraddau cerdded a beicio a fydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at nodau Llywodraeth Cymru o safbwynt datblygu cynaliadwy a gwella iechyd a llesiant y genedl.

2.2 Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru lunio mapiau teithio llesol a sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a gwneud gwelliannau i lwybrau a chyfleusterau teithio llesol presennol bob blwyddyn. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau priffyrdd yng Nghymru wneud gwelliannau i lwybrau a chyfleusterau i gerddwyr a beicwyr fel rhan o bob cynllun ffyrdd newydd ac ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr fel rhan o'u swyddogaethau eraill fel awdurdodau priffyrdd, megis gwneud gwaith cynnal a chadw arferol a gwneud gwelliannau i briffyrdd. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol hyrwyddo teithio llesol wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.

2.3 Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ystyried Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wrth arfer eu swyddogaethau statudol eraill fel awdurdodau stryd a phriffyrdd. Caiff y dyletswyddau o dan y Ddeddf eu gosod ar yr awdurdodau lleol yn gyffredinol ac maent yn gymwys hefyd i Weinidogion Cymru yn eu rôl fel yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd.

2.4 O dan Ran 3 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, rhaid i awdurdodau lleol ac ymgymerwyr statudol ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr wrth wneud y canlynol:

  • rhoi trwyddedau gwaith stryd;
  • rhoi cyfarwyddiadau ynghylch amseriad gwaith stryd;
  • gosod cyfarpar;
  • cyfyngu ar waith stryd yn dilyn gwaith ffordd sylweddol;
  • arfer eu dyletswyddau i gydgysylltu gwaith; 
  • rhoi caniatâd i osod cyfarpar ar stryd a warchodir.

2.5 Dylai awdurdodau lleol, awdurdodau priffyrdd ac ymgymerwyr statudol ystyried yr effeithiau y gallai gwaith stryd a gwaith ffordd eu cael ar gerddwyr a beicwyr a mynd i'r afael â hyn fel rhan o'r broses gydgysylltu. Dylai awdurdodau stryd geisio amharu cyn lleied â phosibl ar gerddwyr a beicwyr wrth roi unrhyw gyfarwyddiadau neu osod unrhyw gyfyngiadau ar waith stryd.

3. Y broses fapio

3.1 Mae awdurdodau lleol wedi diffinio eu llwybrau teithio llesol presennol a chaiff y rhain eu dangos ar Fapiau Llwybrau Presennol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru. Yn gyffredinol, mae'r mapiau hyn wedi'u llunio ar gyfer aelodau'r cyhoedd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol iddynt fel y gallant weld ble mae'r llwybrau hyn a chynllunio eu teithiau yn unol â hynny.  Mae awdurdodau lleol hefyd wedi nodi llwybrau arfaethedig y maent yn bwriadu eu creu yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy (15 mlynedd).

3.2 Caiff y rhain eu dangos ar y Mapiau Rhwydwaith Integredig. Caiff y mapiau hyn eu cyhoeddi ar wefannau'r awdurdodau lleol fel arfer. Yn y dyfodol, caiff Mapiau Llwybrau Presennol a Mapiau Rhwydwaith Integredig eu cyfuno i greu un Map Rhwydwaith Teithio Llesol a fydd yn dangos llwybrau presennol a'r ychwanegiadau a'r gwelliannau arfaethedig. Felly, caiff y term ‘map rhwydwaith teithio llesol’ ei ddefnyddio yn y nodyn cyfarwyddyd hwn wrth gyfeirio at unrhyw un o'r mapiau.

4. data strydoedd cysylltiedig

4.1 Nid yw'r mapiau teithio llesol ar wefannau teithio llesol awdurdodau lleol yn cynnwys cyfeiriadau digonol at waith stryd ar eu ffurf bresennol. Dylai awdurdodau lleol ddiffinio eu llwybrau fel Data Strydoedd Cysylltiedig fel eu bod yn cael eu cofnodi ar y National Street Gazetteer (NSG) gan alluogi'r rhai sy'n hyrwyddo gwaith i nodi eu lleoliadau'n gywir. Ceir rhagor o wybodaeth am yr NSG ar y wefan ganlynol: National Street Gazetteer

4.2 Yn dibynnu ar bwysigrwydd strategol y llwybr teithio llesol ac a oes unrhyw nodweddion arbennig ai peidio, gallai'r wybodaeth a gaiff ei phriodoli i'r stryd a'i chofnodi yn yr NSG gynnwys y canlynol:

  • diffinio'r llwybr fel un sy'n sensitif i draffig (sy'n golygu y gellir gwahardd gwaith ar amseroedd arbennig),
  • diffinio'r llwybr fel stryd sydd ag anawsterau peirianyddol arbennig/anghenion adeiladu arbennig,
  • diffinio'r strydoedd sy'n rhan o lwybr strategol,
  • diffinio'r llwybr fel lonydd blaenoriaeth.

Lluniwyd y meini prawf hyn fel cyngor yn unig a bydd angen cytuno â'r ymgymerwyr statudol o ran cynnwys gwybodaeth am deithio llesol yn un o'r categorïau hyn.

4.3 Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod awdurdodau stryd yn cofnodi llwybrau teithio llesol mewn ffordd gyson fel y gall ymgymerwyr statudol gael gafael ar y wybodaeth hon yn hawdd. Mae Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau Cymru (HAUC Cymru) wrthi'n gweithio gyda Geoplace i bennu'r cod priodol neu i weld a ellir ailactifadu cod nas defnyddir mwyach yn benodol ar gyfer llwybrau teithio llesol.

4.4 Bydd angen i fanylion am lwybrau teithio llesol gael eu hychwanegu fel sylwadau pellach yn ardal ystyriaethau lleol y cod.

4.5 Mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol yn diweddaru'r NSG gyda llwybrau teithio llesol ac, er mwyn gwneud hyn, bydd yn rhaid i'r swyddog teithio llesol a'r tîm gwaith stryd gydweithio â'i gilydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am adroddiadau data gwiriadau iechyd gan Geoplace i edrych ar gydymffurfiaeth awdurdodau stryd.

4.6 Mae'r mapiau o'r rhwydwaith teithio llesol yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol at ddibenion blaengynllunio y dylid ei chynnwys mewn cyfarfodydd cydgysylltu. Mae'r manylion ar wefannau awdurdodau lleol yn annigonol i allu pennu hysbysiadau blaengynllunio, ond maent yn rhoi syniad o fwriadau awdurdodau lleol.

5. Cydgysylltu

5.1 Mae adran 59 ac adran 60 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoli a chydgysylltu gwaith stryd. Mae'r awdurdodau stryd yn gyfrifol am gydgysylltu gwaith ar eu ffyrdd eu hunain. Mae adran 59 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod stryd ymdrechu i'r eithaf i gydgysylltu gwaith stryd ac mae adran 60 yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwyr ymdrechu i'r eithaf i gydweithio â'r awdurdod stryd ac ymgymerwyr eraill. Mae'r prosesau cydgysylltu wedi'u hamlinellu yng Nghod Ymarfer ar gyfer Cydgysylltu (Cymru) (Ionawr 2008). Anogir defnyddio dulliau electronig i drosglwyddo hysbysiadau am waith stryd a gwaith ffordd i awdurdodau stryd.

