Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Bydd pobl yn Abertawe yn elwa o gael diagnosis yn gynt yn dilyn buddsoddiad o £1.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru i uwchraddio cyfleusterau pelydr-x yn adran argyfwng Ysbyty Treforys.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid yn talu am system newydd sy’n defnyddio technoleg ddigidol fodern, yn lle'r hen system sy'n 15 mlwydd oed. Bydd y system newydd yn gallu cynhyrchu delweddau o ansawdd uchel ar unwaith, sy'n golygu bod canlyniadau ar gael yn gynt.

Bydd y system ddigidol newydd yn helpu i leihau lefel yr ymbelydredd i gleifion a staff, a bydd ei nodweddion lleoli awtomatig yn gwneud y peiriannau'n fwy diogel ac yn haws i radiograffwyr eu defnyddio.

Yn wahanol i'r hen system, sy'n gallu achosi oedi mewn diagnosteg i'r claf, bydd y systemau dibynadwy newydd yn gwneud y broses yn fwy effeithlon gan helpu timau meddygol i asesu mwy o gleifion.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

Rydyn ni'n buddsoddi miliynau i osod offer diagnostig newydd ac uwchraddio offer mewn ysbytai ar draws Cymru, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod gan y GIG yr offer modern sydd ei angen i wella gofal cleifion.

Bydd y systemau pelydr-x digidol awtomatig newydd yn helpu timau yn Ysbyty Treforys i roi diagnosis ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau yn gyflymach ac yn fwy cywir, gan helpu mwy o bobl i gael eu hasesu a dechrau ar eu triniaeth yn gynt.

Dywedodd arweinydd y safle radioleg yn Ysbyty Treforys, Ceri White:

Bydd y buddsoddiad hwn, sy'n darparu offer pelydr-x newydd ar gyfer yr adran argyfwng, yn gwella'r capasiti diagnostig yn sylweddol ac yn gwella llif y cleifion drwy un o'r adrannau argyfwng prysuraf yng Nghymru.

Bydd y system newydd yn golygu bod delweddu hanfodol ar gael yn gynt, gan alluogi clinigwyr i wneud penderfyniadau amserol a chynnig y gofal cywir i gleifion ar yr adeg iawn. Bydd hefyd yn helpu i greu amgylchedd gwaith gwell i radiograffwyr, ac yn helpu timau clinigol i ymateb yn fwy effeithiol i'r galw cynyddol mewn gofal brys.