5.2 Ar yr amod bod yr awdurdod stryd wedi diweddaru'r NSG yn gywir, bydd disgwyl i'r ymgymerwyr statudol gynllunio eu gwaith o gwmpas llwybrau teithio llesol. Os nad oes llwybrau teithio llesol wedi cael eu nodi ar yr NSG, yna dylai awdurdodau stryd hysbysu ymgymerwyr statudol drwy wneud sylwadau ar yr hysbysiad.

5.3 Gwnaeth adran 51 ac adran 52 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 newidiadau i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 sy'n rhoi mwy o reolaeth dros pryd y gellir gwneud gwaith. Er enghraifft, mae adran 58 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 yn caniatáu i'r awdurdod stryd gyfyngu ar y gwaith o gynnal gwaith stryd ar rannau o'r briffordd lle bu gwaith ffordd sylweddol (er enghraifft, ailadeiladu neu ailarwynebu) am gyfnod penodedig o hyd at bum mlynedd. Gall hyn gynnwys seilwaith teithio llesol mawr, er enghraifft, traciau beiciau ar wahân sydd wedi cael eu hadeiladu'n benodol ar gyfer llwybrau beicio mawr.

5.4 Ar ôl i hysbysiad gael ei gyhoeddi yn nodi manylion am y cyfyngiad, ni ellir cwblhau unrhyw waith stryd yn ystod y cyfnod penodedig heb ganiatâd yr awdurdod stryd. Nid yw'r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i rai mathau penodol o waith, gan gynnwys cysylltiadau gwasanaeth ar ôl cyfnod o 21 diwrnod a gwaith brys  (adran 6.5.1 Cod Ymarfer ar gyfer Cydgysylltu). Gwnaeth adran 43(2) o Ddeddf Rheoli Ffyrdd 2004 ddiwygio Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 er mwyn ei gwneud yn glir y caiff awdurdodau stryd roi cyfarwyddiadau ynghylch amseriad unrhyw waith a'r diwrnodau y cynhelir y gwaith hwnnw.

5.5 At hynny, gall yr awdurdod stryd, o dan rai amgylchiadau, roi cyfarwyddyd i ymgymerwyr ddefnyddio llwybr arall i osod cyfarpar a fyddai'n achosi llai o darfu a dylid ystyried hyn mewn achosion lle gallai cau llwybr teithio llesol strategol ddargyfeirio nifer sylweddol o gerddwyr neu feicwyr.

6. 'Safety at street works and road works: a code of practice 2013' (y Llyfr Coch) a phennod 8 o'r 'Traffic signs manual 2009'

6.1 Mae 'Safety at street works and road works: a code of practice 2013' (Y Llyfr Coch) a phennod 8 o'r 'Traffic signs manual 2009' yn amlygu cyfrifoldebau'r sawl sy'n dylunio'r gwaith a'r trefniadau rheoli traffig i gynnal asesiadau risg o'r safle gwaith stryd neu waith ffordd a'r gwaith cysylltiedig wrth ddylunio'r cynllun rheoli traffig dros dro. Bydd gan bob safle gwaith stryd neu waith ffordd nodweddion gwahanol o safbwynt cynllun, y lled sydd ar gael, llifau cerddwyr, beicwyr a cherbydau ac ati, ac mae angen asesu'r rhain er mwyn diwallu anghenion pawb sy'n defnyddio'r ffordd.

6.2 Yn achos llwybrau teithio llesol, mae'n rhaid rhoi ystyriaeth arbennig i gerddwyr a beicwyr. Os na ellir gwneud darpariaethau, yna mae'n rhaid i'r dylunydd ymgynghori â'i oruchwyliwr ynghylch darpariaeth amgen. Gall darpariaeth o'r fath gynnwys darparu llwybr dargyfeirio sy'n cyd-fynd â'r dimensiynau gofynnol a nodir yng nghanllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol.

6.3 Dylai anghenion pob cerddwr  a beiciwr gael eu hystyried yn llawn wrth wneud unrhyw drefniadau amgen. Lle bo hynny'n bosibl, dylid rhoi blaenoriaeth i gynnal mynediad i gerddwyr a beicwyr yn ystod gwaith stryd a gwaith ffordd ac, yn benodol, dylid ystyried a fyddai newid o lwybr ar wahân i lwybr ar y gerbytffordd yn briodol, yn ddiogel ac yn hygyrch i ddefnyddwyr. Pan fydd angen cau ffordd i fonitro traffig ond gall barhau i fod yn agored ar gyfer cerddwyr a beicwyr, dylid gwneud hynny'n glir gydag arwyddion priodol.

7. Llwybrau cerdded

7.1 Mae cerdded (sy'n cynnwys pobl sy'n defnyddio cymhorthion symudedd, cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd) yn elfen allweddol o deithio llesol. Mae hyn yn cynnwys teithiau i ysgolion, siopau a chanolfannau hamdden, canolfannau meddygol a gwaith yn ogystal â theithiau cysylltiedig i/o feysydd parcio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Gall fod llifau uchel o gerddwyr ar lwybrau allweddol ac, felly, mae angen rhoi ystyriaeth arbennig i'r llwybrau hyn.

7.2 Gall gwaith stryd a gwaith ffordd gael effaith andwyol fawr ar gerddwyr. Gall pobl anabl yn benodol wynebu risg. Gall diofalwch wrth osod arwyddion a chyfarpar achosi cryn dipyn o darfu a risg sylweddol o anaf. Er enghraifft, arwyddion blaenrybudd sy'n creu rhwystr ar droedffyrdd, methiant i osod rampiau, arwyddion aneglur.

7.3 Mae cynllun unffurf ar gyfer gwaith ffordd neu waith stryd o fudd i bobl anabl, ynghyd â threfniadau clir ar gyfer llwybrau i gerddwyr Mae sylw i fanylder yn hollbwysig o ran darparu dangosyddion clir ar gyfer y gwaith o newid o'r olygfa stryd arferol i'r amgylchedd gwaith stryd neu waith ffordd. Mae ystyriaethau pwysig yn cynnwys gosod bariau a chonau mewn rhes i greu ‘ymyl’ neu reilen dywys i unigolyn dall neu rannol ddall ddefnyddio ei ffon i'w dywys ar hyd llwybr ac i fyny ac i lawr rampiau ar y droedffordd. Mae angen darparu rampiau i fyny ac i lawr cyrbiau ar gyfer y rhai mewn cadeiriau olwyn a cherddwyr â phramiau neu fygis Dylid darparu llwybrau i gerddwyr drwy'r gwaith neu, os nad yw hynny'n bosibl, dylid darparu llwybrau dargyfeirio addas o amgylch y gwaith. Ceir rhagor o fanylion yn Rhan 2.

8. Llwybrau beicio

Image
Llun o lôn deuol ar gyfer teithio llesol

 

8.1 Mae llwybrau beicio yn elfen bwysig o lwybrau teithio llesol ac maent yn amrywio o lwybrau defnydd cyfun i lonydd beicio ar wahân a lonydd beicio ar gerbytffyrdd. Mae'n rhaid diwallu anghenion beicwyr ym mhob achos ac nid yw'n dderbyniol nac yn rhesymol gosod arwydd ‘beicwyr - man disgyn’ a disgwyl i feicwyr ddefnyddio'r llwybrau i gerddwyr. Yn ogystal, bydd hyn yn achosi problemau sylweddol i bobl sy'n defnyddio beiciau wedi'u haddasu fel cymhorthion symudedd.

8.2 Wrth ddiffinio llwybrau beicio drwy waith stryd a gwaith ffordd, dylid rhoi ystyriaeth i led lonydd y gerbytffordd a hyd y trefniadau rheoli traffig yn ogystal â diogelwch unrhyw bwyntiau trosglwyddo dros dro rhwng cyfleusterau ar y gerbytffordd a chyfleusterau oddi ar y gerbytffordd.

8.3 Wrth ddylunio cynlluniau rheoli traffig, dylid dylunio ar gyfer unrhyw risgiau a nodir fel bod unrhyw beryglon yn cael eu dileu neu eu lliniaru'n ddigonol. Mae teithio llesol yn cynnwys pawb sy'n beicio a bydd hyn yn cwmpasu unigolion o unrhyw oedran neu gyflwr corfforol yn ogystal â'r rheini sy'n ystyried dechrau beicio am y tro cyntaf. Dylid darparu ar gyfer plant sy'n gallu teithio'n annibynnol o'r oedran y maent yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.

8.4 Ceir rhagor o ganllawiau yn Rhan 2.

Image
Llun o feicwyr yn beicio dros ramp ffordd (llun drwy garedigrwydd Sustrans)

Llun drwy garedigrwydd Sustrans.

9. Parcio ar droedffyrdd

9.1 Gall parcio ar droedffyrdd a phalmentydd beri rhwystrau ac anghyfleustra difrifol i gerddwyr, pobl anabl a phobl sydd â chadeiriau olwyn, sgwteri symudedd, pramiau a bygis.

9.2 Mae rhwystrau annisgwyl fel ceir yn peri perygl sylweddol a risg bosibl o anaf i bob grŵp o gerddwyr sy'n arfer eu hawl gyfreithiol i ddefnyddio'r briffordd.

9.3 Lle dynodir bod troedffyrdd yn rhai defnydd cyfun, bydd beicwyr yn bresennol ar y droedffordd a gallai hyn greu sefyllfa beryglus lle caiff cerddwyr a beicwyr eu cyfyngu i ardal gul wrth iddynt fynd heibio i gerbyd sy'n peri rhwystr.

Image
Llun o berson yn gwthio bygi babanod i'r ffordd wrth i gar barcio ar balmant

 

9.4 Mae'n bosibl bod gyrwyr sy'n parcio ar y droedffordd yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn drwy gadw'r gerbytffordd yn glir, ond nid ydynt yn meddwl am y canlyniadau pan fo'u cerbyd yn creu rhwystr ar y droedffordd. Y canlyniad yw na fydd pobl ddall a rhannol ddall yn ymwybodol o'r rhwystr nes ei bod yn rhy hwyr ac, o ganlyniad, mae cerbydau sydd wedi'u parcio ar y droedffordd yn peri risg sylweddol o anaf yn sgil gwrthdrawiadau. Mae hyn yn annerbyniol ar bob llwybr, gan gynnwys llwybrau teithio llesol.

9.5 Mae ‘parcio ar droedffordd’ yn cyfeirio at gerbydau sydd wedi parcio ar y droedffordd neu ran o'r droedffordd (Deddf Traffig Ffyrdd 1988). Yn ogystal â chreu rhwystrau, gall hyn greu costau ychwanegol i awdurdodau lleol am waith i atgyweirio difrod i slabiau pafin, arwynebau palmentydd a choncrid. Yn ogystal, gall parcio a gyrru cerbydau ar droedffyrdd beri difrod i gyfarpar a gorchuddion arwyneb ymgymerwyr statudol am nad ydynt yn addas at y diben hwn.

9.6 Mae cymysgedd o sancsiynau troseddol a sifil ar gael i'r heddlu ac awdurdodau lleol i'w galluogi i orfodi cyfyngiadau ar barcio ar droedffyrdd. Cafodd parcio ar droedffyrdd ei wahardd yn Llundain yn 1974 ac mae wedi'i wahardd ledled Lloegr ar gyfer cerbydau nwyddau mawr, ond nid yng Nghymru. Mae deddfwriaeth yn cael ei ystyried yng Nghymru.

9.7 Mae 'Safety at street works and road works: a code of practice 2013' (y Llyfr Coch) yn darparu canllawiau i sicrhau nad yw gwaith ffordd na gwaith stryd yn peri risg i unrhyw ddefnyddwyr ffyrdd, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr. Mae'r cod yn cynnwys gofynion penodol i atal cerbydau gwaith rhag creu rhwystr ar droedffyrdd a llwybrau beiciau.

10. Sgipiau a sgaffaldwaith

10.1 O dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (a139 ac a169), rhaid i'r awdurdod priffyrdd lleol gymeradwyo lleoliad pob sgip a sgaffaldwaith ar y rhwydwaith priffyrdd cyhoeddus cyn iddynt gael eu gosod ar y briffordd gyhoeddus. Ar ôl cael cymeradwyaeth, rhoddir caniatâd sgip neu drwydded sgaffaldwaith i'r darparwr perthnasol. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio telerau ac amodau o fewn eu caniatâd neu drwydded sy'n nodi:

  • Sgipiau: dylai sgip gael ei osod ar y gerbytffordd y tu allan i'r safle a nodir yn y drwydded a dylid ei leoli fel nad yw'n: rhwystro dŵr wyneb y briffordd rhag draenio; peri difrod i'r briffordd; rhwystro mynediad at unrhyw dyllau caead neu gyfarpar unrhyw ymgymerwr statudol. Os caiff sgipiau eu gosod ar y briffordd, mae angen gosod goleuadau a marciau diogelwch ar neu o gwmpas y sgip a allai gynnwys: marciau adlewyrchol, conau traffig, lampau diogelwch nos ac enw a rhif ffôn y cwmni hurio sgipiau. Os oes lôn feiciau ar y gerbytffordd, bydd yn rhaid gwneud darpariaeth ychwanegol gan y bydd sgip yn rhwystro'r lôn yn gyfan gwbl. Bydd angen mesurau rheoli traffig er mwyn dargyfeirio'r lôn feiciau heibio i'r sgip.
  • Sgaffaldwaith: rhaid i'r sgaffaldwaith gael ei oleuo a rhaid darparu llwybr i gerddwyr sy'n 1.2m o led o leiaf i fodloni'r awdurdod priffyrdd lleol. Ni ddylai'r sgaffaldwaith leihau lled gwirioneddol y droedffordd. Os yw'r droedffordd yn llwybr cyd-ddefnyddio, mae angen gwneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer beicwyr, megis arwyddion neu linellau ychwanegol ar y llwybr cyd-ddefnyddio. Ni ddylai'r sgaffaldwaith rwystro mynediad at siambrau tanddaearol, bocsys, tyllau caead, hydrantau ymgymerwyr statudol ac ati.
Image
Llun o sgaffaldiau a sgip ar balmant

 

11. Deunyddiau adeiladu

11.1 Yn debyg i sgipiau a sgaffaldwaith, rhaid i ddeunyddiau adeiladu (brics, tywod ac ati) a gaiff eu storio ar y briffordd gyhoeddus gael eu trwyddedu o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (a171) gan yr awdurdod priffyrdd lleol. Ni ellir storio deunyddiau ar linellau melyn dwbl nac ar lonydd bysiau na lonydd beicio. Ni ddylai awdurdod priffyrdd roi caniatâd i rwystro lôn / cyfyngiadau sy'n ddarostyngedig i Orchymyn Rheoleiddio Traffig. Os bydd sefyllfa fel hon yn codi, dylid ystyried defnyddio lleoliad arall ar ffordd ymyl.

12. Perthi, coed a llwyni sy'n bargodi'r briffordd gyhoeddus

12.1 Mae llystyfiant sy'n bargodi (perth, coeden neu lwyn yn cynnwys llystyfiant o unrhyw fath) yn peri perygl arbennig i bobl ddall a rhannol ddall, ond gall hefyd beri problemau i unrhyw feiciwr neu gerddwr. Mae llystyfiant yn lleihau lled gwirioneddol llwybr teithio llesol gan y bydd angen i feicwyr ganiatáu mwy o le i fynd heibio i'r rhwystr hwn. Gall llystyfiant direolaeth effeithio ar linellau gweld ar droeon a lleihau'r lled sydd ar gael i'w ddefnyddio.

12.2 Dylai perchennog neu ddeiliad eiddo sicrhau nad oes llystyfiant o'i eiddo yn rhwystro'r briffordd y tu allan i'w eiddo. Mae gan awdurdodau lleol bwerau o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (a154) i roi hysbysiad i berchennog y llystyfiant direolaeth neu i ddeiliad y tir y mae'r llystyfiant yn tyfu arno, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo docio, torri neu symud achos y perygl, y rhwystr neu'r ymyriad.

12.3 Rhoddir cyfnod o 14 diwrnod i berchennog y berth, y goeden neu'r llwyn neu i ddeiliad y tir gydymffurfio â'r hysbysiad (neu apelio i'r llys ynadon) ac ar ôl y cyfnod hwn, caiff yr awdurdod gyflawni'r gwaith ac adennill y treuliau rhesymol yr aeth iddynt wrth wneud hynny oddi ar y person dan sylw.

12.4 Gall gwreiddiau sy'n tyfu amharu ar yr arwyneb y droedffordd neu'r llwybr beicio a chreu perygl o faglu a byddant hefyd yn amharu ar ansawdd y daith feicio. Os na chânt eu clirio, gall dail greu perygl o lithro/sgidio mewn tywydd gwlyb. Dylai'r trefniadau cynnal a chadw fod yn briodol ar gyfer llwybr teithio llesol.

Image
Clocwedd. bag o dywod ar ochr y ffordd 2. gorhongian llwyni heb eu cadw ar balmant 3. dŵr yn gollwng i briffordd gyhoeddus 4. palmant preswyl. Mae sbwriel ar y palmant ac mae fan wedi'i barcio i gyfyngu'r lle i sgwter symudedd, cadair olwyn neu fygi fynd heibio.

Clocwedd. Bag o dywod ar ochr y ffordd 2. gorhongian llwyni heb eu cadw ar balmant 3. dŵr yn gollwng i briffordd gyhoeddus 4. palmant preswyl. Mae sbwriel ar y palmant ac mae fan wedi'i barcio i gyfyngu'r lle i sgwter symudedd, cadair olwyn neu fygi fynd heibio.

13. Dŵr yn gollwng ar y briffordd gyhoeddus

13.1 Mae'n drosedd i fethu â cydymffurfio â hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i berchennog safle adeiladu neu godi, ac wedi hynny, cynnal a chadw sianeli, cwteri neu bibellau dŵr o'r fath a all fod yn hanfodol er mwyn atal a) dŵr o'r to neu unrhyw ran arall o'r safle rhag cwympo ar unigolion sy'n defnyddio'r briffordd, neu b) cyhyd ag y bo'n rhesymol ymarferol, dŵr wyneb o'r safle rhag llifo i droedffordd y briffordd neu drosti, o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (a163). Gall dŵr ar y droedffordd beri perygl sylweddol i ddefnyddwyr ffyrdd, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Os bydd dŵr yn llifo ar ffordd sydd wedi cael ei thrin â halen/graean, gall hyn greu perygl penodol am y gall y dŵr olchi'r halen dadrewi i ffwrdd o arwyneb y ffordd gan adael i'r ffordd rewi. Dylai hyrwyddwyr gwaith sy'n gweithio ar y briffordd gyhoeddus roi mesurau ar waith i atal dŵr rhag llifo ar ffyrdd, troedffyrdd a llwybrau beicio cyfagos.

14. Celfi stryd a chaffis

14.1 Mae llawer o eitemau o gelfi stryd, gan gynnwys byrddau a chadeiriau, basgedi crog, bolardiau a pholion lamp, yn ymddangos ar briffyrdd am resymau amwynder a rhesymau esthetig.

14.2 Mae gan awdurdodau lleol bwerau disgresiwn o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (a115e) i drwyddedu caffis palmant. Wrth ystyried rhoi trwydded o'r fath, dylid ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng hyrwyddo canolfannau trefol a'u hyfywedd masnachol ac anghenion defnyddwyr y ffordd, yn enwedig pobl anabl. Dylai awdurdodau lleol ystyried eu dyletswydd i ddiogelu holl ddefnyddwyr y ffordd wrth arfer unrhyw bŵer trwyddedu a all effeithio ar y rhwydwaith ffyrdd.

14.3 Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod gofynion trwyddedu yn cael eu gorfodi'n briodol er mwyn sicrhau bod unrhyw ddodrefn caffi wedi'u trwyddedu a bod camau'n cael eu cymryd i sicrhau bod y byrddau a'r cadeiriau wedi'u hynysu'n ddigonol ac nad ydynt yn creu perygl na rhwystr afresymol ar y droedffordd.

15. Celfi stryd ar briffyrdd

15.1 O dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (a175A) mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ystyried anghenion pobl ddall a phobl anabl wrth osod polion lamp, bolardiau, arwyddion traffig, cyfarpar neu rwystrau parhaol eraill ar stryd.

15.2 Mae a4.7.6 o Ganllawiau Dylunio Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn cyfeirio at “unnecessary and badly placed street furniture” ac yn argymell, lle ceir llwybrau teithio llesol, y dylid gosod cyn lleied o gelfi stryd â phosibl ac y dylid gosod yr eitemau sy'n weddill mewn parth celfi stryd y tu allan  i'r llif cerddwyr.

15.3 Gall celfi stryd parhaol sydd wedi'u gosod mewn mannau synhwyrol, fel rheiliau a meinciau, fod yn gymhorthion tywys defnyddiol i bobl ddall a rhannol ddall. Fodd bynnag, mae problemau'n codi pan gânt eu lleoli a'u rheoli'n wael, eu gorddefnyddio, neu pan fo'r rhwystr ei hun yn anodd ei weld neu ei synhwyro.

Image
Clocwedd. 1: Bin sbwriel yn rhwystro palmant. 2: Byrddau a chadeiriau y tu allan i gaffi ar briffordd gyhoeddus. 3: Llwybrau troed wedi'u annibendod ag arwyddion. 4: Llun o arwyddion yn rhwystro llwybrau cyhoeddus.

Clocwedd. 1: Bin sbwriel yn rhwystro palmant. 2: Byrddau a chadeiriau y tu allan i gaffi ar briffordd gyhoeddus. 3: Llwybrau troed wedi'u annibendod ag arwyddion. 4: Llun o arwyddion yn rhwystro llwybrau cyhoeddus.

16. Arwyddion anghyfreithlon a rhwystrau ar droedffyrdd

16.1 Mae'n hanfodol i lawer o bobl, gan gynnwys pobl ddall a rhannol ddall, gael llwybr clir i gerdded ar hyd troedffordd. Yn aml, gallant wynebu risg o anaf wrth gerdded heibio i siopau am fod byrddau hysbysebu wedi'u gwasgaru ar hyd y droedffordd, gan greu rhwystr peryglus mewn rhai achosion.

16.2 O dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (a137, a149 ac a152), gall ymyriad anghyfreithlon ar y briffordd greu rhwystr neu niwsans ar y briffordd. Gall yr awdurdod lleol gymryd camau i symud unrhyw nwyddau sy'n cael eu harddangos, arwyddion ac eitemau diawdurdod eraill pan fyddant yn rhwystro troedffordd neu ardal i gerddwyr, i'r graddau eu bod yn peri anghyfleustra i gerddwyr. Gall arwyddion ac eitemau eraill amharu ar welededd modurwyr a chyfyngu ar led y droedffordd gan orfodi cerddwyr i fynd ar y ffordd, naill ai'n uniongyrchol neu oherwydd nifer y cerddwyr. Gall arwyddion ac eitemau eraill fod yn berygl sylweddol i gerddwyr ynddynt eu hunain.

16.3 O dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992, mae'n drosedd arddangos hysbyseb awyr agored heb gael caniatâd yr awdurdod cynllunio lleol. Mae nifer o gategorïau o ganiatâd tybiedig, ond nid yw'n ymddangos bod byrddau-A yn perthyn i'r categorïau hyn. Er mwyn cael caniatâd, byddai angen i'r hysbyseb gael caniatâd penodol gan yr awdurdod priffyrdd hefyd.

17. Gwasanaethau bysiau

17.1 Mae cynnal gwasanaethau bysiau yn ystod gwaith stryd a'r gwaith ffordd yn flaenoriaeth allweddol i awdurdodau lleol. Felly, dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau nad oes unrhyw effaith ar wasanaethau, yn enwedig am fod llwybrau bysiau yn rhan o'r system trafnidiaeth integredig y mae teithio llesol yn elfen allweddol ohoni. Os nad yw hynny'n bosibl, dylid ystyried mesurau dros dro, gan gynnwys:

  • Cynllunio cyfnodau rheoli traffig i osgoi gorfod cau arosfannau bysiau. Dylid darparu arosfannau bysiau dros dro os nad yw hynny'n bosibl.
  • Sicrhau bod lôn fysiau benodedig ar gael o hyd. Os oes nifer mawr o wasanaethau bysiau, dylid ystyried cadw cyfleuster penodedig ar gyfer bysiau'n unig a dargyfeirio cerbydau modur eraill.
  • Peidio â defnyddio llwybrau dargyfeirio os nad oes wir angen gwneud hynny.
  • Darparu gwasanaeth bws gwennol amgen. Gellir defnyddio bws mini llai o faint a all fynd o amgylch safle'r gwaith stryd neu waith ffordd, neu fws llai o faint a fydd yn dilyn llwybr dargyfeirio lleol byr i ffwrdd oddi wrth y gwaith.
  • Darparu arolygwr (banksman) mewn ardaloedd lle mae'n rhaid i fysiau droi neu fanwfro o ganlyniad i waith ffordd a gwaith stryd.

17.2 Bydd angen i hyrwyddwyr gwaith ddeall yr effeithiau ar amseroedd teithio a'r goblygiadau cost i'r cwmnïau bysiau wrth ddylunio cynigion. Gall timau trafnidiaeth gyhoeddus awdurdodau lleol roi rhagamcan o nifer y teithwyr bysiau y gallai unrhyw gyfyngiadau ar deithiau bysiau effeithio arnynt. Gall mynediad drwy safle'r gwaith stryd neu waith ffordd yn ystod gwaith adeiladu hefyd beri oedi i deithwyr bysiau, boed hynny ar y llwybr ei hun neu am fod arosfannau bysiau a lonydd bysiau wedi'u hatal dros dro.

17.3 Mae angen cael caniatâd gwahanol i atal arosfannau bysiau a lonydd bysiau dros dro. Gall lonydd bysiau gael eu hatal drwy wneud cais am ataliad dros dro.

17.4 Dylai pob math o gerbyd allu ymdopi â chynllun safle gwaith stryd neu waith ffordd. Gall awdurdodau lleol ofyn i ddadansoddiad o symudiadau cerbydau (swept path analysis) gael ei gynnal i brofi bod hyn yn bosibl, yn enwedig yn achos cerbydau cymalog a digymalog hir ar olwynion. Fel gyda beiciau, mae mesuriadau lled gofynnol wedi'u pennu fel y gall bysiau a cherbydau mawr eraill ymdopi â chynlluniau mesurau rheoli traffig.

17.5 Mae'n bosibl y gellir adennill unrhyw gostau yr eir iddynt sy'n gysylltiedig â gwahardd neu gyfyngu ar draffig ar ffordd dros dro, neu gostau sy'n codi o ganlyniad i hynny, oddi ar yr hyrwyddwr gwaith o dan adran 76 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991.

Image
Clocwedd. 1: arwyddion ffyrdd ar droedffordd gyhoeddus. 2: safle bws dros dro gada arwyddion a bolardiau ar neu yn nhroedle'r ffordd. 3: arwyneb ffordd gwael. 4: gwaith cloddio yn digwydd wrth ymyl y ffordd, gan gulhau'r palmant.

Wrth glocwedd. 1: arwyddion ffyrdd ar droedffordd gyhoeddus. 2: safle bws dros dro gan ddefnyddio arwyddion a bolardiau ar neu yn nhroedle'r ffordd. 3: arwyneb ffordd gwael. 4: gwaith cloddio yn digwydd wrth ymyl y ffordd, gan gulhau'r palmant.

18. Ansawdd arwynebau

18.1 Dylai cynllunwyr gwaith ffordd ystyried y peryglon penodol y mae cerddwyr a beicwyr yn dod ar eu traws megis arwynebau anwastad, arwynebau llithrig neu arwynebau sy'n rhy arw neu arwynebau wedi'u llyfnhau mewn ardaloedd lle mae gwaith yn mynd rhagddo i ailarwynebu cerbytffordd. Os caiff cerddwyr neu feicwyr eu cyfeirio i ffwrdd o lwybr teithiol llesol, dylid cynnal asesiad risg i sicrhau nad ydynt yn cael eu dargyfeirio ar arwynebau peryglus a/neu  haearnwaith sydd wedi'i godi. Os bydd arwyddion yn eu cyfeirio at lwybr dargyfeirio, yna dylid asesu arwyneb y llwybr amgen a'i wneud yn ddiogel os bydd angen, cyn i'r dargyfeiriad gael ei ddefnyddio.

18.2 Dylai unrhyw ddifrod i droedffyrdd a llwybrau beiciau gael ei nodi fel rhan o weithdrefn arolygu'r awdurdod priffyrdd a'i osod mewn categori priodol i'w atgyweirio. Dylid gwneud gwaith atgyweirio dros dro a / neu osod arwyddion a giardiau ar unwaith cyn gwneud gwaith atgyweirio parhaol.

Image
Llun o lôn feicio wedi'i difrodi a rhwystr sydd wedi'i ddifrodi

Rhan 2: Canllawiau gweithredol ar gyfer gwaith stryd a gwaith ffordd

19. Llwybrau cerdded drwy waith stryd a gwaith ffordd

19.1 Mae'r lled sydd ar gael yn ystyriaeth bwysig ar gyfer llwybrau i gerddwyr, yn enwedig mewn ardaloedd trefol prysur lle ceir llawer o gerddwyr oherwydd gallai rhannau llai llydan arwain at fannau annerbyniol o gul lle nad oes lle i gerddwyr basio ei gilydd. Mae'r problemau hyn yn waeth byth i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a cherddwyr â bygis, neu debyg. Fel arfer, dylai troedffordd fod yn 1.5m o led fan o leiaf. Caniateir lled o 1.2m os yw'r droedffordd wedi'i dargyfeirio dros dro ar lwybr a warchodir ar y gerbytffordd.

19.2 Rhaid rheoli unrhyw ryngwyneb rhwng cerddwyr a beicwyr yn ofalus. Mae'n bosibl na fydd gan cerddwyr dall a rhannol ddall unrhyw ffordd o wybod eu bod bellach yn rhannu lle gyda beicwyr ac felly dylid rhoi rhyw fath o drefniadau gwahanu ar waith.

19.3 Pan fo gwaith cloddio yn cael ei wneud ar droedffordd, dylid cynnal mynediad i gerddwyr. Os nad yw'r ardal yn ddigon mawr i gynnal llwybr cerdded ar droedffordd, dylid dargyfeirio cerddwyr ar lwybr cerdded dros dro ar y gerbytffordd neu eu dargyfeiro ar y droedffordd gyferbyn. Dylid nodi bod cŵn tywys yn cael eu hyfforddi i arwain eu perchennog at ymyl y cyrb os yw'r ffordd ymlaen wedi'i rhwystro. Felly, mae'n hanfodol bod y llwybr i gerddwyr yn glir ac yn hawdd i'w ddilyn, neu mae'n bosibl y gall ci tywys arwain ei berchennog i'r ffordd anghywir yn anfwriadol.

Image
Llun o lonydd cerddwyr a beiciau ar wahân ochr yn ochr ac arwydd rhybudd

 

19.4 Mae'n bosibl y bydd cerddwyr dall a rhannol ddall yn defnyddio'r linell o rwystrau fel rheilen dywys ar hyd y llwybr cerdded. Felly, mae'n hanfodol bod yr ‘ymyl’ hwn yn cael ei gynnal drwy gydol y gwaith. Ni fydd mesurau dros dro, megis clymu tâp marcio o amgylch conau yn creu llinell ddigon clir i gerddwyr dall a rhannol ddall.

19.5 Dylid cynnal cyfleusterau croesi'r ffordd i gerddwyr lle bynnag y bo'n bosibl. Os bydd angen dargyfeirio cerddwyr i'r droedffordd gyferbyn, yna dylid gosod arwydd ar safle'r gwaith sy'n nodi bod y droedffordd ar gau ac arwydd cyn safle'r gwaith sy'n nodi bod y droedffordd ar gau nes ymlaen mewn lleoliad lle y mae'n ddiogel i bobl groesi'r ffordd (gan ddefnyddio cyfleusterau croesi'r ffordd symudol i gerddwyr).

19.6 Dylid defnyddio rampiau ar y droedffordd er mwyn galluogi cerddwyr i ddefnyddio sgwteri symudedd, cadeiriau olwyn a bygis i ymdopi â'r cyrb yn ddiogel. Pan gaiff y gwaith ei gau dros dro, e.e. dros nos, gellir gosod byrddau troedffordd dros dyllau bach (llai na 700mm o led) fel y gellir ailagor y droedffordd i gerddwyr. Dylai'r byrddau troedffordd fod yn 1.5m o led fel arfer (mae lled dirwystr gofynnol o 1m yn dderbyniol mewn safleoedd gwaith stryd a gwaith ffordd cyfyng).

19.7 Dylai byrddau troedffordd gael eu gosod yn ddiogel (yn sownd) a dylai rampiau ar droedffyrdd gael eu gosod yn eu lle fel y nodir yn 'Safety at street works and road works: a code of practice 2013' (y Llyfr Coch). Pan gaiff tyllau angori eu gwneud yn arwyneb y droedffordd, dylent gael eu hadfer fel y nodir yn y Fanyleb ar gyfer Adfer Agorfeydd mewn Priffyrdd, Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Mae'r adran berthnasol (a11.5 Tyllau Profi 1b) a 2a)) yn nodi:

  • Caiff tyllau profi hyd at 25mm o ddiamedr eu hadfer i safon barhaol ar unwaith.
  • Ar balmentydd, caiff tyllau profi eu hadfer gan ddefnyddio agregau mân, wedi'u cymysgu â sment neu fitwmen ar gyfer yr haenau uwch fel y bo'n briodol a'u cywasgu mewn haenau 100mm o drwch, neu lai, i orffen yn wastad â'r arwyneb.

19.8 Nid yw byrddau troedffordd yn addas i gerbydau ac felly dim ond ar droedffyrdd y dylid eu defnyddio i gynnal mynediad i gerddwyr.

Image
Llun o groesfan ffordd dros dro a ramp

 

19.9 Gellir gosod byrddau a rampiau troedffordd yn eu lle yn sownd mewn nifer o ffyrdd gwahanol yn dibynnu ar y math o fwrdd neu ramp dan sylw. Mae'r rhain yn cynnwys gosodiadau allanol megis eu pinio â hoelion a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer gosod platiau, systemau cloi mewnol sy'n cydio yn ochrau'r ffos a bagiau tywod ar blât codi a ddefnyddir i gadw'r bwrdd neu'r ramp yn ei le.

19.10 Rhaid cydymffurfio â 'Safety at street works and road works: a code of practice 2013' (y Llyfr Coch) wrth baratoi safle gwaith stryd neu waith ffordd ac mae'r cod hwn yn nodi'n glir: ‘where possible the vehicle should be parked off the road in a position that does not obstruct a footway or cycle route’. Wrth gyrraedd safle gwaith stryd neu waith ffordd, dylai hyrwyddwyr gwaith barcio eu cerbyd yn ddiogel cyn dadlwytho neu osod arwyddion. Ni ddylai hyrwyddwyr gwaith rwystro troedffordd na llwybr beicio wrth barcio oddi ar y ffordd, a dylent barchu mynedfeydd i safleoedd a thramwyfeydd.

19.11 Mae gosod a chynnal a chadw arwyddion, conau a ffensys yn hollbwysig er mwyn darparu llwybr clir drwy'r gwaith. Dylid gosod dangosyddion yn nodi y bydd yr olygfa stryd arferol yn newid i amgylchedd gwaith stryd neu waith ffordd ar bob pen i'r gwaith a dylid gosod rhwystrau neu gonau mewn rhes i greu ‘ymyl’ neu reilen dywys fel y gall unigolyn dall neu rhannol ddall ddefnyddio ei ffon i'w dywys ar hyd llwybr ac i fyny ac i lawr rampiau ar y droedffordd.

19.2 Dylai gweithwyr fod yn ystyriol wrth osod arwyddion ffordd oherwydd y gallant greu rhwystrau anfwriadol. Er enghraifft, os oes lôn feicio, mae'n bosibl y gall y gweithwyr osod arwyddion ar y droedffordd er mwyn cadw'r lôn feicio ar agor, ond wrth wneud hynny, mae'n achosi rhwystr ar y droedffordd a all fod yn berygl i gerddwr, yn enwedig os yw'n ddall neu'n rhannol ddall.

19.13 Dylai gweithwyr fod yn ystyriol wrth ddefnyddio cyfarpar swnllyd yn agos at bobl anabl. Er enghraifft, mae llawer o bobl ddall a rhannol ddall yn defnyddio eu clyw i wneud eu ffordd o amgylch gwaith a gall peiriannau trwm foddi'r synhwyrau hyn yn hawdd. Gallai gweithwyr roi'r gorau i'w gwaith dros dro i'w gwneud yn haws i ddefnyddiwr fynd heibio i'r gwaith.

19.14 Dylid bob amser gynllunio'r gwaith mewn ffordd sy'n galluogi person anabl i lywio'r safle gwaith heb gymorth, ond os bydd gweithwyr am helpu cerddwr, dylent ddilyn protocolau priodol ac esbonio ar lafar beth y byddant yn ei wneud.

20. Beicio drwy waith stryd a gwaith ffordd

20.1 Wrth roi cynlluniau rheoli traffig ar waith, dylid dylunio ar gyfer unrhyw risgiau a nodir fel bod unrhyw beryglon yn cael eu dileu neu eu lliniaru'n ddigonol. Mae'n rhaid ystyried pawb sy'n beicio. Bydd hyn yn cwmpasu unigolion o unrhyw oedran neu gyflwr corfforol, yn ogystal â'r rheini sy'n ystyried dechrau beicio am y tro cyntaf. Dylid darparu ar gyfer plant sy'n gallu teithio'n annibynnol o'r oedran y maent yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.

Image
Llun o feicwyr gyda phlentyn tu ôl hi mewn sedd. Mae beiciwr a'r plentyn yn nodi troad i'r dde gyda'u breichiau (llun drwy gwrteisi Sustrans)

Llun drwy gwrteisi Sustrans

20.2 Pan fo gwaith yn cael ei wneud ar ran o'r gerbytffordd (gall hyn gynnwys lonydd bysiau) lle nad oes darpariaeth barhaol i feiciau, naill ai yn y lleoliad ei hun neu'n agos i safle y gwaith stryd neu waith ffordd, ni ddisgwylir fel arfer y byddai angen lôn feicio dros dro ar gyfer y gwaith. Fodd bynnag, byddai angen gwneud darpariaeth i feicwyr pe bai asesiad risg yn dangos bod cynllun y ffordd a/neu ofynion y man gwaith yn golygu bod beicwyr mewn sefyllfa fwy peryglus am eu bod yn rhannu lle gyda cherbydau modur.

20.3 Os nodir bod beicwyr yn wynebu mwy o risg, dylid darparu nodweddion ychwanegol megis marciau dros dro ar y gerbytffordd, goleuadau gwahanu megis gwialenni, neu fesurau gwahanu ffisegol fel ffensys. Gallai risgiau gynnwys llifau traffig trwm, arwynebau gwael, symudiadau traffig adeiladu neu, yn syml, y nifer uchel o feicwyr. Un ystyriaeth bwysig yn ychwanegol at risg fydd y lle sydd ar gael ar y gerbytffordd a lled lonydd o ganlyniad i hynny. Dylid cydbwyso hyn â maint y gwaith a'r amser fydd ei angen i sefydlu'r mesurau rheoli traffig ychwanegol a'r tarfu fyddai'n gysylltiedig â hynny.

20.4 Fodd bynnag, nid oes angen gwneud darpariaeth feicio ychwanegol ar rannau o'r rhwydwaith ffyrdd mewn llawer o leoliadau ar yr amod bod y lonydd yn ddigon llydan a bod y peryglon yn isel.  O dan yr amgylchiadau hyn, gellir rhoi trefniadau rheoli traffig cyffredinol nodweddiadol ar waith heb fesurau ychwanegol i feicwyr, heblaw am arwyddion i'w rhybuddio am lonydd cul. Mae'n bwysig bod parthau diogelwch â thapr priodol yn cael eu darparu (gweler Safety at Streetworks and Road Works: A Code of Practice 2013 (Y Llyfr Coch) fel na fydd beicwyr yn gwyro'n sydyn i lwybr cerbydau eraill. Mae angen ystyried lled y lonydd traffig bob amser a pha mor agos y bydd cerbydau'n dod at lwybr y beiciwr. Dylid cwtogi ar hyd safle'r gwaith stryd neu waith ffordd gymaint â phosibl er mwyn lleihau'r effaith ar draffig cyffredinol a'r aflonyddwch i feicwyr.

20.5 Fodd bynnag, nid yw bob amser yn bosibl cynnal yr un lefel o wasanaeth i feicwyr o ganlyniad i gyfyngiadau ffisegol y briffordd. Yn ei hanfod, mae a wnelo hyn â lled y lonydd lle y mae'n ofynnol i feicwyr rannu lle ar y cerbytffordd gyda cherbydau modur wrth iddynt fynd heibio safle y gwaith stryd neu waith ffordd. Er mwyn lleihau'r risg o gerbydau yn goddiweddyd beicwyr yn rhy agos mewn lôn gul ac er mwyn hyrwyddo lefelau cysur gwell i feicwyr, dylid defnyddio arwydd dwyieithog yn nodi na ddylid goddiweddyd beicwyr ar lôn gul. Yn ogystal â'r lled gwirioneddol, dylid ystyried yr aliniad drwy safle y gwaith ffordd a gwaith stryd am fod mwy o risg i feicwyr ar droeon, mannau lle y ceir tagfeydd, rhwystrau igam-ogamu a chorneli.

20.6 Bydd lled y lonydd yn pennu a fydd y beiciwr yn symud ymlaen yn y prif safle ar y ffordd neu'r safle eilaidd ar y ffordd. Yn y prif safle ar y ffordd, mae'r beiciwr yn beicio yng nghanol y lôn ynghanol y llif traffig. Rhaid gwneud hyn yn achos lonydd sy'n 3m o led neu'n llai. Yn y safle eilaidd ar y ffordd, mae'r beicwyr yn beicio 0.5m i 1.0m i ffwrdd o ymyl y gerbytffordd ac mae digon o le i gerbydau oddiweddyd. Mae modd gwneud hyn yn achos lonydd sy'n fwy na 4.0m o led. Ni ddylid gosod mesurau rheoli traffig â lonydd rhwng 3.2m a 3.9m o led gan y bydd gyrwyr yn cael eu temtio i basio beicwyr heb roi digon o le iddynt.  Mewn achosion o'r fath, dylid defnyddio arwyddion i'w gwneud yn glir na chaniateir goddiweddyd beicwyr.

Image
Graffig yn dangos car y tu ôl i feicwyr, ac yn goddiweddyd beiciwr gyda threlar beic mewn car yn dibynnu ar led y lôn
Image
Graffig yn dangos car y tu ôl i feicwyr ac yn goddiweddyd beiciwr mewn car yn dibynnu ar led y lôn

 

20.7 Mae'n bosibl y bydd yr hyrwyddwr gwaith am ystyried gostwng terfynau cyflymder lle y defnyddir lonydd cul gan atal cerbydau modur rhag mynd heibio beicwyr yn ddiogel. Mewn rhai amgylchiadau, gellid hefyd ystyried gorfodi camerâu cyflymder.

20.8 Gall darnau hir o fesurau rheoli traffig godi ofn ar feicwyr a pheri rhwystredigaeth i yrwyr, yn enwedig os yw'r beiciwr yn defnyddio'r prif safle ar y ffordd. Felly, dylid darparu llwybr a warchodir lle bo hynny'n bosibl, fel y disgrifir yn 21.2.

20.9 Os yw'r hyrwyddwr gwaith yn cynnig defnyddio cyfyngiad cyflymder dros dro, dylai'r cyfyngiad hwn ystyried presenoldeb beicwyr drwy'r ardal waith.

20.10 Wrth ystyried hyd trefniadau rheoli traffig (ac amseroedd rhyng-wyrdd ar oleuadau traffig dros dro – gweler 21.9), dylai hyrwyddwyr gwaith ystyried cyflymder tebygol beicwyr sy'n pasio drwy'r gwaith oherwydd gallai dringfeydd gael effaith anffafriol ar eu cyflymder. Dylid ystyried gwneud y gwaith mewn camau er mwyn defnyddio llai o'r ffordd, a storio deunyddiau a pheiriannau i ffwrdd o lwybrau beiciau poblogaidd. Dylid cydbwyso hyn â'r cynnydd posibl yng nghost a hyd y gwaith.

20.11 Dylai'r hyrwyddwr gwaith ystyried y lle sydd ei angen ar feicwyr gan fod rhwystrau ffisegol ar uchder pedalau a chyrn beic er enghraifft yn gallu bod yn arbennig o beryglus. Dylid darparu mwy o led er mwyn rhoi digon o le i osgoi'r rhain. Caiff gwybodaeth fanwl am y lle sydd ei angen ar feicwyr ei nodi yn 12.17, 12.18 a 12.19 o ganllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol.

Image
Graffig yn dangos lled priodol i gar basio beiciwr yn ddiogel

 

20.12 Os yw hyrwyddwr gwaith yn defnyddio dull gweithio cyfnewid (shuttle working): naill ai arwyddion 'stop/go' neu oleuadau traffig dros dro, dylai'r rhain gael eu gosod  i roi digon o gyfle i feicwyr basio'n ddiogel drwy safle gwaith stryd a gwaith ffordd a dylid defnyddio'r amseroedd rhyng-wyrdd priodol i atal gwrthdrawiadau neu achosion o basio anniogel â cherbydau modur sy'n dynesu ar lôn arall. Mae 10mya i 15mya yn rhesymol i'r rhan fwyaf o feicwyr, ond gallai hyn ostwng i tua 7mya ar ddringfeydd. Ar ddisgynfeydd, gall beicwyr fod yn teithio ar 25mya neu fwy. Yn ogystal â hyn, mae angen i'r hyrwyddwr gwaith ystyried unrhyw lwybrau beicio a all ymuno â'r llwybr o fewn yr ardal gweithio cyfnewid a gosod arwyddion rhybudd priodol ar bob llwybr.

20.13 Os yw hyrwyddwr gwaith yn defnyddio trefniadau gweithio confoi, dylai'r cerbyd confoi yrru yn unol â'r cyfyngiad cyflymder penodedig, sef 10mya fel arfer (mae angen gorchymyn traffig dros dro ar gyfer trefniadau gweithio confoi). Dylai cyflymder o 10mya fod yn ddigonol i feicwyr fynd heibio i'r gwaith, ond rhaid i'r arolygwyr sy'n rheoli'r goleuadau traffig sicrhau bod beicwyr wedi mynd heibio i'r gwaith cyn rhyddhau'r cerbyd confoi sy'n hebrwng y llif gwrthwynebol. Mae'n rhaid i'r arolygwr (banksman) fod yn ymwybodol o alluoedd amrywiol beicwyr a sefyllfaoedd a all gwneud i feicwyr arafach deimlo dan bwysau.

20.14 Os oes lôn feiciau ar y gerbytffordd a gaiff ei rhwystro gan y parthau diogelwch neu'r ardal waith, yna disgwylir i'r cyfleuster gael ei gynnal drwy'r gwaith dros dro, oni ystyriwyd nad oes risg i feicwyr.

20.15 Pan fo'r mesurau gwahanu dros dro yn dod i ben, mae angen sicrhau bod beicwyr yn ailymuno â'r gerbytffordd mewn lleoliad a modd diogel. Mae angen i yrwyr a beicwyr allu gweld ei gilydd yn dda ac mae angen alinio eu llwybrau yn dda er mwyn sicrhau eu bod yn uno'n hwylus. Os nad oes modd darparu mesurau amlinellu neu wahanu, dylai dylunwyr ystyried lliniaru'r risg drwy ddefnyddio mesurau eraill, fel defnyddio arwyddion sy'n rhybuddio am berygl, gwahanu'r rhai sy'n defnyddio'r ffordd drwy ddargyfeirio cerbydau modur neu feicwyr ar lwybrau gwahanol, neu leihau cyflymder.

Image
Llun o lôn deuol ar gyfer beicio

 

20.16 Mae angen i gynllunwyr gwaith ffordd ystyried ymddygiad beicwyr a'r posibilrwydd y gallai beicwyr ymuno ac ymadael â'r cyfleuster rhwng silindrau traffig. Os yw'n ddymunol cadw beicwyr mewn lôn neu atal beicwyr rhag ymuno/gadael ar hyd y lôn, yna dylid defnyddio ffensys di-dor.

20.17 Wrth benderfynu ar y trefniadau mwyaf priodol, dylid ystyried amseroedd clirio i feicwyr, yn enwedig ar lethrau serth. Pan gaiff darlun rheoli traffig ei gyflwyno â goleuadau traffig symudol, yna dylid asesu'r darlun a'r lleoliad a dylid rhoi amseroedd y goleuadau i'r awdurdod lleol. Fel arall, dylai'r hyrwyddwr gwaith eu gweithredu fel y cytunwyd â'r awdurdod lleol neu'n unol ag argymhellion yr Adran Drafnidiaeth yn llyfryn ‘An Introduction to the use of Portable Vehicular Signals 2016’, a elwir hefyd yn 'Llyfr Pinc’.